Bwydlen Cynadledda a Danfon
Credwn yn gryf ym mhwysigrwydd bwyd da ac rydym yn hyderus y bydd eich profiad o fwyta yn un o’n lleoliadau bwyd arobryn yn un arbennig iawn. Caiff llawer o’n bwyd ei brynu’n lleol ac felly gellir sicrhau ansawdd. Mae ein cogyddion profiadol a phroffesiynol yn creu bwydlenni sy’n amrywio o brydau bwffe syml i wleddoedd hael.
Gall ein tîm CroesoAber ddarparu gwasanaeth arlwyo ar raddfa fawr ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, os ydych chi eisiau derbyniad diodydd gyda’r nos a chanapés, neu luniaeth yn y bore neu’r prynhawn, pecynnau bwyd neu bitsas, mae gennym ddewis sy’n addas at bob cyllideb. Mae’n tîm gwybodus wedi’u hyfforddi’n drwyadl a gallant roi cyngor a chymorth wrth gynllunio bwyd a diod ar gyfer eich digwyddiad, ac arlwyo ar gyfer pob un o’ch gofynion dietegol.
Archebwch drwy ebostio cynadleddau@aber.ac.uk neu galwch 01970 621960.
Bwydlen Cynadledda a Danfon 2025
Bwydlen Gwleddoedd a Rhestr Gwin 2025