Cyfrifiadureg
Dim ond tyfu fydd perthnasedd Cyfrifiadureg wrth i'r byd ddod yn fwyfwy dibynnol ar ddatblygiadau technolegol. Mae Cyfrifiadureg bellach yn ffactor pwysig mewn peirianneg, gwyddoniaeth, teithio, masnach ac yn y cyfryngau hyd yn oed, sy'n golygu bod y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol y byddwch yn eu hennill trwy astudio gyda ni yn hynod berthnasol i ystod eang o ddiwydiannau gwahanol.
Pam astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd â’r Dysgu a Bodlonrwydd Cyffredinol mewn Cyfrifiadureg (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
- Mae mwyafrif ein graddau israddedig ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant.
- Byddwch yn defnyddio labordai Linux, MacOS a Windows pwrpasol wedi'u cysylltu gan weinyddion canolog, er mwyn cael manteisio ar feddalwedd a storfa ffeiliau a rennir mewn lleoliadau ar y campws a thu hwnt.
- Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â’r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
- Byddwch yn cael defnyddio offer robotig gan gynnwys Arduinos, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
- Cewch ymuno ag amrywiaeth o gymdeithasau myfyrwyr, gan gynnwys Cymdeithas y Gemwyr, clwb Roboteg a thîm Sailbot Aber.