Cynlluniau Astudio
Daearyddiaeth / Hanes Cymru
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences
-
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences
- Datganiad Meincnodi Daearyddiaeth a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences
- Medi 2023
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences
- Mae Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn archwilio natur ac effaith prosesau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a ffisegol o'r raddfa fyd-eang i'r raddfa leol. Mae’r cynllun gradd Cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yn rhoi pwyslais ar agweddau ar Ddaearyddiaeth Ddynol, gan archwilio’r ffyrdd y mae unigolion, sefydliadau, llywodraethau a phrosesau strwythurol yn creu, siapio a chynrychioli lleoedd. Trwy eu dewis o fodiwlau, mae myfyrwyr yn gallu datblygu llwybrau sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar Ddaearyddiaeth Ddynol neu sy'n cyfuno elfennau o Ddaearyddiaeth Ddynol a Ffisegol. Mae strwythur y rhaglen Cydanrhydedd yn caniatáu i fyfyrwyr gyfuno diddordeb mewn Daearyddiaeth â diddordeb mewn ail bwnc. Nodau cynllun gradd Cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yw:
-
Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth
-
Darparu rhaglen gyflwyno strwythuredig sy'n drylwyr yn academaidd ac sy'n bodloni gofynion meincnodi'r presennol a'r dyfodol
-
Annog gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol dethol trwy fodiwlau dewisol Lefel 3 a arweinir gan ymchwil yn y meysydd hynny
-
Cynhyrchu graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol o fewn daearyddiaeth.
-
Datblygu pwerau meddwl beirniadol, dadansoddol a dadl resymegol
-
Datblygu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy gan gynnwys llythrennedd, llythrennedd cyfrifiadurol, graffeg, gosod problemau a datrys problemau ac ysgrifennu adroddiadau.
-
Annog astudio a meddwl annibynnol, meddyliau ymholgar, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o'r safon uchaf
-
Galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordeb mewn Daearyddiaeth gyda diddordeb mewn ail bwnc.
-
Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o Ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a’i hathroniaeth
-
Cynnig rhaglen strwythuredig sy’n academaidd drwyadl, ac sy’n bodloni’r gofynion meincnodi cyfredol a rhai’r dyfodol
-
Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol detholedig drwy fodiwlau dewisol yn Lefel 3, ym meysydd arbenigedd yr Adran
-
Meithrin graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol ym maes daearyddiaeth.
-
Datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol a dadansoddol, a dadlau’n rhesymegol yn Gymraeg a Saesneg
-
Datblygu medrau mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, sgiliau cyfrifiadurol, graffigedd, gosod a datrys problemau, ysgrifennu adroddiadau, sgiliau labordy a gwaith maes
-
Hybu astudio a meddwl annibynnol, meddyliau chwilfrydig, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o’r safon uchaf.
-
Galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordeb sylfaenol mewn Daearyddiaeth â diddordeb sylweddol mewn ail bwnc.
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences
- Ar ôl gorffen y cynllun gradd cydanrhydedd BA Daearyddiaeth bydd myfyrwyr:
-
yn gallu gwerthuso syniadau, cysyniadau a dulliau daearyddol yn feirniadol, yn Gymraeg a Saesneg, ar draws y pwnc yn ei gyfanrwydd, ac o fewn canghennau penodol o Ddaearyddiaeth
-
yn gallu cyflawni gwaith ymchwil annibynnol, gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau cartograffig, cyfrifiannol, llenyddol a thechnegol
-
wedi datblygu ystod o sgiliau daearyddol, a’r gallu i’w cymhwyso i amrywiaeth o faterion daearyddol
-
yn gallu gweld bod eu profiad dysgu wedi cael ei atgyfnerthu drwy fod yn gysylltiedig â gwaith ymchwil
-
yn gallu gwerthuso’u perfformiad eu hunain mewn ystod o gyd-destunau addysgol ac o dan wahanol ddulliau asesu
-
yn gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm, gydag ymwybyddiaeth gymdeithasol o’r cyfraniad y mae ysgolheictod ac ymchwil gymhwysol yn eu maes wedi ei wneud i reolaeth a pholisi amgylcheddol.
-
yn meddu ar y sgiliau a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd proffesiynol, neu gychwyn ar ymchwil ac astudiaethau uwchraddedig.
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences
-
-
A1 Disgrifio’r berthynas rhwng gweithgarwch dynol a’r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys effaith gweithgarwch dynol ar ffurf y dirwedd ac ansawdd yr amgylchedd.
-
A2 Disgrifio ac esbonio’r amrywiadau gofodol mewn ffenomenau dynol a chyfansoddiad amgylcheddau ffisegol y Ddaear ar wahanol raddfeydd gofodol ac amseryddol.
