Ystafell seminar – seddi y gellir eu had-drefnu
Mae’r ystafelloedd seminar yn cynnwys cadeiriau tro a byrddau hirsgwar wedi’u gosod ar arwynebedd llawr gwastad. Mantais yr ystafelloedd hyn yw bod modd i staff academaidd gyfuno gwahanol ffurfiau dysgu; gellir cyflwyno deunydd darlith i grwpiau bach trwy ddefnyddio ffurf darlith draddodiadol gyda’r myfyrwyr yn wynebu tuag ymlaen, ond gellir hefyd ad-drefnu’r cadeiriau a’r byrddau i hwyluso gwaith seminar/ar y cyd. Yn benodol, mae ymchwil yn awgrymu bod darparu cadeiriau tro yn hwyluso ffyrdd mwy gweithredol o ddysgu, megis trafodaethau wyneb-yn-wyneb ymhlith y myfyrwyr, gan arwain at fanteision cadarnhaol o ran canlyniadau dysgu a lefelau gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr. Mae modd ad-drefnu ystafelloedd bach o’r math hwn ar ffurf ystafell bwrdd hefyd, sy’n ddelfrydol ar gyfer gweithdai cyfranogol a chyfarfodydd prifysgol.