Darlithfa – seddi ar ogwydd
Mae’r rhan fwyaf o’r darlithfeydd yn Aberystwyth yn cynnwys seddi ar gyfer isafswm o 50 person, ac fe’u nodweddir gan gynllun awditoriwm gyda rhesi o seddi sefydlog mewn rhengoedd ar ogwydd. Mae ystafelloedd o’r math hwn yn arbennig o addas ar gyfer gweithgareddau dysgu traddodiadol ar ffurf darlith lle mae myfyrwyr yn wynebu tuag ymlaen, ac ar gyfer gweithgareddau gwylio, megis dangosiadau ffilm, lle mae’r gynulleidfa angen golygfa lydan o’r ddarllenfa a’r sgriniau taflunio. Nod yr ystafelloedd hyn yw sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gweld y darlithydd ac unrhyw gymhorthion gweledol (megis byrddau gwyn, sleidiau PowerPoint a sgriniau taflunio clyweled) yn glir.