-
A3 Esbonio’r amryw ffyrdd y caiff llefydd, tirweddau ac amgylcheddau eu ffurfio a’u hail-greu’n barhaus drwy amrywiaeth o brosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol, mewn ystod o gyd-destunau, o’r lleol i’r byd-eang.
-
A4 Disgrifio’r prosesau ffisegol a chemegol sy’n gyfrifol am ffurfio amgylcheddau corfforol y Ddaear.
-
A5 Gweld y berthynas rhwng prosesau a ffurf yn y byd dynol a ffisegol.
-
A6 Gwerthuso’n feirniadol y cyfraniad y mae astudiaethau daearyddol yn ei wneud i’r pryderon sydd, ar sail gwybodaeth, am y Ddaear a’i phobl, yn nhermau academaidd, ymarferol a pholisi.
-
A7 Gwerthuso datblygiad Daearyddiaeth fel disgyblaeth arbennig, a thrafod y berthynas rhwng Daearyddiaeth a disgyblaethau eraill yn y gwyddorau ffisegol a naturiol, y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol.
-
A8 Cyfosod cyfraniadau Daearyddiaeth Dynol a Ffisegol i drafod materion rheoli amgylcheddol.
-
A9 Bod yn ymwybodol o ystod a natur y ffynonellau o ddata sydd ar gael i’r daearyddwr a defnyddio a gwerthuso’r ystod sylweddol o strategaethau arsylwi, cofnodi a dadansoddi a ddefnyddir mewn ymchwil maes daearyddol ac i ddadansoddi data.
-
A10 Disgrifio gwahanol ffyrdd o gynrychioli’r amgylchedd dynol a ffisegol – yn cynnwys testunau, mapiau, hafaliadau mathemategol, hafaliadau cemegol, delweddau gweledol, a modelau (yn cynnwys caledwedd, modelau rhifiadol a chysyniadol).
-
A11 Gwerthuso yn feirniadol yr ystod o ddulliau athronyddol a methodolegol a ddefnyddir gan ddaearyddwyr wrth ddadansoddi a dehongli amgylcheddau dynol a ffisegol y Ddaear.
-
A12 Dangos dealltwriaeth o’r ffordd y caiff ‘ffyrdd o weld’ sy’n benodol i ddaearyddiaeth eu cynhyrchu, eu damcaniaethu a’u dehongli, yn cynnwys cynrychioli llefydd drwy ddisgyrsiau academaidd, polisi a lleyg.
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences
-
-
B1 Haniaethu a chyfuno gwybodaeth
-
B2 Beirniadu a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol
-
B3 Dehongli data a thestunau yn feirniadol
-
B4 Gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau
-
B5 Asesu rhinweddau theorïau, esboniadau a pholisïau cyferbyniol
-
B6 Datblygu dadl resymegol
-
B7 Dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau
-
B8 Ysgrifennu mewn arddull academaidd briodol wrth ysgrifennu am, adolygu a thrafod themâu daearyddol.
-
B9 Cyfosod testunau academaidd yn briodol ac yn feirniadol, a dyfynnu a chyfeirnodi ffynonellau yn y dull cywir
-
B10 Cymryd cyfrifoldeb am eu dysg eu hunain gan adolygu a myfyrio ar y dysg hwnnw
-
C1 Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol, gan gynnwys cynhyrchu adroddiad terfynol.
-
C2 Cyflawni gwaith maes effeithiol (gan roi sylw priodol i ddiogelwch ac asesu risg).
-
C3 Cyflwyno data daearyddol yn effeithiol drwy ddefnyddio cyfryngau priodol gan gynnwys mapiau, diagramau, ystadegau, modelau a rhyddiaith academaidd.
-
C4 Defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu, dadansoddi a chyfuno gwybodaeth o’r byd dynol a/neu’r byd ffisegol, gan gynnwys samplu maes, arolygon gyda holiaduron, cyfweliadau a thechnegau meintiol.
-
C5 Cyfuno a dadansoddi gwahanol fathau o dystiolaeth ddaearyddol.
-
C6 Dyfeisio a defnyddio amrywiaeth o ddulliau technegol a dulliau yn y labordy i gasglu a dadansoddi data amgylcheddol.
-
C7 Dadansoddi goblygiadau daearyddol digwyddiadau cyfoes, penderfyniadau polisi, a phrosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.
-
C8 Cwestiynu a dehongli’r broses o gynhyrchu a chyflwyno dogfennau polisi, cyfryngau print a darlledu, deunydd tirwedd a thestunol.
-
C9 Gweld y materion moesol a moesegol sydd ynghlwm wrth drafodaethau ac ymholiadau daearegol.
