Drama a Theatr

Mae astudio drama a theatr yn eich annog i ofyn cwestiynau ac yn agor gofodau arbrofol er mwyn i bethau ddigwydd a datblygu, a hynny yng nghyffro amser a rennir. Cewch gyfle i arbrofi â thestunau, arferion a gwaith cynhyrchu, a chael eich cyflwyno i ystod eang o ffurfiau hanesyddol a chyfoes ar theatr: o ddrama wedi'i sgriptio i berfformiadau safle-benodol, o Shakespeare i arbrofion â chyfryngau newydd. 

Drwy gyfuno archwiliadau ymarferol a damcaniaethol, byddwch yn archwilio'n feirniadol ac yn ymgysylltu ag ystod eang o arferion cyfoes, o theatr chwaraedy i berfformiadau penodol i safle, ac o theatr amgylcheddol i osodwaith perfformiadau. Wrth i'r cwrs ddatblygu, mae'r astudio'n canolbwyntio'n fwy ar eich ymarfer chi fel artist annibynnol, gan gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch chi wedi'u meithrin i greu gwaith sy'n ffres, yn radicalaidd, ac yn fynegiannol i chi, o fewn neu'r tu hwnt i gyd-destun theatr a drama. 

  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym mhwnc Drama a Dawns (Canllaw Prifysgolion Da 2025, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am yr ‘Asesu a’r Adborth’ ym mhwnc Drama (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)
  • 94% am Fodlonrwydd Cyffredinol Myfyrwyr ar gyfer ein cwrs W400 Drama a Theatr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)

Pam astudio Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cewch eich addysgu a’ch mentora gan staff sydd â llond gwlad o arbenigedd ym maes ymchwil a chreu theatr proffesiynol.
  • Yn Aberystwyth, byddwch yn cael eich cyflwyno i ddulliau dylunio ym maes theatr a pherfformio sy’n radicalaidd ac yn arloesol.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn dau brosiect perfformio a chynhyrchu bob blwyddyn. 
  • Byddwch yn rhan o adran fywiog a chyffrous lle daw drama, theatr, ffilm, y cyfryngau, senograffeg a dylunio theatr ynghyd. 
  • Cewch elwa o’n cysylltiadau cryf â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, megis Theatr Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine, a National Theatre Wales. 
  • Mae gennym gyfleusterau ac adnoddau gwych heb eu hail – gweler y tab 'Cyfleusterau'. 
  • Mae gennym gysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, sef un o’r canolfannau mwyaf ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru lle cyflwynir gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd. 
  • Mae tref Aberystwyth wedi’i hamgylchynu gan dirwedd godidog sy’n siŵr o ysbrydoli eich gwaith creadigol ynghyd â chynnig digonedd o gyfleoedd i chi fwynhau bod allan yn yr awyr agored a dod o hyd i weithgareddau i ffwrdd o’r astudio a fydd yn eich ymlacio.

Cyflogadwyedd

O ddilyn gradd mewn Drama a Theatr, byddwch yn meithrin sgiliau a gwybodaeth a fydd yn eich paratoi’n dda ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwylliannau creadigol a’r tu hwnt, gan gynnwys set o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. 
 
Bu llawer o’n myfyrwyr yn llwyddiannus yn dod o hyd i waith mewn meysydd megis actio a pherfformio, cyfarwyddo, dysgu ac addysg, a gweinyddu’r celfyddydau. 
 
Mae’n bosibl y byddwch â diddordeb yn ein llwybr pedair blynedd – W402 Drama a Theatr (gyda blwyddyn o ymarfer proffesiynol ymgorfforedig). Yn ogystal â’r astudio craidd, cewch gyfle i wneud cais am ein Cynllun Interniaeth Creadigol gyda Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn eich ail flwyddyn.  

