Pecynnau aelodaeth
Aelodaeth i Fyfyrwyr
Gall pob myfyriwr sydd yn byw yn llety’r Brifysgol ddefnyddio holl weithgareddau'r Ganolfan Chwaraeon am ddim - mae hyn yn cynnwys y Gampfa, Dosbarthiadau, Seiclo Grŵp, y Wal Ddringo Box Rox, y Pwll Nofio a'r Sawna. Mae mynediad am ddim i'r Ganolfan Chwaraeon ond ar gael i aelodau.
Gellir prynu aelodaeth o'r Ganolfan Chwaraeon ar-lein trwy ddalen we Legend neu fesul ap y Ganolfan Chwaraeon. Gellir hefyd prynu aelodaeth trwy alw heibio dderbynfa'r Ganolfan Chwaraeon.
Aelodaeth |
Manylion Aelodaeth | Pris |
---|---|---|
Pecyn Preswyl |
Mynediad anghyfyngedig i’r ardaloedd canlynol:
|
Am ddim |
Aelodaeth 145 (ar gyfer myfyrwyr dibreswyl) Prynwch nawr i gael mynediad llawn o ddiwedd Mai 2024 hyd at Mehefin 2025 |
Mynediad anghyfyngedig i’r ardaloedd canlynol:
|
£145 |
Aelodaeth Staff
Gall staff brynu aelodaeth drwy dalu am y mis gyntaf yn y Dderbynfa. Cyn hir bydd modd sefydlu Debyd Uniongyrchol ar-lein fesul y ddalen we hyn neu fesul eich ffôn symudol ar yr ap. Wedi ei sefydlu er mwyn actifadu eich cyfrif, bydd angen i chi ddilysu eich aelodaeth yn y Dderbynfa drwy ddarparu eich cerdyn staff.
•Y pris am aelodaeth staff yw £27.50 y mis ac mae hyn yn rhoi cerdyn aelodaeth Platinwm i chi.
Aelodaeth | Manylion Aelodaeth | Misol |
---|---|---|
Platinwm |
Mynediad anghyfyngedig i’r holl ardaloedd canlynol:
|
£27.50 |
Cynigir hefyd sesiynau Pêl-droed a Badminton i staff ar drws y flwyddyn academaidd. Mae'r rhain am ddim i aelodau Platinwm.
Am fwy o wybodaeth, ac i ofyn unrhyw gwestiynau, cysylltwch â chwaraeon@aber.ac.uk.
Y Gymuned
Gall aelodau o'r gymuned brynu pecynnau aelodaeth misol, sydd yn cynnig mynediad anghyfyngedig i'r Ganolfan Chwaraeon, drwy'r system ar-lein.
Mae dosbarthiadau'n cael eu cynnal yn unol â'r amserlen ar ein gwefan: https://www.aber.ac.uk/cy/sportscentre/fitness-classes/
Aelodaeth | Manylion aelodaeth | Taliad un mis neu dri mis |
---|---|---|
Clwb 300 |
Defnydd anghyfyngedig o’r gweithgareddau canlynol:
|
£32.50 neu £97.50
|
Clwb 300 Corfforaethol (GIG, Gwasanaethau Brys, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion) |
Defnydd anghyfyngedig o’r gweithgareddau canlynol:
|
£29 neu £87
|
Campfa Ieuenctid (Disgyblion addysg uwchradd rhwng 16 ac 18 oed) |
Defnydd anghyfyngedig o’r gweithgareddau canlynol:
|
£12.50 neu £37.00 |
Campfa Ieuenctid (14-16 oed. |
Defnydd anghyfyngedig o'r gweithgareddau canlynol:
|
£12.50 neu £33 |
Aelodaeth Staff Sefydliadau Cysylltiedig
Mae aelodaeth staff sefydliadau cysylltiedig ond yn berthnasol i aelodau staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Aber Instruments.
I gael rhagor o gyngor, ac i ofyn unrhyw gwestiynau, cysylltwch â chwaraeon@aber.ac.uk
Aelodaeth | Manylion aelodaeth | Misol |
---|---|---|
Platinwm |
Defnydd anghyfyngedig o’r gweithgareddau canlynol:
|
£28 |
Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau Cyffredinol Aelodaeth Sbort Aber
Mae'r Ganolfan Chwaraeon wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ein haelodau a defnyddwyr o’r gymuned leol trwy gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data, a'r arfer gorau cyfredol.
Mae'r amodau isod wedi'u cynllunio er mwyn sicrhau bod yr holl aelodau yn gallu manteisio i'r eithaf ar fuddiannau aelodaeth y Ganolfan Chwaraeon mewn modd diogel a chytûn.
