Esther Prytherch
Swyddog Cyfathrebu Ymchwil
Manylion Cyswllt
- Ebost: ejp14@aber.ac.uk
- Swyddfa: 12 Parc Gwyddoniaeth
- Ffôn: +44 (0) 1970 622197
Proffil
Ymunodd Esther â'r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi (YBA) yn 2019 fel Swyddog Cyfathrebu Ymchwil rhan-amser. Cyn hynny, bu'n Bennaeth Adran Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus y Brifysgol (2016–2019). Mae ganddi brofiad eang hefyd ym maes newyddiaduraeth a chynhyrchu rhaglenni dogfen a rhaglenni newyddion ar gyfer BBC Cymru a darlledwyr eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dechreuodd Esther ar ei gyrfa ym maes newyddiaduraeth, gan hyfforddi ar bapur newyddion lleol y Cambrian News (1983–1985) cyn symud i weithio i'r BBC. Wedi cyfnod yng Nghanolfan Ddarlledu'r BBC yn Llundain, bu'n gweithio am dros ugain mlynedd mewn ystod eang o swyddi yn Adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, yn cynnwys fel gohebydd, cynhyrchydd rhaglenni newyddion teledu a radio, cydlynydd etholiadau, cyflwynydd a chynhyrchydd gwefannau. Yn ei swydd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu Esther yn gweithio fel Darlithydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu lle bu'n cydlynu gradd Meistr mewn Cynhyrchu Radio yn ogystal ag yn dysgu modiwlau israddedig. Rhwng 2016 a 2019, hi oedd Pennaeth Cyfathrebu'r Brifysgol yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfathrebu'r sefydliad yn fewnol ac allanol. Mae Esther hefyd wedi gweithio'n llaw-rydd fel Ymgynghorydd Cyfathrebu a Chynhyrchydd Cyfryngau, wedi sefydlu a rhedeg busnes ei hun, ac mae ganddi radd BSc Econ (Anrh) yn Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd.
Cyfrifoldebau
Ymhlith prif gyfrifoldebau Esther y mae cefnogi amcanion strategol YBA, a'r Brifysgol yn ehangach, drwy weithgareddau cyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys datblygu cynlluniau cyfathrebu ar gyfer prosiectau penodol, llunio deunydd hyrwyddo a datganiadau am effaith ymchwil y Brifysgol, a chydweithio gyda’r Adran Cyfathebu a Materion Cyhoeddus i godi proffil ymchwil y tu fewn a’r tu hwnt i’r sefydliad. Mae Esther hefyd yn cefnogi gwaith y Ganolfan Ddeialog, sy'n meithrin cysylltiadau a chydweithrediadau rhwng ymchwilwyr y Brifysgol a chymunedau allanol er mwyn helpu i sichrau bod eu hymchwil yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas.
Mae Esther yn gweithio'n rhan-amser o ddydd Llun tan ddydd Mercher. Os oes angen ateb arnoch y tu hwnt i'r dyddiau hyn, a fyddech cystal ag e-bostio eu chydweithwyr ar rbicomms@aber.ac.uk.