Hysbysiad Preifatrwydd
Pwy ydym ni?
Llywodraeth Cymru yw’r Rheolwr Data ar gyfer y Rhaglen Trio Sci Cymru, ac mae wedi ymrwymo i warchod hawliau unigolion yn unol â deddfwriaeth diogelu data (y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018).
Beth yw pwnc y rhaglen?
Mae’r rhaglen wedi’i datblygu’n benodol ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop i gynyddu’r nifer sy’n astudio pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymhlith pobl ifanc 11- 14 mlwydd oed. Bydd y gweithgareddau yn cael eu darparu gan nifer o fuddiolwyr ar y cyd/partneriaid cyflenwi. Gallai’r gweithgareddau gynnwys arbrofion “ymarferol”, sioeau teithiol, arddangosfeydd rhithwir, platfformau dysgu ar-lein ac ati. Bydd pob gweithgarwch sy’n cael ei gynnwys o dan y rhaglen yn cael eu darparu yn “rhad ac am ddim”.
Bydd y data personol y byddwch yn ei ddarparu yn cael eu defnyddio at ddibenion ystadegol a gwerthuso (wedi’i gynnal mewn ffordd sy’n sicrhau nad oes modd adnabod y plant a’r bobl ifanc). Byddwn yn prosesu eich data ar sail yr awdurdod swyddogol sy’n cael ei roi inni ac i gynnal tasgau er budd y cyhoedd:
- i lywio, dylanwadu a gwella polisïau addysgol;
- i fonitro a thargedu cyllid yn effeithiol;
- i fonitro perfformiad y gwasanaeth addysgol yn ei gyfanrwydd;
- i gysylltu gyda setiau data eraill Llywodraeth Cymru, i lywio polisïau addysgol ehangach
Ble y caiff y data ei ddarparu yn ddewisol, caiff ei brosesu gyda’ch caniatâd chi.
Dibenion cyhoeddi (wedi’i wneud mewn ffordd sy’n sicrhau nad oes modd adnabod plant a phobl ifanc unigol):
- amrywiol allbynnau ystadegol ar wefan Llywodraeth Cymru;
- Tablau data wedi’u cyhoeddi ar StatsCymru
Gyda phwy ydym ni’n rhannu eich gwybodaeth?
At ddibenion y prosiect hwn, caiff eich data ei gasglu gan y Cyd-fuddiolwyr/asiantaethau cyflenwi ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd pob data yr ydych yn ei ddarparu i Gyd-fuddiolwyr/asiantaethau cyflenwi wrth ichi gymryd rhan yn y rhaglen yn mynd drwy broses o’i wneud yn ddi-enw. Bydd yn bosibl i wybodaeth yr arolwg o’r prosiect hwn fod ar gael, mewn setiau data di-enw, i werthuswyr allanol at ddibenion gwerthuso a dadansoddi.
Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?
Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru gadw eich gwybodaeth tan 31 Mawrth 2025.
Eich hawliau mewn cysylltiad â’ch gwybodaeth.
Mae gennych yr hawl i:
- gael mynediad i’r data personol yr ydym yn ei brosesu amdanoch;
- ei wneud yn ofynnol inni gywiro camgymeriadau yn y data hwnnw;
- wrthwynebu’r prosesu (mewn rhai amgylchiadau);
- ofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’;
- wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Am ragor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a’u defnydd ohono, neu os ydych yn dymuno defnyddio eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:
Enw Cyswllt Polisi
Chris Hale Pennaeth Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ |
Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ |
Ebost: DataProtectionOfficer@gov.wales
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ynghylch y ffordd yr ydym wedi ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, anfonwch ebost at cwynion@cymru.gsi.gov.uk
neu ysgrifennwch at yr Uned Gwynion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
I gael cyngor annibynnol ynghylch diogelu data, preifatrwydd a materion rhannu data, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy anfon e-bost at casework@ico.gsi.gov.uk neu drwy ysgrifennu at: First Contact Team, Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.