- Byddaf yn rhoi gwybod i staff y Ganolfan Chwaraeon am unrhyw newidiadau i'm hiechyd yn ystod y cyfnod pan fyddaf yn ymweld â'r Ganolfan Chwaraeon, neu os byddaf yn teimlo'n sâl yn ystod yr wythnos wedi imi ymweld â'r Ganolfan Chwaraeon.
- Deallaf fod angen imi gwblhau'r cwrs cynefino ar-lein os wyf am ddefnyddio'r Gampfa neu'r Wal Ddringo Dan Do.
- https://www.aber.ac.uk/cy/sportscentre/facilities/main-gym/
- https://www.aber.ac.uk/cy/sportscentre/facilities/climbing-wall/
- Yr wyf yn cytuno i beidio â benthyca fy ngherdyn i unrhyw un, ac yr wyf yn deall y gall methu â chydymffurfio olygu y bydd fy aelodaeth yn cael ei dirwyn i ben.
- Yr wyf yn cytuno i roi gwybod i aelod o staff y Ganolfan Chwaraeon os oes gennyf, neu os byddaf yn datblygu, cyflwr meddygol a allai beryglu diogelwch eraill neu fy niogelwch i tra byddaf yn defnyddio'r Ganolfan Chwaraeon.
- Byddaf yn sicrhau mai dim ond pan fyddaf yn teimlo'n iach y byddaf yn dod i'r Ganolfan Chwaraeon, ac nad oes gan unrhyw aelod o'm teulu na'm cylch cymdeithasol unrhyw symptomau o'r Coronafeirws.
- Yr wyf yn deall na all y rheolwyr gymryd cyfrifoldeb os bydd unrhyw eiddo personol sy'n cael ei adael yn yr ystafelloedd newid yn cael ei ddwyn neu ei golli.
- Yr wyf yn deall, er bod yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus y Brifysgol yn fy niogelu, fy mod yn gyfrifol am sicrhau yswiriant atebolrwydd personol ar gyfer unrhyw anafiadau chwaraeon a gaf wrth ddefnyddio cyfleusterau neu gyrsiau'r Ganolfan Chwaraeon.
- Yr wyf yn deall, yn rhan o'm Haelodaeth Blatinwm o'r Ganolfan Chwaraeon, fod gan staff y Ganolfan Chwaraeon fynediad i wybodaeth gyfyngedig sy'n cael ei chadw ar fy ngherdyn e.e. dyddiad geni, cyfeiriad ac ati. Trwy roi'r wybodaeth, yn ysgrifenedig neu ar lafar, byddwch yn rhoi eich caniatâd i ni ei defnyddio'n addas i un neu fwy o ddibenion penodol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch aelodaeth ar adeg eich contract - GDPR Erthygl 6(1)(a).
- Mae gan reolwyr y Ganolfan Chwaraeon yr hawl i ganslo unrhyw aelodaeth os ceir achos o dorri rheolau neu ymddygiad y mae rheolwyr y Ganolfan o'r farn ei fod yn tramgwyddo cwsmeriaid ac / neu staff neu'n peri perygl o safbwynt iechyd a diogelwch.
- Rhaid i blant gael eu goruchwylio gan eu rhiant neu eu gwarcheidwad eu hunain. Rhaid peidio â gadael plant ar eu pen eu hunain oni bai eu bod yn cael eu goruchwylio mewn amgylchedd dosbarth gan aelod o staff y Ganolfan Chwaraeon.
- Yr wyf yn deall, dan amgylchiadau arferol, nad oes modd ad-dalu fy nhâl aelodaeth - bydd y manylion llawn ar gael ar ein tudalennau gwe.
- Mae'r ddogfen hon yn ganllaw ar sut mae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth yn cofnodi, yn diogelu ac yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym am gwsmeriaid pan fyddant yn ymuno â'n cynllun aelodaeth neu unrhyw un o'n cyrsiau byr. Sut rydym yn casglu gwybodaeth er mwyn ymuno â'n cynllun aelodaeth, defnyddio'r gampfa neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a drefnir megis grŵp rhedeg neu wers nofio ac ati.
