Ieithoedd Modern
Fu hi erioed yn gyfnod mwy cyffrous i astudio ieithoedd. Wrth i ieithoedd eraill gystadlu â'r Saesneg i fod yn brif iaith ar gyfer cyfathrebu byd-eang, mae mwy o resymau nag erioed i fod yn ddwyieithog neu hyd yn oed yn amlieithog. Yma yn Aberystwyth, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer astudio Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg ac Eidaleg, naill ai’n rhaglenni anrhydedd sengl, yn achos Sbaeneg a Ffrangeg, neu’n rhan o raglenni anrhydedd gyfun yn achos Almaeneg ac Eidaleg.
Mae astudio ieithoedd yn gyfle i feithrin yr wybodaeth a'r medrau sydd eu hangen i fanteisio'n llwyr ar gyfleoedd yn yr 21ain ganrif. Ar ben hyn, mae'n meithrin dawn i gyfathrebu’n well a hyblygrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ddyfnach, ac mae'r rhain yn nodweddion mae cyflogwyr gartref a thramor yn chwilio amdanynt.
Mae treulio blwyddyn dramor yn rhan gyffrous o unrhyw raglen radd ieithoedd modern. Mae hefyd yn gyfle gwych i fireinio eich doniau a'ch cryfderau. Yn aml, mae myfyrwyr yn dod nôl i Aber ar ôl eu cyfnod dramor yn fwy hyderus ac yn fwy hyblyg eu hagwedd. Bydd y cyfnod hwn yn eich paratoi'n dda am eich gyrfa yn y dyfodol.
Pam astudio Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae Aberystwyth yn un o lond llaw o brifysgolion yn y Deyrnas Gyfunol sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio cyfuniad o dair iaith, a gellir astudio dwy ohonynt o lefel dechreuwyr. Hefyd, gallwch gyfuno eich astudiaeth iaith ag ystod eang o bynciau eraill, gan gynnwys Hanes, Cysylltiadau Rhyngwladol, Saesneg, Addysg, a Drama.
- Mae myfyrwyr yn ein hadran yn cael eu dysgu gan siaradwyr brodorol ac arbenigwyr yn yr ieithoedd perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael y cyswllt mwyaf posibl â’ch dewis iaith yn eich cyfnod yn Aberystwyth.
- Mae’r cynlluniau astudio yn hyblyg: mewn llawer o achosion, cewch ychwanegu iaith arall, neu ollwng iaith nad ydych eisiau ei hastudio ymhellach.
- Mae ein hadran yn gymuned fach a chyfeillgar sy'n golygu ein bod yn dod i adnabod ein gilydd yn dda. Gallwn gynnig cymorth academaidd a bugeiliol wedi'i bersonoli er mwyn ichi ffynnu, datblygu a rhagori yn y pynciau o'ch dewis.
- Yn ein gwaith, rydym yn defnyddio llawer ar ein hamgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, sy'n golygu bod gwybodaeth a deunyddiau ar flaenau eich bysedd, gartref ac ar eich ffôn symudol.
- Tref fach a chanddi galon fawr ac agwedd gosmopolitaidd yw Aberystwyth. Rydyn ni’n Brifysgol fywiog a chyfeillgar sy’n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, ac oherwydd yr awyrgylch glos mae’n lle gwych i ddod i nabod pobl. Bydd yr ardal odidog o’n cwmpas yn sicr o’ch ysbrydoli hefyd.