Ffilm a Theledu
Os oes gennych ddiddordeb yn y ddelwedd symudol fel ffurf gelf neu yn niwydiant y cyfryngau creadigol, bydd ein rhaglen radd amrywiol mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu; Creu Ffilm; Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu; ac Ysgrifennu ar gyfer Darlledu, Cyfryngau a Pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r cyfle i chi archwilio amryw o ddulliau technegol a beirniadol o fewn amgylchedd creadigol.
Yn Aberystwyth, rydyn ni'n cynnig addysgu arbenigol ar wneud ffilmiau dogfen, ffilmiau ffuglen, gwneud ffilmiau arbrofol, cynhyrchu aml-blatfform, cynhyrchu stiwdio a sgriptio, yn ogystal â sinema gelf, sinema arswyd a chwlt, Hollywood, astudiaethau rhywedd, estheteg teledu, diwylliannau digidol, gemau fideo, cyfryngau a chyfathrebu.
Wedi'i gynllunio i roi cyfuniad o sgiliau ymarferol, hyder creadigol ac ymwybyddiaeth feirniadol i chi, mae'r cwrs amlbwrpas hwn yn agor pob math o lwybrau i ddiwydiant cyffrous.
Pam astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Cewch eich dysgu a'ch mentora gan dîm o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
- Byddwch yn elwa o'n profiadau dysgu cyflenwol lle mae damcaniaeth ac ymarfer wedi'u cynllunio i fwydo i'w gilydd.
- Gallwch fanteisio ar ein cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, megis S4C, Fiction Factory, Arad Goch, BAFTA Cymru, Archif Ddarlledu Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn cynnig cyfle gwych i rwydweithio a chysylltu â gweithwyr yn y diwydiant cyn graddio.
- Byddwch yn gallu defnyddio’r cyfleusterau a'r adnoddau gwych sydd gennym ar gyfer gwaith ymarferol - gweler y tab 'Cyfleusterau'.
- Ar ein campws ac wedi'i leoli nesaf at yr Adran mae un o'r canolfannau celfyddydol mwyaf yng Nghymru, lle mae dangosiadau ffilm, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd a gwyliau ffilm yn cael eu cynnal yn rheolaidd.
- Os ydych yn chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd cyfle i gymryd lleoliad astudio dramor gydag un o'n Prifysgolion partner yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd trwy ein rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol.