The Conversation

 

Ydych chi'n academydd, yn ymchwilydd neu’n ymgeisydd PhD a hoffai adeiladu proffil yn y cyfryngau a rhannu eich ymchwil â chynulleidfa fyd-eang trwy ysgrifennu ar gyfer The Conversation?

 

Hyfforddiant byw ar-lein

Mae’r Tîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn trefnu cyflwyniadau ar-lein achlysurol ar gyfer The Conversation. Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr PhD Prifysgol Aberystwyth. 

Yn ystod y sesiwn, bydd un o olygyddion The Conversation yn trafod pam y dylech gyfleu eich ymchwil i'r cyhoedd ac yn egluro proses olygyddol unigryw a chydweithredol The Conversation. Byddant hefyd yn edrych ar arddull a strwythur, gwahanol ddulliau a mathau o erthyglau, ynghyd â sut i gyflwyno.

Cofrestrwch isod i gadw eich lle:

Un-i-un

Mae gennym ni nifer fach o leoedd ar gael i academyddion neu ymchwilwyr PA a fyddai'n hoffi cael cyfle i siarad ag un o olygyddion The Conversation ar sail un i un dros Zoom.   

Efallai bod gennych chi syniad eisoes am erthygl ac yr hoffech ei drafod ymhellach cyn llunio eich cynnig?   Dyma gyfle i ddysgu sut i ystyried eich arbenigedd o ran posibiliadau newyddion, sut i chwilio am syniadau bachog a thueddiadau yn y newyddion, sut i gynnig stori raenus i olygyddion adran, a chynghorion eraill.  

I holi am argaeledd un i un, e-bostiwch Alice Earp.

Cyrsiau hyfforddi fideo ar-lein

Mae pedwar cwrs hyfforddi byr ar-lein ar gael i ymchwilwyr, academyddion ac ymgeiswyr PhD gael mynediad iddynt pan fo’n gyfleus.

Nod y cyrsiau yw helpu academyddion i ddeall sut mae The Conversation yn gweithio, y cymorth golygyddol a ddarperir, ac i ddatblygu'r sgiliau i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd anacademaidd. 

Mae'r cyrsiau'n cael eu mapio i fframwaith datblygu ymchwilwyr Vitae ac felly gallant gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol.