Cynlluniau Astudio
Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Information provided by Department of Welsh
-
Information provided by Department of Welsh
-
Datganiad Meincnod pwnc Cymraeg
Information provided by Department of Welsh
-
Medi 2023
Information provided by Department of Welsh
-
Prif nodau addysgol y rhaglen yw cynnig darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn galluogi myfyrwyr i weithredu o fewn y sector cyfieithu proffesiynol yng Nghymru ac i archwilio meysydd ymchwil o fewn astudiaethau cyfieithu. Anelir y ddarpariaeth hon at dri phrif grŵp o ddarpar fyfyrwyr – sef:
Graddedigion diweddar (unrhyw bwnc) sydd â lefelau uchel o hyfedredd yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd yn ystyried gyrfa fel cyfieithydd;
Cyfieithwyr (llawrydd a chyflogedig) sydd yn dymuno defnyddio’r cyfle hwn fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus, yn aml gyda chefnogaeth eu cyflogwyr;
Unigolion sydd yn dymuno newid gyrfa neu ennill cymwysterau yn y maes hwn, wedi cyfnod o absenoldeb o addysg uwch.
Yn ogystal â’r grwpiau hyn a adnabuwyd drwy ymchwil farchnad, gellir ystyried dau grŵp pellach o fyfyrwyr hefyd, sef:
Unigolion sydd â diddordeb mewn astudio rhai o’r modiwlau er eu diddordeb eu hunain;
Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gynlluniau gradd eraill ac sydd eisiau deall mwy am gyfieithu ochr yn ochr â’u prif bwnc astudio.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu a miniogi ystod o sgiliau ymarferol, magu dealltwriaeth o’r cyd-destun proffesiynol Cymreig ynghyd â dyfnhau adnabyddiaeth o faes damcaniaethol astudiaethau cyfieithu. Mae’r modiwlau craidd yn cynnig y tair agwedd uchod. Drwy’r modiwlau dewisol, rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd penodol e.e. cyfieithu ar y pryd, cyfieithu creadigol, cyfieithu deddfwriaethol, yn aml mewn cydweithrediad â sefydliadau neu gymdeithasau proffesiynol eraill. Fe ellid ychwanegu at y meysydd hyn wrth i’r rhaglen wreiddio. Ar gyfer eu prosiect terfynol (Traethawd Hir, Portffolio Proffesiynol neu Bortffolio Creadigol) caiff myfyrwyr unigol gyfle i weithio gydag arolygydd academaidd mewn maes penodol ac arbenigol.
Dysgir y rhaglen mewn cydweithrediad agos â’r sector cyfieithu yng Nghymru. Cynigir lleoliadau gwaith fel rhan allweddol o’r rhaglen ac fe fydd arbenigwyr o’r sector yn cyfrannu at y rhaglen ddysgu, fel darlithwyr neu siaradwyr gwadd. Trafodir cynnwys y rhaglen yn rheolaidd gyda’r sector drwy gyfarfodydd y Consortiwm Cenedlaethol. Disgwylir y bydd y sector yn defnyddio’r rhaglen fel hyfforddiant ar gyfer ei staff.
Yn ogystal, dysgir y rhaglen mewn cydweithrediad â Sefydliadau Addysg Uwch eraill yng Nghymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cylchredwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth fel cam cyntaf i ffurfioli’r cytundeb rhwng y Prifysgolion (Abertawe, Bangor, Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Lluniwyd a dosbarthwyd dogfen (a elwir “Y Cynnig”) sydd yn amlygu’r ffactorau y mae angen trafodaeth bellach arnynt rhwng y prifysgolion cyn gallu dod i gytundeb ffurfiol, sef Memorandwm Cytundeb.
