Atriwm newydd yr Hen Goleg yn datblygu

Aelodau o staff Andrew Scott Cyf, Prif Gontractwr Prosiect yr Hen Goleg, a’r is-gontractwr M&C Civils, yn nodi cwblhau slab concrit llawr gwaelod yr atriwm – Ebrill 2025.

Aelodau o staff Andrew Scott Cyf, Prif Gontractwr Prosiect yr Hen Goleg, a’r is-gontractwr M&C Civils, yn nodi cwblhau slab concrit llawr gwaelod yr atriwm – Ebrill 2025.

23 Ebrill 2025

Mae gwaith ar atriwm newydd yr Hen Goleg a fydd yn arwain at ystafell ddigwyddiadau newydd ddramatig 200 sedd a fydd yn cynnig golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion wedi cyrraedd carreg filltir allweddol.

Bydd yr atriwm newydd, a fydd yn ymestyn dros saith llawr, yn hwyluso mynediad hawdd ar bob lefel i’r Hen Goleg, sy’n adeilad rhestredig gradd 1, am y tro cyntaf ers ei adeiladu dros 160 mlynedd yn ôl.

Ychydig cyn y Pasg bu prif gontractiwr prosiect yr Hen Goleg, Andrew Scott Cyf, yn goruchwylio’r gwaith o osod y llawr concrit wedi’i atgyfnerthu â dur sy’n dod â’r gwaith ar yr atriwm i lefel y ddaear.

Wedi’i leoli ar safle hen adeilad ystadau’r Brifysgol, roedd y gwaith yn cynnwys cloddio i lawr ac adeiladu cragen goncrit wedi’i hatgyfnerthu i greu lle ar gyfer ceginau newydd.

Nawr bod y gwaith wedi cyrraedd lefel y ddaear, disgwylir i'r gwaith o adeiladu siafftiau lifft newydd a mynediad i'r pum llawr uwchlaw symud ymlaen yn gyflym dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Pan fydd hynny wedi'i gwblhau, disgwylir i strwythur dur newydd fod yn ei le erbyn diwedd yr haf a fydd yn cynnal ac yn darparu'r llwyfan ar gyfer yr ystafell ddigwyddiadau newydd wydr 200 sedd.

Dywedodd Shaun Davies, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg gyda Andrew Scott:

“Mae cyrraedd lefel y llawr gwaelod yr atriwm newydd yn garreg filltir bwysig i’r prosiect hwn. Mae adeiladu adeilad saith llawr newydd sbon mewn lle mor gyfyng yn heriol ac rydym yn ddiolchgar i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y rhan hon o’r dref am eu dealltwriaeth wrth i offer a deunyddiau ddod i’r safle. Wrth i’r adeilad dyfu o’r ddaear, edrychwn ymlaen at wireddu’r weledigaeth ar gyfer yr ystafell ddigwyddiadau newydd syfrdanol uwchben y filas Sioraidd.”

Dywedodd Jim O’Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg gyda Phrifysgol Aberystwyth:

“Mae prosiect yr Hen Goleg yn hynod uchelgeisiol a bydd yn trawsnewid yr adeilad rhestredig gradd 1 hanesyddol hwn yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys i Aberystwyth a Chymru.”

“Bydd yr atriwm newydd yn rhoi gwir ymdeimlad o gyrraedd i ymwelwyr, gan ddarparu mynediad hawdd i bob lefel o’r Hen Goleg mewn ffordd na fu erioed yn bosibl o’r blaen. Daw hefyd â’r pedwar adeilad hanesyddol ar y safle, yr Hen Goleg ei hun, y ddwy fila Sioraidd a’r Cambria at ei gilydd am y tro cyntaf. Mae hyn yn adlais o’r ffordd y bu i’r pensaer C J Ferguson uno adeiladau De a Gogledd Seddon am y tro cyntaf gydag adeiladu’r bloc gwyddoniaeth newydd yn y 1890au.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r cynnydd a wnaed gan brif gontractwyr y prosiect, Andrew Scott Ltd, wrth iddynt weithio mewn safle cyfyng ei fynediad a’i faint.”

Gan gynnig dehongliad cyfoes o dreftadaeth bensaernïol yr Hen Goleg, bydd yr atriwm yn darparu mynedfa gyhoeddus newydd o Stryd y Brenin i gyd-fynd â’r brif fynedfa newydd o’r promenâd drwy’r filas Sioraidd.

Wedi'i osod yn ôl o'r ffordd, mae wedi'i ddylunio i gadw’r olygfa'r Hen Goleg o gyfeiriad Heol y Wig.

Er mwyn parchu treftadaeth bensaernïol yr Hen Goleg, bydd yr atriwm yn cael ei wisgo â thywodfaen i adlewyrchu'r newidiadau helaeth a wnaed i'r adeilad yn ystod y 19eg ganrif gan y penseiri JP Seddon a C J Ferguson.

Cefnogir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol ac unigolion.