Adeiladu Rhwydwaith
Beth yw rhwydwaith?
A oes diben creu un?
Mae'n siwr eich bod wedi clywed droeon mae pwy rydych yn ei adnabod yw'r peth pwysicaf ac nid yr hyn rydych yn ei wybod. Mae hyn yn wir mewn amryw o sefyllfaoedd ac felly datblygu ac ehangu ar eich cysylltiadau yw'r prif reswm dros adeiladu rhwydwaith.
Nid yw hyn yn gymhleth o gwbl. A ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol? Os ydych, yna mae gennych rwydwaith yn barod. Y cwbl yw rhwydwaith yw'r holl bobl rydych yn eu hadnabod ac rydych mewn cysylltiad â hwy, mae mor syml a hynny. Y grefft sydd angen i chi ei fagu yw sut i gynyddu eich rhwydwaith i gynnwys pobl all fod o wir gymorth i chi wrth ichi ddatblylgu eich syniadau a'ch cynlluniau gyrfaol am eich dyfodol.
Mae nifer o ddulliau ger eich bron i adeiladu eich rhwydwaith. Yn gyntaf, ystyriwch eich rhwydwaith agos o gysylltiadau - ffrindiau, teulu, cymdogion, staff y Brifysgol, cyd-weithwyr mewn clybiau/cymdeithasau/gweithgareddau diddordeb, yn ogystal â'ch cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol. Pwy ydynt, beth yw eu gwaith, pa wybodaeth sydd ganddynt, pwy arall sydd mewn cysylltiad gyda hwy? Yna ystyriwch pa wybodaeth sydd ei angen arnoch chi a beth hoffech ei archwilio ymhellach, megis:
- beth i'w wneud ar ôl graddio
- pa swyddi gall fod ar gynnig
- sut i ddod o hyd i brofiadau defnyddiol a diddorol dros wyliau'r haf
- a fyddai astudiaeth uwch-raddedig yn gweddu
- pa bynciau ymchwil all fod yn agored i chi
- pa gyflogwyr sydd â diddordeb yn eich cwrs gradd penodol
I ateb yr uchod mae'n bosibl byddwch angen ychwanegu mwy o gysylltiadau i'ch rhwydwaith, unigolion sydd a phrofiadau a dealltwriaeth penodol. I'ch helpu i greu'r rhwydweithiau ehangach hyn dylech greu proffil LinkedIn a dechrau defnyddio adnoddau'r wefan yn fwy effeithiol, uno a chlybiau a chymdeithasau atodol, wneud defnydd llawn o system diwtorial y Brifysgol a'r staff yn eich hadran. Am wybodaeth pellach ar sut i wneud hyn dilynwch y dolenni cyswllt hyn:
LinkedIn - Datblygu eich Proffil Proffesiynol (PDF)