Trio-Sci Cymru

Prosiect cyffrous sy'n cysylltu Prifysgol Aberystwyth a'n hysgolion uwchradd lleol.

Trosolwg o'r prosiect

ESF Logo

Ariennir y prosiect Trio Sci Cymru gwerth £8m gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd gweithdai gwyddoniaeth yn cael eu cyflwyno i ddisgyblion Cyfnod Allweddol Tri (Blwyddyn 7,8,9) ledled Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Bydd tîm prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno pecyn allgymorth cyffrous yn seiliedig ar allbwn ymchwil Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a’r Adran Ffiseg.

Nodau'r Prosiect:

  • Tyfu a chynnal diddordeb disgyblion mewn Gwyddoniaeth trwy gydol Cyfnod Allweddol 3.
  • Cynyddu “Cyfalaf Gwyddoniaeth” ymhlith disgyblion na fyddent fel arall yn anelu at astudio Gwyddoniaeth yn y dyfodol.
  • Annog disgyblion o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau i astudio gwyddoniaeth yn y dyfodol.

 

Partneriaeth Ffiseg ac IBERS

Gyda phortffolio ymchwil eang yr Adran Ffiseg ac IBERS, bydd tîm Trio Sci Cymru yn cefnogi ystod amrywiol o weithgareddau ar bynciau gan gynnwys; Gwyddor y gofod, Nanowyddoniaeth, egni adnewyddadwy, Bioleg Forol, Gwyddor Chwaraeon, Parasitoleg, Gwyddor Anifeiliaid, Amaethyddiaeth ac Epidemioleg. Rydym hefyd yn cyflwyno gweithgareddau trawsgwricwlaidd fel ein gweithdy ar Wyddoniaeth Celf. Bydd pob sesiwn wedi'i theilwra i anghenion y grŵp blwyddyn a bydd yn gysylltiedig â'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'r fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd cyfleoedd hefyd i atgyfnerthu meini prawf lefelu fel ffurfio damcaniaethau, dewis amrywiol, cofnodi data a dod i gasgliadau.