Cymorth Menopos

Mae stigma o gwmpas y menopos ers tro byd, sy’n arwain at gywilydd ac embaras ac sy’n golygu bod llawer o bobl yn dioddef yn dawel. Yn ffodus, ceir symudiad bellach at “newid” er gwell, a ddechreuwyd yn benodol gyda rhaglenni dogfen diweddar Davina McCall ar Sianel 4 yn amlygu’r problemau mae menywod yn eu hwynebu a dod â’r menopos i’r parth cyhoeddus yn llawn. 

Holiadur

Holiadur Peri/Ôl/Fenopos: Dr Helen Marshall (IBERS) hem@aber.ac.uk

Mae gen i ddiddordeb ym marn a phrofiadau HOLL staff PA (beth bynnag eu rhyw, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd) yn ymwneud â’r peri-/ôl-/fenopos. Mae stigma o gwmpas y menopos ers tro byd, sy’n arwain at gywilydd ac embaras ac sy’n golygu bod llawer o bobl yn dioddef yn dawel. Yn ffodus, ceir symudiad bellach at “newid” er gwell, a ddechreuwyd yn benodol gyda rhaglenni dogfen diweddar Davina McCall ar Sianel 4 yn amlygu’r problemau mae menywod yn eu hwynebu a dod â’r menopos i’r parth cyhoeddus yn llawn. Fel rhan o fy ymgyrch i wella’r cymorth mae PA yn ei ddarparu i fenywod peri-/ôl-/fenopos rwyf i wedi creu holiadur na ddylai gymryd mwy na 15 munud i’w gwblhau. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn sbario’r amser i gwblhau’r arolwg drwy glicio’r ddolen isod:

https://aber.onlinesurveys.ac.uk/au-menopos-survey-v1

Grŵp Cymorth

Rydym ni wedi sefydlu grŵp cymorth peri-/ôl-/fenopos PA i’r holl staff a myfyrwyr; bydd hwn yn gyfle i rannu profiadau a chynnig amgylchedd diogel a chefnogol.

Cyfarfodydd sydd i ddod:

  • Dydd Mercher 26 Mehefin
  • Dydd Mercher 24 Gorffennaf
  • Dydd Mercher 21 Awst
  • Dydd Mercher 18 Medi
  • Dydd Mercher 23 Hydref 
  • Dydd Mercher 20 Tachwedd
  • Dydd Mercher 18 Rhagfyr

Bydd yr holl sesiynau mewn Cledwyn 0.25 am 3-4yp ac ar MS Teams. Bydd dolenni yn cael eu postio ar Grŵp Cymorth Fenopos ar Microsoft Teams

Cysylltu

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â ni’n ddi-oed.