Gofynnwn i chi roi gwybodaeth sylfaenol i ni a fydd yn ein helpu i'ch adnabod ac yn ein galluogi i'ch helpu i gael y gwasanaeth gorau gan y Ganolfan Chwaraeon. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon naill ai:
- Wyneb yn wyneb gennych pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer gweithgaredd yn y Ganolfan Chwaraeon i gynorthwyo gyda Chanlyn ac Olrhain, neu
- Ar y we, pan fyddwch chi'n prynu ar-lein, neu
- Trwy Astra, sydd eisoes yn cynnwys gwybodaeth am staff a myfyrwyr, neu
- Trwy drosglwyddo gwybodaeth drwy Pobl Aber pan fydd staff yn ymaelodi â’r Ganolfan Chwaraeon
Yr wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi:
- Mae angen i ni allu adnabod ein haelodau ac unrhyw un sy'n cofrestru ar gyfer cwrs byr, neu sy'n dymuno defnyddio'r Ganolfan Chwaraeon.
- Dyma wybodaeth sylfaenol fel eich enw llawn, cyfeiriad a manylion cyswllt.
- Gallai hefyd gynnwys data mwy sensitif fel unrhyw faterion meddygol a allai effeithio ar eich ymarfer corff neu eich manylion banc os ydych yn trefnu debyd uniongyrchol gyda ni.
- Weithiau mae angen gwybodaeth am eich plentyn yn ogystal â chi'ch hun - fel arfer enw a dyddiad geni, fel y gallwn edrych ar gynllun ein dosbarthiadau nofio, dringo neu wersylloedd haf i blant.
- Er ein bod yn gofyn am rywedd, ni ddefnyddir yr wybodaeth hon at ddibenion cofnodi.
Sut y defnyddiwn yr wybodaeth
- Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i greu system canlyn ac olrhain glir i'n galluogi i gysylltu ag unrhyw un sydd wedi defnyddio'r Ganolfan Chwaraeon ac a allai fod wedi dod i gysylltiad â Covid-19.
- Rydym yn defnyddio'ch enw a'ch dyddiad geni i greu proffil aelod sy'n unigryw i chi. Gallwch weld eich Rhif Personol ar Astra ar gyfer aelodaeth neu ar y system Matrics i gofnodi a ydych wedi cwblhau cwrs cynefino â’r gampfa, neu pan fyddwch yn ymuno â gwers nofio neu ddringo neu fynychu ein gwersylloedd chwaraeon i blant.
- Mae cael dynodwr unigryw yn caniatáu i'n systemau weithredu'n effeithlon ac yn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir.
- Rydym yn defnyddio'ch e-bost i rannu gwybodaeth am ddosbarthiadau a newidiadau i aelodaeth yma yn y Ganolfan Chwaraeon.
- Os ydych wedi gwneud cais i dalu’n fisol, yna fel aelod allanol, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth Bancio a roddwyd gennych i osod Debyd Uniongyrchol am 12 mis.
Eich dewisiadau
- Gallwch nodi sut yr hoffech i ni gysylltu â chi, a gofyn i ni eich tynnu oddi ar ein rhestrau postio.
- Yn ôl y gyfraith, gallwch nawr ofyn i ni ddileu'r holl ddata personol sy'n ymwneud â chi o'n systemau aelodaeth a champfa.
- Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y bydd hyn yn annilysu eich aelodaeth ac efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau sesiwn gynefino yn y Gampfa y tro nesaf yr hoffech ddefnyddio'r Ganolfan Chwaraeon.
- Gallwch newid dyddiad gorffen eich aelodaeth drwy:
- Roi gwybod i ni wyneb yn wyneb – ond bydd yn rhaid i chi ganslo'ch Debyd Uniongyrchol y banc
- Fel aelod o staff, drwy ddiweddaru eich cofnod talu ar PoblAber
- Fel myfyriwr, drwy roi gwybod i ni os ydych yn gadael y Brifysgol
Cais i dynnu gwybodaeth
- Bydd yr wybodaeth am eich aelodaeth yn cael ei diweddaru ar ddiwedd eich tymor oni bai eich bod yn gofyn am ddod â’r aelodaeth i ben yn gynnar neu drefnu aelodaeth am 12 mis arall.
- Gallwn dynnu eich holl gofnodion o system y gampfa, ond yna bydd angen i chi gwblhau sesiwn gynefino os hoffech chi ddefnyddio'r gampfa yn ddiweddarach.
Ein dull o ddiogelu eich gwybodaeth bersonol
- Mae ein gwybodaeth am aelodaeth yn cael ei chadw'n ganolog ar system gofnodi'r Brifysgol.
- Mae hyn yn ein galluogi i gael cronfa ddata ddiogel a chadarn i sicrhau nad yw eich gwybodaeth yn cael ei rhannu'n allanol.
- Rydym yn defnyddio dulliau talu credadwy ar gyfer eich trafodion cerdyn credyd wrth y til.