Information provided by Department of Welsh
-
Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, nodweddion a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:
1. Cyd-destun cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru heddiw;
2. Dangos dealltwriaeth o weithdrefnau sydd yn cynnwys cyfieithu fel proses gan gynnwys polisi ieithyddol cyhoeddus a rôl y cyfieithydd o fewn cynllunio ieithyddol;
3. Technegau a Sgiliau Cyfieithu Ymarferol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, i gynnwys sgiliau uchel o gywirdeb a manylder wrth gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ysgrifenedig mewn cyd-destunau amrywiol
4. Adnoddau ieithyddol a thechnolegau cyfoes sydd yn cefnogi a chynorthwyo cyfieithu;
5. Damcaniaethau ym maes Astudiaethau Cyfieithu ynghyd â seiliau deallusol y ddisgyblaeth;
6. Ymarfer proffesiynol yn y sector cyfieithu Cymraeg / Saesneg yng Nghymru;
7. Ystod o feysydd arbenigol (megis cyfieithu ar y pryd, cyfieithu deddfwriaethol, cyfieithu creadigol a llenyddol, ac yn y blaen).
Information provided by Department of Welsh
-
A1 Gwybodaeth a dealltwriaeth o sylfeini damcaniaethol astudiaethau cyfieithu a datblygiad y ddisgyblaeth.
A2 Gwybodaeth a dealltwriaeth o adnoddau ieithyddol a thechnolegau ym maes cyfieithu.
A3 Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau cyfieithu a mynegiant ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
A4 Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyd-destun cyfieithu yng Nghymru o fewn gweithdrefnau a chyfundrefnau ehangach.
A5 Gwybodaeth a dealltwriaeth o ymarfer proffesiynol yng Nghymru ym maes cyfieithu.
A6 Gwybodaeth a dealltwriaeth o feysydd arbenigol o fewn astudiaethau cyfieithu a/neu ymarfer proffesiynol arbenigol yn y sector cyfieithu.
Dysgu ac Addysgu:
Defnyddir y dulliau dysgu ac addysgu canlynol:
Darlithoedd a Seminarau
Gweithdai Ymarferol
Tiwtorialau.
Defnyddir y gofodau neu’r cyd-destunau dysgu ac addysgu canlynol:
Ystafelloedd Dosbarth, Cyfleusterau Fideo Gynadledda, Lleoliadau Gwaith.
Dysgir ac addysgir drwy gyswllt uniongyrchol wythnosol ac mewn cyfnodau dysgu dwys.
Asesu:
Asesir drwy’r dulliau canlynol:
Traethodau, cyflwyniadau llafar, portffolio, adroddiadau achos, traethodau atblygol, ymarferion.
Ar gyfer 60 credyd olaf yr MA asesir drwy naill ai Draethawd Hir neu Bortffolio Proffesiynol neu Bortffolio Creadigol.
Information provided by Department of Welsh
-
B1 Sgiliau deallusol ym maes sylfeini damcaniaethol astudiaethau cyfieithu.
B2 Sgiliau deallusol wrth ystyried datblygiad astudiaethau cyfieithu fel disgyblaeth a’i pherthynas â disgyblaethau eraill.
B3 Sgiliau deallusol wrth ystyried a gwerthuso adnoddau ieithyddol ym maes cyfieithu a’r berthynas rhyngddynt.
B4 Sgiliau deallusol wrth werthuso technolegau iaith ym maes cyfieithu.
B5 Sgiliau deallusol wrth ystyried technegau cyfieithu a mynegiant ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
B6 Sgiliau deallusol wrth ystyried rôl y cyfieithydd ac ymarfer proffesiynol o fewn gweithdrefnau a chyfundrefnau ehangach yn y cyd-destun cyfoes Cymreig
B7 Sgiliau deallusol wrth ystyried meysydd arbenigol o fewn astudiaethau cyfieithu, gan gynnwys ymarfer proffesiynol arbenigol neu ymarfer creadigol.
