Yr astudiaeth gyntaf ar ddatganoli darlledu yn y DU yn cael sêl bendith

Yr Athro Jamie Medhurst, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Yr Athro Jamie Medhurst, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

28 Ebrill 2025

Mae’r astudiaeth pedair gwlad gyntaf o bolisi darlledu yn y DU ddatganoledig ar fin cychwyn ar ôl dyfarnu grant ymchwil sylweddol i arbenigwr o Gymru.

Bydd yr Athro Jamie Medhurst o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain yr astudiaeth ynghyd â’r Dr Phil Ramsey o Brifysgol Ulster, Dr Inge Sorensen o Brifysgol Glasgow, a’r Dr Tom Chivers o Goldsmiths, Prifysgol Llundain.

Y llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am nifer o feysydd polisi, megis iechyd ac addysg.

Fodd bynnag, mae'r pwerau deddfwriaethol a gweinidogol ar gyfer darlledu yn parhau yn San Steffan; ac yn cael eu rheoli gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ledled y DU. 

Ceir pwysau cynyddol gan bleidiau gwleidyddol yn y gwledydd datganoledig i ddatganoli pwerau darlledu, yn fwyaf diweddar ym maniffestos Plaid Cymru a Phlaid Genedlaethol yr Alban ar gyfer Etholiad Cenedlaethol 2024. 

Mae'r Athro Jamie Medhurst o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi derbyn Grant Chwilfrydedd o £79,600 oddi wrth Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i gynnal yr ymchwil.

Meddai'r Athro Medhurst:

"Mae’r DU fel gwladwriaeth unedol, sy'n cynnwys pedair cenedl yn gysyniad sy’n dod o dan bwysau cynyddol, ac mae'r cwestiwn o sut mae darlledu'n ymateb i'r dadleuon hyn ac yn eu siapio nhw yn bwnc sy’n dod yn fwy amlwg ar y gorwelion gwleidyddol, academaidd a pholisi.

"Bydd y prosiect dwy flynedd hwn yn darparu fforwm unigryw a newydd i drafod, cyfnewid gwybodaeth a chydweithio ar bolisi darlledu heddiw ac yn y dyfodol yn y DU wrth iddi esblygu, gan ganolbwyntio ar ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon."

Dywedodd Dr Patrick Finney, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Bydd yr ymchwil hon yn gwneud cyfraniad pwysig ac amserol drwy helpu i lywio trafodaethau a phenderfyniadau yn y dyfodol; gan fod o fudd i lunwyr polisi, ymchwilwyr, rhanddeiliaid ac i ddealltwriaeth ehangach y cyhoedd ar adeg dyngedfennol yn nyfodol gwasanaeth darlledu cyhoeddus y DU." 

Bydd y tîm ymchwil yn cynnal gweithdy ym mhob un o'r gwledydd, gan ddod ag academyddion, llunwyr polisi, gwleidyddion a darlledwyr ynghyd i ystyried sut y gallai darlledu weithredu yn y Deyrnas Unedig sydd â mwy o ddatganoli.

Yn dilyn pob gweithdy, bydd papur briffio yn cael ei baratoi, gan dynnu ynghyd y prif faterion a drafodwyd, ynghyd ag argymhellion polisi. 

Ym mis Ebrill 2027, cynhelir cynhadledd ledled y DU, lle bydd adroddiad terfynol y prosiect yn cael ei gyhoeddi.  Bydd yr adroddiad yn ystyried canfyddiadau'r prosiect a bydd yn darparu sylfaen gref o dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau a llunio polisïau wrth symud ymlaen.