Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Dewch i astudio’r Gymraeg gyda ni, ac fe gewch eich cyflwyno i amrywiaeth o fodiwlau hynod ddiddorol ac unigryw sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil cyfredol ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.
Yn ogystal ag astudio'r Gymraeg, rydym hefyd yn cynnig ieithoedd Celtaidd eraill, gan gynnwys yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban, a Llydaweg. Yn Aberystwyth, fe gewch astudio llenyddiaeth yr ieithoedd hyn, o'r oesoedd canol i'r cyfnod cyfoes; cewch ddarllen testunau yn ieithoedd yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar; a chewch wella eich sgiliau llafar ac ysgrifennu yn yr ieithoedd modern. Cewch hefyd ddysgu am ieithoedd a diwylliannau'r hen Geltiaid, a sut y bu iddynt gyfrannu at greu Ewrop fodern. Mae astudio diwylliant mewn modd rhyngddisgyblaethol yn ein hannog i ddeall ein hunain, eraill, a'r byd o'n cwmpas yn well.
O ddewis astudio cwrs gradd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, byddwch yn magu hyder i siarad a defnyddio'r Gymraeg mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol a chymdeithasol. Byddwch hefyd yn ystyried lle'r Gymraeg yng nghyd-destun ieithoedd a diwylliannau eraill, gan wella'ch gallu i siarad a dysgu ieithoedd eraill. Y cyfuniad hwn sy’n creu’r cefndir a’r ddeinameg arbennig ar gyfer ein bywyd academaidd a chymdeithasol ac sy’n gwneud yr Adran, ac Aberystwyth, yn fan delfrydol i astudio rhai o ieithoedd hynaf Ewrop.
Pam astudio y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Arwain - Mae'r Adran yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu. Mae pawb yn yr Adran yn rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth, a’i lle yn y byd modern.
- Hanes - Hon yw'r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875).
- Arbenigwyr - Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
- Dewis eang o fodiwlau - Byddwch yn astudio pynciau hynod ddiddorol sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil cyfredol ein darlithwyr: o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes; o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i gyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg; o ysgrifennu creadigol a sgriptio i olygu a phrawfddarllen.
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drws Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliad gwych o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol.
- Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Byddwch yn ymuno â chymuned lle mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'r gwead cymdeithasol, ac fe gewch y cyfle i fyw ac astudio yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.
- Enw da - Mae safon yr ymchwil a'r addysgu yn yr adran hon ymhlith y gorau sydd ar gael.
- Lleoliad heb ei ail - Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd Elenydd, byddwch yn rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion - y lle delfrydol i astudio hanes a threftadaeth cyfoethog y Celtiaid a'u hardaloedd yn fwy eang.
- Cewch ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn Neuadd Pantycelyn neu Fferm Penglais, a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog a drefnir gan yr undeb.