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences
- Ar ôl cwblhau’r rhaglen bydd y myfyriwr yn gallu cymryd cyfrifoldeb amdanynt eu hunain a’u gwaith. Bydd y myfyriwr yn medru dangos gallu yn y sgiliau allweddol canlynol sy’n drosglwyddadwy i gyd-destun y tu allan i academia: D1 Gweithio’n annibynnol D2 Gweithio fel rhan o dîm D3 Parchu safbwyntiau, credoau, barn a gwerthoedd eraill D4 Gwrando ar siaradwyr eraill, a thrafod â hwy D5 Cyfathrebu’n effeithiol ar lafar mewn ystod o sefyllfaoedd, yn cynnwys trafodaethau a dadleuon grŵp a chyflwyniadau ffurfiol. D6 Cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig mewn amrywiaeth o ffyrdd. D7 Defnyddio technolegau gwybodaeth i brosesu, cadw, a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys taenlenni, cronfeydd data, prosesu geiriau, e-bost a’r we fyd-eang. D8 Darganfod a chael gafael ar wybodaeth, a’i threfnu a’i thrin o ffynonellau traddodiadol ac electronig, gan gynnwys llyfrgelloedd, adnoddau cyfrifiadurol ar-lein a’r we fyd-eang. D9 Rheoli amser a rheoli trefniadau eu gwaith eu hun. D10 Ymchwilio i faterion a datrys problemau D11 Addasu i newid D12 Gallu darllen, deall a dehongli ystod eang o ddeunydd ysgrifenedig. D13 Sgiliau arsylwi. D14 Coladu, prosesu, dehongli a chyflwyno data rhifiadol. D15 Nodi llwybrau gyrfa priodol a datblygu’r gallu i gystadlu’n effeithiol am gyfleoedd i gael swyddi. Dysgu: Nod y rhaglen yw hyrwyddo, datblygu a meithrin ymwybyddiaeth a medrau myfyrwyr yn y sgiliau trosglwyddadwy allweddol hyn – sgiliau y bydd myfyrwyr eisoes yn eu medru i raddau mwy neu lai. Mae rhai o’r sgiliau hyn yn rhan annatod o weithgareddau dysgu ar draws y rhaglen (D1, D4, a D7-D12). Datblygir eraill drwy fodiwlau a gweithgareddau dysgu penodol, gan gynnwys gwaith maes (D2, D10 a D13), dosbarthiadau ac ymarferion ymarferol/ labordy (D14), cyflwyniadau llafar (D5). Asesu: Mae asesu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â nifer o’r canlyniadau uchod (D6-D10 a D12) yn ganolog i’r meini prawf a ddefnyddir i werthuso ystod o ffurfiau asesu a ddefnyddir yn nhair lefel y cynllun gradd. Mae’r rhain yn cynnwys traethodau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, prosiectau gwaith maes, traethodau prosiect, prosiect ymchwil annibynnol a thraethodau a welir ymlaen llaw, nas gwelir ymlaen llaw a thraethodau arholiadau amser rhydd. Ar ben hynny, asesir nifer o’r sgiliau uchod yn benodol ar wahanol bwyntiau yn ystod y rhaglen trwy ystod o ddulliau, gan gynnwys y Prosiect Ymchwil annibynnol (D1), adroddiadau ar y prosiect gwaith maes grŵp (D2), cyflwyniad llafar ar y prosiect gwaith maes (D5), ymarferion gwaith maes (D13), ac ymarferion ymarferol (D14).
BA Daearyddiaeth / Hanes Cymru [LVT1]
Blwyddyn Academaidd: 2024/2025Cynllun Anrhydedd Cyfun - ar gael ers 1999/2000
Hyd (astudio Llawn Amser): 3 blwyddynBlwyddyn Ddiwethaf: 2021/2022
Cyflwyno Hanes
Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1200-1800
Medieval and Early Modern Britain and Europe, 1000-1800
The Modern World, 1789 to the present
Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a'u Haneswyr
Ewrop a'r Byd, 1000-2000
Cymdeithas, Pobl a Gwleidyddiaeth: Cymru, 1800-1999
'Hands on' History: Sources and their Historians
Europe and the World, 1000-2000
People, Power and Identity: Wales 1200-1999
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes
Llunio Hanes
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250
Interdisciplinary and decolonial history
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations.
Rhyfel Cartref America
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008
The Tudors: A European Dynasty?
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze
Media and Society in Twentieth Century Britain
African-American History, 1808 to the Present
Science, Religion and Magic
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300
Germany since 1945
The Atlantic World, 1492-1825
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present)
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc
Rhyfel Cartref America
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008
The Tudors: A European Dynasty?
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze
Media and Society in Twentieth Century Britain
Science, Religion and Magic
African-American History, 1808 to the Present
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300
Germany since 1945
The Atlantic World, 1492-1825
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present)
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850