Diwrnod Iechyd a Lles i'r staff

Diwrnod iechyd a lles i hyrwyddo a chefnogi lles corfforol a meddyliol y staff.
Dydd Mawrth 29 Ebrill 2025, 9.30yb - 3.00yp
Ystafelloedd Cynadledda Medrus
Dewch i gwrdd â gwasanaethau allweddol a dysgu am y gwahanol gymorth ac adnoddau ar gyfer iechyd a lles sydd ar gael i’r staff, yn y Brifysgol ac yn allanol.
- Dysgwch sut i gael cymorth proffesiynol pan fo angen (e.e., Rhaglen Cymorth i Weithwyr, gwasanaethau cwnsela).
- Meithrin ymwybyddiaeth a nodi strategaethau ar gyfer gwella iechyd corfforol, iechyd meddwl a meithrin gwytnwch.
- "Gwybod eich rhifau" profwch y glwcos yn eich gwaed, eich pwysedd gwaed a’ch BMI a chael gwybodaeth a chyngor.
- Ystyried a deall rôl cysylltiadau cymdeithasol a systemau cymorth wrth wella lles yn y gwaith.
- Deall pwysigrwydd meithrin arferion sy'n hybu iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol yn y tymor hir.
Ffair Iechyd Da (09.30yb - 3.00yp)
Arddangoswr | Gwybodaeth am y stondin |
---|---|
Adnoddau Dynol a Datblygu sefydliadol |
Dewch i gwrdd â'r tîm a dysgu am yr ystod o bolisïau, adnoddau a rhaglenni sydd â'r nod o hybu iechyd, lles a datblygiad personol y gweithwyr. |
Adnodd Adrodd a Chymorth i fyfyrwyr a staff |
Dewch i gwrdd â’r Tîm Cymorth Gwrth-aflonyddu a Thrais i ddysgu mwy am y system Adrodd a Chymorth i fyfyrwyr a staff - platfform ar-lein diogel a chyfrinachol i roi gwybod am achosion o gamymddwyn rhywiol, bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu neu droseddau casineb. |
Adran y Gwyddorau Bywyd: Perfformiad Chwaraeon a Phrofion Iechyd |
Y cyfle i gael asesiad o gyfansoddiad y corff ac i ddysgu am y gwasanaethau masnachol sydd yn cael eu cynnig yn Adeilad Carwyn James, gan cynnwys: Asesiad o’r cynhwysedd aerobig, pennu’r trothwy lactig, asesiad cynhwysfawr o chyfansoddiad y corf a'ch pecyn iechyd. |
Canolfan Addysg Gofal Iechyd |
Gewch gwrdd â'r tîm nyrsio yn y Brifysgol, sy'n nyrsys cofrestredig o amryw o gefndiroedd arbenigol. Byddant yn hapus i gofnodi eich pwysedd gwaed, rhannu rhai o’n hadnoddau, a sgwrsio am ffyrdd o gefnogi eich gwydnwch a’ch dewisiadau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. |
Canolfan Chwaraeon |
Dewch i gwrdd â'r tîm a chael gwybodaeth am yr ystod o ddosbarthiadau, cyfleusterau, a phecynnau aelodaeth sydd ar gael - gydag arddangosiad o feic sbinio a'r cyfle i gymryd rhan mewn heriau ar y diwrnod. |
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth |
Dewch i gwrdd â thîm Canolfan y Celfyddydau a chlywed am eu rhaglen amrywiol o arddangosfeydd, perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau cymunedol. |
Care First |
Darparwr Rhaglen Cymorth i Weithwyr - gwybodaeth am y gwasanaeth cyfrinachol 24/7 am ddim a’r gwasanaeth cwnsela, gwybodaeth a chyngor sydd ar gael i’r staff. |
Cymorth a Lles Myfyrwyr |
Dewch i gwrdd â staff o bob rhan o’r tîmau Cymorth a Lles Myfyrwyr i glywed sut mae ein Rhaglen ‘Cefnogi ein Myfyrwyr gyda’n Gilydd’ wedi’i chynllunio i roi gwybodaeth i staff am faterion sy’n ymwneud â myfyrwyr fel y gallant ddarparu cymorth ystyrlon a gwneud atgyfeiriadau effeithiol, gwybodus, pan fo angen. |
Dysgu Cymraeg |
Dewch i gwrdd â staff o’r timoedd Cymorth a Lles Myfyrwyr i glywed am sut mae ein Rhaglen ‘Cefnogi ein Myfyrwyr gyda’n Gilydd’ wedi’i llunio i roi gwybodaeth i’r staff am faterion sy’n berthnasol i’r myfyrwyr fel y gallai’r staff ddarparu cefnogaeth ystyrlon a chyfeirio myfyrwyr ymlaen i wasanaethau eraill pan fo angen, mewn ffordd effeithiol wedi’i seilio ar wybodaeth gadarn. |
Dysgu Gydol Oes |
Gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael sy'n addas ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, ac arddangosiadau wrth y stondin trwy gydol y dydd.
Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes AM DDIM i holl aelodau staff Prifysgol Aberystwyth - Dod o hyd i gwrs i chi. |
Gorsaf bwyd iach |
Taleb 25% o ostyngiad i’r Neuadd Fwyd i'r rhai sy'n dod draw Samplau o smŵddis a ramen, gwybodaeth am ddewisiadau bwyd iach, prydau gwerth am arian, cynigion prydau heb glwten, alergenau, bwydlenni. |
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD) |
Gwybodaeth a chymorth i unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phroblem cyffuriau neu alcohol eu hunain neu sy'n poeni am sut mae rhywun arall yn defnyddio cyffuriau a/neu alcohol. |
HAHAV |
Elusen y Brifysgol eleni, - gwybodaeth am yr elusen, cyfleoedd i wirfoddoli, diddordebau ymchwil a'u cyfleuster byw yn dda. |
Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd |
Dewch i gwrdd â'r tîm a chlywed am ergonomeg yn y swyddfa (dangosiad o sut i sicrhau bod dyluniad y gadair ac uchder y weithfan yn gywir) ac am y datblygiadau a’r prosiectau sydd ar y gweill o ran yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. |
Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) - Sgrinio am Ganser |
Bydd ICC yn darparu gwybodaeth am y rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys pwy sy'n cael eu gwahodd, pa mor aml a'r profion a gynhelir. |
Insight |
Darparwr Iechyd Galwedigaethol gyda gwybodaeth am y prosesau a’r cymorth sydd ar gael i staff.
Bydd y sesiynau byrion hyn yn galluogi staff i wirio eu pwysedd gwaed a lefelau’r glwcos yn y gwaed a chyfrifo eu BMI (neu'r gymhareb pwysau i daldra) ynghyd â'r cyfle i fynd trwy restr fer o gwestiynau sy'n gysylltiedig ag iechyd i'w helpu i ddeall eu statws presennol o ran iechyd a lles yn well. |
Papyrus |
Gwybodaeth am atal hunanladdiad a hybu iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol i unrhyw un o dan 35 oed, y rhai sy'n pryderu am eraill, a gweithwyr proffesiynol. |
parkrun Aberystwyth |
parkrun Aberystwyth a parkrun ieuenctid Aberystwyth: cyfleoedd i gymryd rhan (cerdded/rhedeg) a gwirfoddoli. |
Rhwydweithiau staff |
Dewch i gwrdd ag aelodau o amryw rwydweithiau a grwpiau staff, a chlywed am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau sydd ar ddod, a sut i gymryd rhan. |
Tîm Estyn Allan Datblygu Cymunedol Hywel Dda (CDOT) |
Mae CDOT yn darparu gwybodaeth am iechyd sy'n helpu unigolion i wneud dewisiadau am eu hiechyd a'u lles ar sail gwybodaeth gadarn (gan gynnwys rhoi'r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol, imiwneiddio a brechiadau, a bwyta a byw'n iach). |
Undebau Llafur |
UCU, UNSAIN ac UNITE - gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, aelodaeth, a'r manteision a'r gwasanaethau. |
Sgyrsiau a gweithdai Iechyd a Lles (09.30yb - 3.00yp)
Amser |
Sgwrs/ Gweithdy |
---|---|
9.30yb - 10.20yb |
Stress and Resilience | Cofrestrwch yma Ian Archer, Swyddog Datblygu Sgiliau Mae'r sesiwn ragarweiniol hon yn trafod y syniad bod y modd rydych chi'n profi straen yn dibynnu ar eich personoliaeth. Mae’n bosibl iawn y bydd yr hyn sy’n rhoi straen ar un unigolyn yn rhoi egni i rywun arall – ac mae straen yn y gweithle yn aml yn deillio o’r rhai sydd â nodweddion personoliaeth wahanol. Mae modd rhagweld eich ymatebion i straen a'r sbardunau sy’n benodol i chi, ac mae yna ffyrdd o ymdrin â nhw a dechrau meithrin gwydnwch sy’n benodol i chi fel unigolyn. |
10.30yb - 11.20yb |
Your own Health and long-term wellbeing | Cofrestrwch yma Matt Higginson, Rheolwr Gweithrediad Clinigol (Insight Workplace Health) Sesiwn i staff a hoffai ddysgu mwy am sut y gallant gynnal a gwella eu hiechyd eu hunain yn y gwaith a’r tu allan iddo i sicrhau eu lles hirdymor. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys bwyta'n iach, awgrymiadau am fwyta, pwysau iach ac amcanion, ymarfer corff a gweithgarwch corfforol, cael digon o gwsg, cyffuriau a meddyginiaeth ar bresgripsiwn, ysmygu ac iechyd meddwl. |
