Celf
Gall ein cyrsiau Celf eich paratoi am yrfa yn y celfyddydau – yn arlunydd, darlunydd, ffotograffydd neu nifer o swyddogaethau creadigol eraill. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen a llwyddo mewn amrywiaeth helaeth o gyfryngau, gan gynnwys paentio, cerflunio, dylunio, ffilm, a ffotograffiaeth.
Trwy astudio am un o’n graddau Celf ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn datblygu gallu i ddehongli’r byd o’ch cwmpas yn ogystal â dawn i feddwl yn feirniadol. Ar ben y manteision iechyd a lles a ddaw yn sgil y celfyddydau, byddwch yn astudio pwnc crwn a chyflawn a fydd yn eich paratoi am bob agwedd ar eich bywyd.
Yn ogystal â chael sawl cyfle i ddangos eu gwaith yn ystod y cwrs, mae ein graddedigion wedi arddangos mewn orielau ymhob rhan o’r byd.
Cyrsiau
Celf
Cyrsiau Israddedig
Pam astudio Celf ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Yn yr Ysgol Gelf yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, nid dim ond sefydliad academaidd ydyn ni, rydym yn gymuned ofalgar o staff a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd a chenedligrwydd. Gan gadw'r amrywiaeth hwn mewn cof, rydyn ni'n cynnig dewis o gyrsiau sy'n ysgogi a herio creadigrwydd, mewn Celfyddyd Gain, Hanes Celf a/neu'r Celfyddydau Creadigol - cynlluniau gradd sy'n rhoi cyfle ichi gyfuno agweddau ymarferol, hanesyddol, damcaniaethol a churadurol ar astudio celf.
Mae'r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Amgueddfa Achrededig. Mae'r Amgueddfa a'r Casgliad Cerameg yn cadw dros 20,000 o enghreifftiau o gelfyddyd gain ac addurniadol: printiau, ffotograffau, darluniau, lluniau dyfrlliw, cerameg, paentiadau a cherfluniau, yn ogystal ag arteffactau o hen Amgueddfa Gelf a Chrefft y Brifysgol - gan gynnwys deunydd archeolegol, arteffactau ethnograffig, gwydr, darnau arian, a dodrefn hynafol.
Byddwch yn dysgu'r technegau a'r arferion cyfoes ar gyfer curadu arddangosfeydd i safon amgueddfa a byddwch yn cyflwyno arddangosfa o'ch gwaith yn orielau'r Ysgol Gelf yn rhan o'ch cynllun gradd.
Wrth astudio gyda ni, byddwch yn ymuno ag adran gelf yn y rheng uchaf yn y Deyrnas Unedig am foddhad ei myfyrwyr ac am ei llwyddiant wrth baratoi myfyrwyr i fod yn gyflogadwy. Cewch eich addysgu gan staff sy'n weithgar mewn ymchwil, a’u canfyddiadau sy'n llywio eu haddysgu. Mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnwys haneswyr celf amlwg, curaduron ac artistiaid sy’n arddangos eu gwaith.