Archebu Ystafelloedd
Dylid gwneud ceisiadau ad hoc am archebu ystafelloedd sydd ar yr amserlen ganolog trwy ddefnyddio’r Archebu Ystafelloedd
Dylid gwneud cais i archebu ystafelloedd o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y bydd ei hangen
Rhaid llenwi pob blwch ar y ffurflen. Fe’i hanfonir yn awtomatig i’r swyddfa berthnasol i'w phrosesu, ac yna fe fydd ebost yn cadarnhau’r archeb yn cael ei anfon i gyfeiriad e-bost y sawl a wnaeth gais.
Pwysig: ni ellir cadarnhau archebion ad hoc am ystafelloedd mewn sesiynau academaidd i ddod tan ar ôl paratoi’r amserlen academaidd. Mae croeso ichi serch hynny gyflwyno eich cais i’r swyddfa amserlennu. Cedwir manylion y cais ar ffeil a byddwn yn cysylltu â chi nes ymlaen i roi gwybod pa stafelloedd sydd ar gael yn y sesiwn i ddod.
Rhaid i bob cais gan gymdeithasau nad ydynt yn rhan o PA fynd trwy’r Gwasanaethau Preswyl a Chroeso
Dysgu wedi ei Amserlennu
RHAID i newidiadau i sesiynau addysgu fynd trwy Swyddog Amserlenni eich Adran, ac NID yn uniongyrchol i’r Swyddfa Amserlenni.