Croeso i Swyddfa'r Is-Ganghellor

Gellid dweud mai Swyddfa’r Is-Ganghellor, yn y Ganolfan Ddelweddu, yw calon y Brifysgol gan fod llawer o’r materion sy’n cael eu trin yn y Swyddfa yn uniongyrchol gysylltiedig â strategaeth a datblygiad y Brifysgol. Mae’r aelodau staff sy’n gweithio o’r Swyddfa yn cynnwys yr Is-Ganghellor, Yr Athro Jon Timmis sef prif swyddog academaidd gweinyddol a chyfrifyddol y Brifysgol, sy’n atebol i Gyngor y Brifysgol. Ochr yn ochr â’r Is-Ganghellor y mae Grŵp Gweithredol y Brifysgol.

 

Prif Gyfrifoldebau Swyddfa'r Is-Ganghellor

Mae prif gyfrifoldebau Swyddfa’r Is-Ganghellor yn cynnwys:

  • Cynnal cyfarfodydd wythnosol a misol Grŵp Gweithredol y Brifysgol i gadw golwg ar hynt y cynllun strategol ac i wneud penderfyniadau gweithrediadol hanfodol.
  • Cadw cyswllt â phartneriaid a chysylltiadau allanol er mwyn cynnal perthynas fusnes ragorol.
  • Ymdrin ag unrhyw ymholiadau oddi wrth myfyrwyr neu staff a’u cyfeirio ymlaen yn briodol.
  • Paratoi am unrhyw gyfarfodydd llywodraethu neu gyfarfodydd o’r Cyngor ac adrodd wrthynt ar unrhyw ddatblygiadau neu argymhellion yn ôl yr angen.
  • Cynnal sgyrsiau â staff er mwyn rhoi gwybod iddynt am gynlluniau cyfredol a chynlluniau’r dyfodol a chyflawniadau.
  • Gweithio ochr yn ochr ag adrannau Gwasanaethau Proffesiynol eraill, yn benodol yr adrannau Cynllunio, Cyllid, Adnoddau Dynol, Corfestrfa Academaidd, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Marchnata a Denu Myfyrwyr, a Datblygu a Chysylltiadau Alumni.