Wrth astudio Drama a Theatr, byddwch yn meithrin sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt yn y gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys y gallu i: weithio’n effeithiol fel rhan o grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw; cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygol a datrys problemau mewn gwahanol sefyllfaoedd; a defnyddio mentergarwch wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol. Yn ogystal â hynny, cewch siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd penodol a fydd yn gallu eich cefnogi gyda materion gyrfaol, a hynny drwy gyfrwng gweminarau pwrpasol, apwyntiadau i dderbyn arweiniad, tudalennau gyrfa penodol, a sesiynau o fewn y cwricwlwm. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am yr holl gyfleoedd i gael profiad gwaith. 





Cyfleusterau

Mae gennym gyfleusterau, adnoddau a chyfarpar rhagorol a fydd o gymorth ichi ar ein holl fodiwlau. Ymhlith rhain y mae: 

  • tair stiwdio berfformio â chyfarpar cyflawn 
  • stiwdio deledu ac oriel 
  • tair ystafell ymarfer fawr â chyfarpar cyflawn 
  • cyfarpar gwisgoedd a wardrob 
  • stiwdio senograffeg benodol yng nghanol y dre 
  • y tirlun lleol: adnodd sy'n ysbrydoli'n greadigol. 

At hynny, rydym wedi ein lleoli ger sefydliadau pwysig y mae gennym bartneriaeth agos â hwy:

  • Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth sydd â theatr prif lwyfan, theatr stiwdio, neuadd gyngherddau, pedair oriel a sinema
  • Llyfrfell Genedlaethol Cymru – un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU, sy’n cynnwys Archif Genedlaethol Sgrin a Sain ac Archif Ddarlledu Genedlaethol.

Yn y dref a'r cyffiniau mae cyfoeth o leoliadau a safleoedd ar gyfer perfformio a ffilmio sy'n cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Mae'r lleoliadau hyn, ynghyd â chyfleusterau Canolfan y Celfyddydau, yn cwrdd ag amrywiaeth eang anghenion ein myfyrwyr, staff ac ymarferwyr gwadd. 

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn rhoi sylw i'r astudiaeth o theatr, ffilm, perfformio a’r cyfryngau o fewn cyd-destunau diwylliannol sy’n amlygu’r hanesyddol, y daearyddol a’r gwleidyddol. Mae’n pwysleisio arloesi ffurfiol, datblygiadau technolegol ac ymholiadau rhyngddisgyblaethol. 

Rydym yn ddramodwyr, perfformwyr, cyfarwyddwyr theatr, senograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, curaduron, cyfathrebwyr y cyfryngau ac academyddion sy'n gweithio mewn byd lle mae theori ac ymarfer yn cwrdd. Rydyn ni'n cydweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol ar amrywiaeth o brosiectau creadigol cyffrous.  

Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys perfformio safle-benodol; perfformio a’r gymdeithas wledig; senograffeg perthynol a’r beunyddiol; gofod; lle a thirlun mewn ffilm a theledu Cymreig; y cyfryngau, perfformio a chwaraeon; perfformio a phensaernïaeth; dawns ac anabledd; theatr a'r cyfryngau newydd; ecoleg a materolrwydd newydd. Rydym yn cydweithio ag artisitiad, cwmnïau theatr, gwyliau ffilmiau a'r celfyddydau, cwmnïau cynhyrchu, sefydliadau amgylcheddol, archifau, darlledwyr a gwneuthurwyr polisi. 

Yn rhan o’n hymrwymiad i ddatblygu a rhannu ymchwil newydd ac arloesol, rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ymchwil bob blwyddyn. Mae ein cyfres barhaus o seminarau ymchwil yn caniatáu i fyfyrwyr uwchraddedig, staff a siaradwyr nodedig – gan gynnwys academyddion ac artistiaid o brifysgolion eraill - i rannu a datblygu eu hymchwil parhaus mewn amgylchedd gadarnhaol a chefnogol. Mae’r seminarau hyn yn agored i unrhyw fyfyrwyr a staff o fewn a’r tu allan i'r brifysgol. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.