Dysgu ac Addysgu:
Defnyddir y dulliau dysgu ac addysgu canlynol:
Darlithoedd a Seminarau
Gweithdai Ymarferol
Tiwtorialau
Defnyddir y gofodau neu’r cyd-destunau dysgu ac addysgu canlynol:
Ystafelloedd Dosbarth, Cyfleusterau Fideo Gynadledda, Lleoliadau Gwaith
Dysgir ac addysgir drwy gyswllt uniongyrchol wythnosol ac mewn cyfnodau dysgu dwys.
Asesu:
Traethodau, cyflwyniadau llafar, portffolio, adroddiadau achos, traethodau atblygol, ymarferion.
Ar gyfer 60 credyd olaf yr MA asesir drwy naill ai Draethawd Hir neu Bortffolio Proffesiynol neu Bortffolio Creadigol.
Sgiliau proffesiynol ymarferol
C1 Cyfieithu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg i safon proffesiynol
C2 Cyflwyno gwybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig ynglŷn ag ymarfer proffesiynol yn y sector cyfieithu yng Nghymru
C3 Gweithredu fel cyfieithydd o fewn gweithdrefnau neu bolisi ehangach mewn gweithle proffesiynol
Dysgu ac Addysgu:
Defnyddir y dulliau dysgu ac addysgu canlynol:
Darlithoedd a Seminarau
Gweithdai Ymarferol
Tiwtorialau
Defnyddir y gofodau neu’r cyd-destunau dysgu ac addysgu canlynol:
Ystafelloedd Dosbarth, Cyfleusterau Fideo Gynadledda, Lleoliadau Gwaith
Dysgir ac addysgir drwy gyswllt uniongyrchol wythnosol ac mewn cyfnodau dysgu dwys.
Asesu:
Traethodau, cyflwyniadau llafar, portffolio, adroddiadau achos, traethodau atblygol, ymarferion.
Ar gyfer 60 credyd olaf yr MA asesir drwy naill ai Draethawd Hir neu Bortffolio Proffesiynol neu Bortffolio Creadigol.
Information provided by Department of Welsh
-
D1 Gweithio yn annibynnol ac yn hunan-feirniadol.
D2 Gweithio mewn grŵp, cyfrannu at drafodaeth a sylwebu ar waith a chyfraniadau eraill.
D3 Ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth ar waith yn y cyd-destun academaidd ac yn y gweithle.
D4 Trefnu amser a chwblhau tasgau o fewn amserlen briodol.
D5 Cynnig ac ystyried atebion a datrys problemau.
D6 Defnyddio adnoddau technolegol sydd yn hwyluso gweithio mewn mwy nac un iaith
D7 Cyflwyno gwaith o safon uchel ar lafar ac yn ysgrifenedig
D8 Cymhwyso gwybodaeth theoretig i gyd-destun ymarfer.
Dysgu ac Addysgu:
Defnyddir y dulliau dysgu ac addysgu canlynol:
Darlithoedd a Seminarau
Gweithdai Ymarferol
Tiwtorialau
Defnyddir y gofodau neu’r cyd-destunau dysgu ac addysgu canlynol:
Ystafelloedd Dosbarth, Cyfleusterau Fideo Gynadledda, Lleoliadau Gwaith
Dysgir ac addysgir drwy gyswllt uniongyrchol wythnosol ac mewn cyfnodau dysgu dwys.
Asesu:
Traethodau, cyflwyniadau llafar, portffolio, adroddiadau achos, traethodau atblygol, ymarferion.
Ar gyfer 60 credyd olaf yr MA asesir drwy naill ai Draethawd Hir neu Bortffolio Proffesiynol neu Bortffolio Creadigol.
MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol [Q596]
Blwyddyn Academaidd: 2024/2025Cynllun - ar gael ers 2016/2017
Hyd (astudio Llawn Amser): 1 blwyddynDatblygu Sgiliau Cyfieithu
Cyfarpar Cyfieithu
Portffolio Cyfieithu 1 (Cyffredinol)
Cyfieithu ar Waith
Prosiect Estynedig