Bwletin Wythnosol
Mae'r Bwletin Wythnosol yn cael ei anfon ar e-bost at staff a myfyrwyr bob dydd Iau. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ac yn cynnwys manylion am gyhoeddiadau pwysig, newyddion a digwyddiadau.
Cwestiynau Cyffredin
I bwy y mae’r Bwletin Wythnosol, ac a gaf i gyflwyno cynnwys ar ei gyfer?
Newyddlen i staff a myfyrwyr yw’r Bwletin Wythnosol a dim ond newyddion, digwyddiadau a chyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth y mae’n eu cynnwys.
Gall unrhyw aelod o staff neu fyfyriwr awgrymu eitem ar gyfer y Bwletin trwy e-bostio cyfathrebu@aber.ac.uk Byddwn yn ystyried cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau allanol, ymdrechion codi arian, neu unrhyw beth nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â'r Brifysgol, ond gwneir hynny fesul achos.
Rhaid i’r hyn a gyflwynir fod yn berthnasol i gynulleidfa eang, boed yn staff a/neu'n fyfyrwyr. Ystyriwch ddefnyddio newyddlenni adrannol neu restrau postio ar gyfer digwyddiadau llai neu ddigwyddiadau sydd â chynulleidfa benodol.
Sut gallaf fi gyflwyno eitem?
Os oes gennych newyddion y mae angen i'r holl staff a/neu'r myfyrwyr ei wybod, e-bostiwch cyfathrebu@aber.ac.uk erbyn 17:00 ar y dydd Llun yn yr wythnos yr hoffech weld ei gyhoeddi. Os bydd yn cyrraedd ar ôl hynny, mae’n bosibl na fydd yn cael ei gynnwys yr wythnos honno.
Dylai eich eitemau fod yn fyrrach na 100 gair a dylent gynnwys manylion cyswllt neu ddolen i fwy o wybodaeth os oes angen. Ceisiwch osgoi jargon neu acronymau ac anfonwch unrhyw ddelweddau perthnasol os oes gennych chi rai. Mae’n bosibl y bydd pob eitem yn cael ei olygu i sicrhau ei fod yn gryno ac yn cyd-fynd ag arddull y bwletin.
Yn aml bydd nifer fawr o eitemau’n cael eu cyflwyno, a bydd y penderfyniadau golygyddol ynghylch yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn seiliedig ar nifer yr eitemau sydd gennym yr wythnos honno, a’r blaenoriaethau o ran eitemau allweddol eraill.
Beth yw eich awgrymiadau o ran cyflwyno eitem?
- Cadwch at lai na 100 gair a rhowch deitl byr iddo.
- Ceisiwch osgoi acronymau neu jargon.
- Mae gennym ddwy fersiwn ar wahân i staff a myfyrwyr – cofiwch nodi os hoffech i'ch cynnwys ymddangos mewn un o’r fersiynau hyn yn unig.
- Dylech gynnwys teitlau swyddi aelodau o staff lle bo hynny'n bosibl ac yn berthnasol.
- Cadwch benawdau'r eitemau yn fyr.
- Rhowch ddolen i gynnwys ar-lein os oes angen.
- Mae angen i ddelweddau fod o ansawdd uchel a rhaid ichi fod â’r hawl i'w defnyddio. Cofiwch gydnabod ffynhonnell delweddau os oes angen.
- Cofiwch gynnwys gwybodaeth allweddol megis dyddiadau, terfynau amser a manylion cyswllt.
- Gallwn gynnwys fideos, dolenni i PDFs neu ddogfennau (ond nid atodiadau) a delweddau.
- Bydd popeth a gyflwynir yn cael ei ystyried; ni fyddwn yn cysylltu oni bai bod gennym ymholiadau am eich eitem.
Beth yw'r terfyn geiriau ar gyfer eitemau?
Gall pob eitem gael ei olygu. Ni ddylent fod yn hwy na 100 gair. Os yw nifer y geiriau yn fwy na hyn, dylech gynnwys dolen i'r dudalen berthnasol ar y we.
Trwy rannu erthyglau byrrach a chanddynt nifer tebyg o eiriau a theitlau byrion, gall darllenwyr ddod o hyd i'r cynnwys sydd o ddiddordeb iddynt hwy yn rhwydd.
Sut gallaf gyflwyno delweddau?
Dylai delweddau fod yn drawiadol ac yn berthnasol i'r eitem a gyflwynwyd. Dylai cyfranwyr sicrhau bod ganddynt ganiatâd i ddefnyddio delwedd a dylent gydnabod ffynhonnell y ddelwedd. Yn ddelfrydol, dylai delweddau fod ar fformat ‘tirlun’ (llorweddol) - bydd hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol y cânt eu defnyddio. Ni fydd delweddau o ansawdd gwael na delweddau aneglur yn cael eu cynnwys.
Mae’n bosibl na fydd modd newid maint lluniau o grwpiau mawr o bobl neu logos a chynnal eu hansawdd ar yr un pryd, felly dylid yn hytrach eu hychwanegu at dudalennau gwe. Ni ddefnyddir yr un ddelwedd neu logo fwy nag unwaith mewn unrhyw fwletin.
At ddibenion hygyrchedd, ni ddylai unrhyw eitemau graffeg gynnwys llawer iawn o destun.
Ailadrodd eitemau
Gallwn warantu y bydd eitem newyddion neu ddigwyddiad yn cael ei rannu mewn dau Fwletin Wythnosol, ond dim mwy na hynny. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i rannu eu heitemau. Os byddwch yn cyflwyno'r un eitem ar gyfer trydydd Bwletin Wythnosol, byddwn yn ystyried fesul achos a ddylid ei gynnwys ai peidio. Rhowch wybod i ni os ydych chi eisiau i'ch eitem ymddangos mewn un Bwletin yn unig.
Beth os oes angen i mi newid neu dynnu fy eitem yn ôl?
E-bostiwch cyfathrebu@aber.ac.uk cyn gynted â phosibl gyda'ch cais.
A yw fy nata yn cael ei ddiogelu?
Bydd y Bwletin yn cael ei greu a'i anfon gan ddefnyddio Microsoft Dynamics 365.
Mae Dynamics 365 yn rhoi gwybodaeth am sut mae'r Bwletin yn cael ei ddefnyddio, megis faint o bobl sy'n ei agor, a pha eitemau sydd o'r diddordeb mwyaf. Bydd y tîm Cyfathrebu yn defnyddio ffurf gyfun o'r data hyn i helpu i sicrhau bod cynnwys y Bwletin mor berthnasol â phosibl.
Ni fydd gweithgarwch defnyddwyr unigol yn cael ei fonitro, ac ni fydd unrhyw ddata personol yn cael eu rhannu ag unrhyw dimau eraill yn y Brifysgol, na chydag eraill. Mae'r data'n cael eu cadw yn y Deyrnas Unedig ac ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau nac i gymryd camau mewn perthynas â chi'n bersonol.
Sut gallaf fi roi adborth?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Bwletin, cysylltwch â cyfathrebu@aber.ac.uk.
Os oes gennych adborth technegol ar y Bwletin Wythnosol, e-bostiwch gg@aber.ac.uk.