Cyrchfan Aber

Credwn o waelod calon bod Aberystwyth yn gyrchfan arbennig i ymwelwyr. Mae wedi’i lleoli’n berffaith i brofi Cymru ar ei gorau.

Arhoswch gyda ni am Wyliau Haf neu estynnwch eich arhosiad ar ôl digwyddiad busnes i gael cyfle i weld beth sydd gan Aberystwyth, Ceredigion a Chymru i’w cynnig.

Gallwn gynllunio’r holl amserlen deithio, y gweithgareddau/atyniadau a logisteg teithio i gynorthwyo eich arhosiad, gan ddangos y dref a’r ardal gyfagos ar ei gorau.

Mae’r daith yr un mor bwysig â’r gyrchfan a gyda’n gilydd gallwn roi cyngor am y llwybrau teithio a’r teithlenni sy’n eich galluogi i weld golygfeydd trawiadol, trefi darluniaidd, safleoedd chwedlonol hanesyddol, neu hyd yn oed leoedd i stopio am antur!

I’r rhai nad ydynt wedi ymweld â ni o’r blaen, credwn y bydd Aberystwyth yn ddarganfyddiad annisgwyl. Beth bynnag fo’ch diddordebau, bydd gan Aberystwyth a’r ardaloedd cyfagos rywbeth i’w gynnig, o droeon arfordirol i feicio mynydd, traethau aur i atyniadau hanesyddol, cyfoeth diwylliannol i economi nos ffyniannus.

Gweithgareddau Awyr Agored

Gweithgareddau Awyr Agored

1. Cyfleusterau Chwaraeon

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gyfleusterau chwaraeon helaeth gan gynnwys caeau chwaraeon, caeau artiffisial, trac rhedeg, pwll nofio, canolfan ffitrwydd, cyrsiau sboncen, wal ddringo a neuaddau chwaraeon. Mae gan Aberystwyth hefyd ganolfan hamdden, clybiau pêl droed a rygbi, a nifer o glybiau chwaraeon arall.

2. Cerdded

Mae Aberystwyth yn union ar ganol Llwybr Arfordirol Cymru ac mae ‘na deithiau gwych i’r Gogledd ac i’r De, a thrafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd nôl. I’r rhai ohonoch sydd yn hoff o’r bryniau a’r mynyddoedd, mae de Eryri yn cwrdd â mynyddoedd y Cambria dafliad carreg o Aberystwyth.

3. Beicio

Mae Llwybrau Beicio Ystwyth a Rheidol yn llwybrau beicio perffaith o Aberystwyth. Ym Mwlch Nant yr Arian mae nifer o lwybrau beicio mynydd sydd dim ond 20 munud o’r dref, yn ogystal ag 8 o lwybrau ceffyl beicio mynydd yng Ngheredigion. Mae Aberystwyth hefyd yn cynnal Gŵyl Beicio flynyddol https://www.abercyclefest.co.uk/ sy’n dod ag wythnos o ddigwyddiadau beicio i’r dref. Gellir trefnu lle diogel i storio beic.

4. Syrffio a Nofio Naturiol/Gwyllt

Ysgol Syrffio gydag AberAdventures yn Borth. Digonedd o gyfle i nofio yn y môr, gyda achubwyr bywyd yno yn yr haf, a mannau syfrdanol i fedru nofio gwyllt i ffwrdd o’r arfordir.

5. Golff

Mae gan Aberystwyth dri chwrs golff, un yn y Borth a Phenrhos sy’n agos iawn, a mwy o gyrsiau ychydig yn bellach i ffwrdd.

6. Bywyd Gwyllt

Mae gwarchodfa RSPB Ynyshir, sef gwarchodfa Biosffer UNESCO Cymru, a Phrosiect Gweilch Dyfi gerllaw, yn fannau gwych i wylio adar. Gellir gweld y Barcutiaid Coch yn cael eu bwydo ym Mwlch Nant yr Arian, sydd ddim ond 20 munud o Aberystwyth. Does dim prinder o warchodfeydd llai o faint yn yr ardal leol.