Celf a Ffotograffiaeth
Gall ein cyrsiau Celf a Ffotograffiaeth eich paratoi am yrfa yn y celfyddydau – yn arlunydd, darlunydd, ffotograffydd neu nifer o swyddogaethau creadigol eraill. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen a llwyddo mewn amrywiaeth helaeth o gyfryngau, gan gynnwys paentio, cerflunio, dylunio, ffilm, a ffotograffiaeth.
Trwy astudio am un o’n graddau Celf a Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn datblygu gallu i ddehongli’r byd o’ch cwmpas yn ogystal â dawn i feddwl yn feirniadol. Ar ben y manteision iechyd a lles a ddaw yn sgil y celfyddydau, byddwch yn astudio pwnc crwn a chyflawn a fydd yn eich paratoi am bob agwedd ar eich bywyd.
Yn ogystal â chael sawl cyfle i ddangos eu gwaith yn ystod y cwrs, mae ein graddedigion wedi arddangos mewn orielau ymhob rhan o’r byd.
Pam astudio Celf a Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Yn yr Ysgol Gelf yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, nid dim ond sefydliad academaidd ydyn ni, rydym yn gymuned ofalgar o staff a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd a chenedligrwydd. Gan gadw'r amrywiaeth hwn mewn cof, rydyn ni'n cynnig dewis o gyrsiau sy'n ysgogi a herio creadigrwydd, mewn Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Hanes Celf a/neu'r Celfyddydau Creadigol - cynlluniau gradd sy'n rhoi cyfle ichi gyfuno agweddau ymarferol, hanesyddol, damcaniaethol a churadurol ar astudio celf.
Mae astudio ffotograffiaeth yn hyrwyddo meddwl beirniadol ac ymagwedd eang tuag at astudio celf. Byddwch yn ennill gwybodaeth gymhwysol a phrofiad ymarferol o dechnegau creu ac atgynhyrchu delweddau ffotograffig, a byddwch yn graddio gyda'r doniau a'r nodweddion sydd eu hangen arnoch i flodeuo yn eich maes dewisol.
Mae'r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Amgueddfa Achrededig. Mae'r Amgueddfa a'r Casgliad Cerameg yn cadw dros 20,000 o enghreifftiau o gelfyddyd gain ac addurniadol: printiau, ffotograffau, darluniau, lluniau dyfrlliw, cerameg, paentiadau a cherfluniau, yn ogystal ag arteffactau o hen Amgueddfa Gelf a Chrefft y Brifysgol - gan gynnwys deunydd archeolegol, arteffactau ethnograffig, gwydr, darnau arian, a dodrefn hynafol.
Bydd elfen ffotograffiaeth y cwrs cyfun yn eich cyflwyno i dechnolegau a thechnegau sylfaenol ffotograffiaeth ddigidol ac analog. Byddwch yn astudio gwaith celf ffotograffig ac yn dysgu'r medrau hanfodol sydd eu hangen ar ffotograffwyr i lwyddo i dynnu delweddau sy'n siarad â'r rhai sy'n eu gweld. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, byddwch yn datblygu'r gallu i weithio'n fwy a mwy annibynnol.
Byddwch yn dysgu'r technegau a'r arferion cyfoes ar gyfer curadu arddangosfeydd i safon amgueddfa a byddwch yn cyflwyno arddangosfa o'ch gwaith ffotograffig yn orielau'r Ysgol Gelf yn rhan o'ch cynllun gradd.
Wrth astudio gyda ni, byddwch yn ymuno ag adran gelf yn y rheng uchaf yn y Deyrnas Unedig am foddhad ei myfyrwyr ac am ei llwyddiant wrth baratoi myfyrwyr i fod yn gyflogadwy. Cewch eich addysgu gan staff sy'n weithgar mewn ymchwil, a’u canfyddiadau sy'n llywio eu haddysgu. Mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnwys haneswyr celf amlwg, curaduron ac artistiaid sy’n arddangos eu gwaith.