11.30yb - 12.20yp |
Mindfulness for Stress and Wellbeing | Cofrestrwch yma Jenny Smith, Tiwtor Dysgu Gydol Oes: Seicoleg Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno beth yw Myfyrdod ac Ymwybyddiaeth Ofalgar a sut maent yn berthnasol i'n profiad o straen ac iechyd. Byddwn yn edrych ar fanteision rhoi ymwybyddiaeth ofalgar ar waith mewn sefyllfaoedd bob dydd trwy gael ymarfer ffurfiol a phecyn cymorth o gymwysiadau micro ar gyfer senarios o foment i foment. Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes AM DDIM i holl aelodau staff Prifysgol Aberystwyth - Chwiliwch am gwrs addas i chi. |
1.00yp - 2.00yp |
Gweithdy ffeltio nodwyddau | Cofrestrwch yma Charlie Kenobi, Tiwtor Dysgu Gydol Oes: Celf a Dylunio Ffeltiwch eich holl straen i ffwrdd wrth i chi greu Storm fach mewn cwpan de. Yn ystod y sesiwn awr hon byddwch yn dysgu'n gyflym y dechneg o ffeltio nodwydd; darperir yr holl ddeunyddiau i greu’ch byd bach eich hun. Ar ôl adeiladu eich sylfaen wlân greiddiol, bydd rhaid i chi ddewis pa dirlun neu forlun i’w ffeltio gan ddefnyddio’r lliwiau niferus o wlân defaid pur sydd ar gael. Gan y byddwn yn gweithio i mewn i gwpan bach, mae llai o siawns o’ch pigo’ch hun ar ddamwain, ond bydd yn dal yn bosibl, felly cymerwch ofal mawr wrth weithio gan fod nodwyddau ffeltio yn finiog! Bydd plastr ar gael hefyd rhag ofn y bydd hyn yn digwydd. Ar ddiwedd y sesiwn, byddwch yn mynd â'ch byd bach i ffwrdd gyda chi, naill ai i’w edmygu ar y silff ben tân, neu i’w ddefnyddio fel clustog pin. Ac os byddwch chi’n syrthio mewn cariad â gweithio gyda gwlân, beth am gofrestru ar Hooked on Wool gyda Charlie Kenobi lle byddwch chi’n dysgu holl hanfodion Gwau, Crosio a Ffeltio gan ddechrau ar ddydd Mercher 7 Mai 6-9yh Adeilad yr Arglwydd Millford ar Gampws Gogerddan. Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes AM DDIM i holl aelodau staff Prifysgol Aberystwyth - Chwilio am gwrs addas. |
2.10yp - 3.00yp |
"Tu Hwnt i'r Ddesg: Llesiant yn ein timau | Cofrestrwch Yma “7 sleid mewn 7 munud” – clywch am bedair enghraifft gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol am sut mae eu prosiectau ar lefel leol a’u hymarfer da yn cefnogi lles y staff, yn meithrin cyfeillgarwch a chysylltiadau, ac yn creu profiadau hwyliog a chadarnhaol i dimau. Yn dilyn y fformat “PechaKucha”, wedi'i gynllunio i fod yn gyflym, yn gryno ac yn ddi-lol, yn debyg i'r cysyniad 'gwib-ddetio’ o gyrraedd y pwynt yn gyflym.
|
Taith Cerdded Lles (12.00yp - 1.00yp)
Dewch i ymuno â Chlwb Cerdded y Brifysgol am daith gerdded (tua 45 munud) drwy’r campws a'r coed. Mae’n gyfle gwych i ddianc o’r ddesg, arsylwi ar fyd natur, a sgwrsio ag eraill!
- Byddwn yn cyfarfod yn Nerbynfa'r Brifysgol (Campws Penglais) am 12yp
- yr unig ystyriaethau wrth gerdded yw bod pawb yn gwisgo esgidiau addas, dillad addas i’r dirwedd a'r tywydd, a chadw'r cyflymder i gyd-fynd â'r cerddwr arafaf.
Fe welwch ddyddiadau digwyddiadau’r dyfodol a’r llwybrau cerdded diweddaraf ar safle y Clwb Cerdded ar Teams (dwy daith gerdded y mis ar gampws Penglais a champws Gogerddan).
Ystafell staff (09.30yb - 3.00yp)
"Ystafell Staff" yn Medrus 2 yw eich lle chi ar gyfer y diwrnod er mwyn ymlacio; cwrdd ag eraill am chlonc; dadflino ar ôl sgwrs, gweithdy neu'r ffair; bwyta'ch cinio; yfed eich te/coffi neu i fwynhau'r gweithgareddau sydd gennym yno
- Gemau bwrdd
- Gorsaf Lego
- Llyfrau lliwio
- Casgliad bychan o lyfrau