Mathemateg
Mae mathemateg yn ddisgyblaeth fyw sy'n cynrychioli un o gyflawniadau goruchaf y meddwl dynol. Mathemateg ac Ystadegau sydd wrth wraidd y byd modern, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg a chyllid. Rhoddir gwerth mawr ar fathemategwyr gan gyflogwyr ar draws llawer o sectorau swyddi oherwydd eu prosesau meddwl rhesymegol a dadansoddol, eu gallu i ddatrys problemau, dadansoddi data a’u sgiliau gwneud penderfyniadau.
Pam astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae ein graddau'n cael eu hachredu gan yr IMA (y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau), sef cymdeithas broffesiynol a dysgedig y Deyrnas Unedig ar gyfer mathemateg, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at eich cydnabyddiaeth fel Mathemategydd Siartredig.
- Mae strwythur hyblyg ein graddau yn golygu bod modd arbenigo mewn maes penodol neu astudio ystod ehangach o bynciau o fewn Mathemateg Bur a Chymhwysol ac Ystadegau.
- Cewch ddewis canolbwyntio ar ddefnydd penodol o Fathemateg yn ein cynlluniau gradd pwrpasol; Mathemateg Gyllidol, Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol, a Gwyddor Data, sy'n cyfuno elfennau o Gyfrifiadureg gydag Ystadegau.
- Ymysg y meysydd mathemateg ac ystadegau y mae yma arbenigedd penodol ynddynt, ac sy'n aml yn rhan o'n modiwlau, mae topoleg, algebrâu gweithredol, damcaniaeth sbectrol, geometreg y plân cymhlyg, hafaliadau integrol, dulliau asymptotig, gwybodaeth cwantwm ac ystadegau biolegol.
- Mae'r adran yn lle cyfeillgar, agored a chroesawgar lle caiff y myfyrwyr gyrraedd eu potensial mathemategol llawn.