- Mae gennym system Debyd Uniongyrchol gadarn sy'n defnyddio systemau ariannol y Brifysgol ac rydym yn gweithio'n agos gyda swyddfeydd yr Adran Gyllid i sicrhau bod yr holl ddata sy’n ymwneud â'ch manylion banc yn dilyn y protocolau cywir.
- Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth â phartïon allanol.
- Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion aelodaeth neu pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cwrs neu sesiwn gynefino yn y gampfa.
- Nid ydym yn gwerthu nac yn dosbarthu ein rhestrau postio.
Eich caniatâd
- Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer aelodaeth neu gwrs byr, gofynnwn i chi roi gwybodaeth i'n galluogi i brosesu eich cais.
- Gellir cael telerau ac amodau llawn y rhain ar ffurf copi papur neu eu gweld ar-lein ar ein tudalennau gwe.
- Os byddwch eisiau newid eich gwybodaeth neu eisiau gofyn am gael gwared ar wybodaeth benodol oddi ar ein systemau, gallwch anfon e-bost atom ar chwaraeon@aber.ac.uk .
Hawl i weld y data
- Mae gennych hawl i ofyn am ganiatâd i weld pa ddata sydd gennym ar eich cyfrif a sut yr ydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i brosesu eich cais.
Dolenni - Mae ein gwefan yn cadw gwybodaeth am weithgareddau a chyfleusterau yn y Ganolfan Chwaraeon yn unig ac nid oes ganddi unrhyw gysylltiadau allanol uniongyrchol.
Llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol
- Rydym yn aml yn defnyddio Llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol i hyrwyddo'r hyn sy'n digwydd yn y Ganolfan Chwaraeon.
- Rydym yn defnyddio ffotograffau o'n haelodau mewn dosbarthiadau a lleoliadau eraill gyda chaniatâd yr unigolyn hwnnw.
- Weithiau bydd ffotograffydd proffesiynol yn dod i dynnu lluniau - gofynnir am ganiatâd cyn y sesiwn tynnu lluniau a rhoddir rhybudd ymlaen llaw ar safleoedd Cyfryngau Cymdeithasol.
- Weithiau bydd ein hathrawon yn gofyn am gael tynnu llun yn ystod neu ar ôl y dosbarth.
- Ni chymerir lluniau na fideos heb hysbysu'r aelodau yn gyntaf.
- Gall unrhyw ffotograffau a ddefnyddir ar ein safleoedd gael eu dileu os yw’r unigolyn yn dymuno.
- Mae gennym arwyddion clir yn y Ganolfan Chwaraeon i wahardd ffotograffau rhag cael eu tynnu gan ddefnyddwyr eraill.
- Mae gennym dudalen Facebook gyffredinol sy'n rhoi gwybodaeth.
- Ni all defnyddwyr allanol bostio ar y brif dudalen, ond gallant ofyn cwestiynau trwy Messenger - https://www.facebook.com/SbortAber/?ref=bookmarks
- Mae gennym dudalen FfitRhwydd benodol ar FB, sy'n grŵp caeedig i'n haelodau a'n tiwtoriaid dosbarth allu rhannu gwybodaeth a gofyn cwestiynau https://www.facebook.com/groups/837465226315193/?ref=bookmarks
- Mae gennym dudalen Twitter er gwybodaeth yn unig - @AberSport - https://twitter.com/AberSport Mae gennym hefyd dudalen Instagram – sbortaber https://www.instagram.com/sportaber/?hl=en
Diwygiadau i Fyfyrwyr – yn ogystal â'r uchod
- Rwy'n deall bod angen Cerdyn Chwaraeon arnaf i ymuno ag unrhyw Dîm Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth.
- Rwy'n cytuno i ymuno â'm Clwb trwy dudalen we'r Undeb Athletau.
- Rwy'n deall y bydd angen i’r wybodaeth am fy aelodaeth fod yn gyfredol cyn y gallaf gofrestru ar system yr Undeb Athletau.
- Rwy'n deall bod Clwb Sborti (yn rhoi'r hawl i mi ddefnyddio'r cyfleusterau'n rhad ac am ddim ac am bris gostyngedig). Gall cyrsiau, timau a Chlybiau Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth adolygu prisiau yn ôl disgresiwn y rheolwyr.
- Rwy'n deall, os byddaf yn canslo gweithgaredd heb hysbysiad digonol, byddaf yn atebol am y tâl priodol.
- Rwy'n deall bod yswiriant personol wedi'i gynnwys ym mhris y Cerdyn Sborti.