Cydraddoldeb ac amrywioldeb
Mewn marchnad fyd-eang sy'n mynd yn fwy cystadleuol o hyd, mae llawer o gyflogwyr bellach yn cydnabod y manteision i fusnesau o ddenu doniau a phrofiad gweithlu amrywiol. Mae polisïau amrywiaeth yn cydnabod bod angen trin rhai unigolion a grwpiau yn wahanol i sicrhau canlyniadau cyfartal.
Nod y tudalennau hyn yw rhoi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth arbenigol ddefnyddiol ichi, i'ch galluogi i ystyried eich sefyllfa bersonol wrth wneud dewisiadau gwybodus ar faterion cyflogaeth. Dilynwch y dolenni isod ac ar y chwith i gael rhagor o wybodaeth benodol.
Oes gennych wahaniaeth dysgu neu anabledd?
Ydych chi’n derbyn LMA /wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr?
Yna mae Aber+ yn gallu helpu chi! Aber+ yw menter ar y cud rhwng y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr yn gynnig cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai pwrpasol i'ch helpu chi i adnabod a chyflawni'ch nodau gyrfa.
Sesiynau Aber+ 2021-2022 wedi'u recordio
Datgelu anableddau ac addasiadau
Gwneud cais am lleoliadau neu gynlluniau i raddedigion hefo anabledd
Sgiliau cyflwyno: Sut i cyflwyno'n effeithiol
Dod o hyd i Gyflogwyr Positif
Mae cyflogwyr yn dechrau gwerthfawrogi manteision cael gweithlu amrywiol, ac y mae busnesau yn sylweddoli bod gweithlu amrywiol yn fwy llwyddiannus os ydynt yn adlewyrchu'r gymuned y maent yn ei gwasanaethu.
Pan fyddwch yn chwilio am swydd, un ffordd o oresgyn gwahaniaethu yn y broses recriwtio yn ogystal ag yn y gweithle yw targedu cyflogwyr sydd â pholisïau cyfle cyfartal.
Drwy fynd ati i dargedu cwmnïau sy'n datgan eu bod yn dymuno recriwtio unigolion talentog ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hethnigrwydd, byddwch yn sicrhau eich bod yn cael cyfle teg i hyrwyddo eich sgiliau a'ch priodoleddau. Mae sawl ffordd o adnabod y cwmnïau hyn:
- A yw'r cwmni yn nodi ei fod yn gyflogwr cyfle cyfartal?
- A oes ganddynt bolisi neu ddatganiad cyfle cyfartal sy'n ymddangos ar eu pamffledi recriwtio neu eu gwefan?
- A oes ganddynt aelodau o staff o wahanol grefyddau?
- A yw aelodau o'u staff yn perthyn i leiafrifoedd ethnig?
- A yw'r polisi cyfle cyfartal yn cyfeirio at gyfeiriadedd rhywiol?
- A oes ganddynt bolisi iechyd meddwl?
- A oes swyddog amrywiaeth wedi'i gyflogi?
- A oes rhwydwaith ar gyfer gweithwyr benywaidd, rhwydwaith ar gyfer gweithwyr LHDT ayyb?
- A oes trefniadau ar waith i ddelio ag aflonyddu?
Mae hefyd yn werth gwneud rhywfaint o ymchwil i gyfran y menywod mewn swyddi uwch mewn cwmni. Gall hyn roi gwybodaeth ddefnyddiol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn hyddysg ynglŷn â'r bwlch cyflog ac yn gwybod eich hawliau er mwyn bargeinio ynglŷn â'ch cyflog. Mae ymchwil wedi dangos y gall cydweithwyr gwrywaidd fod yn well wrth fargeinio yn y cyswllt hwn.
Byddwch yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth gydraddoldeb
Yn achos myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, mae'n bosibl mai hwy fydd yr aelodau cyntaf o'u teuluoedd i fynd i'r brifysgol a hefyd y cyntaf i geisio canfod gwaith graddedig. Gall hyn fod yn anfantais, gan na fydd ganddynt yr un rhwydweithiau a phrofiad o waith graddedig â phobl ifanc o gefndiroedd traddodiadol.
Trefnwch apwyntiad cyfrinachol gydag ymgynghorydd gyrfaoedd os ydych chi'n pryderu am ddatgelu anabledd i gyflogwyr neu os hoffech drafod materion sydd yn ymwneud ag amrywioldeb a chyflogaeth.