Cynlluniau Astudio
Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd
Information provided by Department of Welsh
-
Information provided by Department of Welsh
-
Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Information provided by Department of Welsh
-
Medi 2023
Information provided by Department of Welsh
-
-
Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill a’u llenyddiaethau ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl,dychymyg a mynegiant y Cymry a’r cenhedloedd eraill.
-
Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd, a’u galluogi i’w mynegi eu hunain ynddynt, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac yn gywir.
-
Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith.
-
Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.
-
Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, a, lle bo’n berthnasol, i feithrin eu doniau llenyddol.
-
Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.
-
Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.
-
Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.
-
Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg neu yn yr ieithoedd Celtaidd eraill a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r ieithoedd yn gyson ar wastad uchel.
-
Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.
Information provided by Department of Welsh
-
Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:
Information provided by Department of Welsh
-
-
A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi'r iaith Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd.
-
A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio'r eirfa dechnegol briodol.
-
A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd drwy'r oesoedd ac o'u prif gyfnodau hanesyddol.
-
A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd hen, diweddar a modern.
-
A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd ac o'r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy'r oesoedd.
-
A6. Gwybodaeth sut i drin gweithiau llenyddol yn feirniadol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny'n briodol.
-
A7. Adnabyddiaeth o wahanol ddulliau a genres llenyddol a'r teithi a'r nodweddion a berthyn iddynt.
-
A8. Ymwybyddiaeth o'r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth ac iaith, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd cysyniadau beirniadol.
-
A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg a Cheltaidd o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.
-
A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin cynnal a datblygu'r hunaniaeth genedlaethol Gymreig a Cheltaidd.
-
A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr ieithoedd ac o'r dulliau a ddefnyddir i'w hyrwyddo a'u hadfer.
-
A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â'r Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd a'u diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos canlyniadau dysgu a anelir atynt:
Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.
Dull asesu:
Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).
Information provided by Department of Welsh
-
-
B1. Sgilliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
-
B2. Medrau dadansoddi iaith a'r defnydd ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.
-
B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch testunau llenyddol ac i ymdrin â hwy yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
-
B4. Y gallu i ymateb yn briodol i'r defnydd o iaith ac o'r dychymyg mewn llenyddiaeth.
-
B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.
-
B6. Y gallu i adnabod confensiynau llenyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a'u swyddogaeth mewn perthynas â genres llenyddol arbennig.
-
B7. Llunio llyfryddiaeth a chyfeeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:
Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau dallen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.
Dull asesu:
Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs; (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).
Information provided by Department of Welsh
-
-
D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.
-
D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.
-
D4. Gallu i ymagweddu'n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.
-
D5. Gallu i weithio'n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i'w chloriannu'n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a'i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.
-
D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansaddol.
-
D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.
-
D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.
-
D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a'r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig;
-
D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.
-
D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i'w gyfieithu neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:
Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu'r modiwlau.
Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.
Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar. Y mae mesur gallu'r myfyrwyr i'w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl.
BA Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd [Q562]
Blwyddyn Academaidd: 2024/2025Cynllun Anrhydedd Sengl - ar gael ers 2005/2006
Hyd (astudio Llawn Amser): 3 blwyddynLlenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol
Ysgrifennu Cymraeg Graenus
Sgiliau Astudio Iaith a Llên
Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad
Cymru a'r Celtiaid
Introduction to the Literature of Gaelic Ireland
The Celts: A Contested Legacy
Llydaweg: Cyflwyniad
Modiwl Dramor Ffug