Triongl Reuleaux
Datblygwyd triongl Reuleaux gan Franz Reuleaux, gwyddonydd peirianneg o’r Almaen a gredai ym mhotensial technoleg a dylunio da i gyfrannu at ryddhad pobl, lledaenu gwybodaeth, a lles cymdeithas yn gyffredinol. Mae’r term triongl reuleaux yn cyfeirio at gromlin o led cyson wedi’i seilio ar driongl hafalochrog, a gwelir enghreifftiau ohono yn rhai o ddarluniau Leonardo da Vinci. Mae gan ddesgiau sy’n seiliedig ar gysyniad triongl reuleaux dair ochr grom, ac ystyrir bod eu ffurf geometrig yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar y cyd mewn grwpiau bach, gweithgareddau seminar a chyfarfodydd. Cyflwynwyd desgiau triongl Reuleaux am y tro cyntaf yn Aberystwyth yn 2013, gyda'r nod o wella profiad myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu mewn grwpiau bach. Mae'r cynllun hwn wedi profi i fod yn arbennig o boblogaidd ymhlith myfyrwyr a staff.