eDNA yn datgelu gwybodaeth newydd am fywyd morol prin ar ynysoedd poblogedig mwyaf anghysbell y byd

Mae Albatros Tristan yn rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol. Llun gan James Glass, Adran Pysgodfeydd Tristan de Cunha.

Mae Albatros Tristan yn rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol. Llun gan James Glass, Adran Pysgodfeydd Tristan de Cunha.

17 Ebrill 2025

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi cynnal yr asesiad DNA amgylcheddol (eDNA) cyntaf erioed o fertebratau morol yn Tristan da Cunha, grŵp o ynysoedd folcanig yn Ne Cefnfor yr Iwerydd.

Trwy gydweddu olion bach iawn o eDNA o’r dŵr â chronfa ddata fyd-eang o rywogaethau morol, maen nhw wedi llwyddo i ddatgelu rhywogaethau prin a bregus – megispysgodyn haul y cefnfor, Mola mola - gan ddarparu tystiolaeth bwysig i gefnogi ymdrechion cadwraeth yn yr ynysoedd.

Mae'r dechneg hefyd wedi helpu i adnabod rhywogaethau pysgod eraill yn fwy cywir na'r dulliau arolygu traddodiadol a ddefnyddir o amgylch Tristan de Cunha, ynysoedd poblogedig mwyaf anghysbell y byd ac un o diriogaethau tramor y Deyrnas Gyfunol.

Mae lleoliad anghysbell Tristan da Cunha, dros 2,000 km o’r tir cyfandirol agosaf, yn golygu y gall asesiad rheolaidd o’i fywyd morol fod yn heriol.

Dywedodd Dr Niall McKeown o Brifysgol Aberystwyth, goruchwyliwr arweiniol y prosiect: “Mae DNA amgylcheddol – lle mae DNA yn cael ei ollwng gan organebau i’r amgylchedd o’u cwmpas – yn cynnig arf samplu grymus a all helpu i ddatrys yr heriau logistaidd sy’n gysylltiedig â dulliau arolygu traddodiadol a chefnogi asesiadau cynaliadwy, hirdymor.”
Roedd y prosiect yn ymdrech ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth ac Adran Pysgodfeydd Tristan da Cunha, ynghyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Queen’s, Belffast a Phrifysgol KwaZulu-Natal.

Dywedodd Megan Elsmore, myfyrwraig doethuriaeth yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth a arweiniodd y gwaith ymchwil ac a dreuliodd ran o’i phlentyndod yn Tristan da Cunha:

“Mae pryder cynyddol am effeithiau newid hinsawdd a gweithgareddau dynol ar fywyd morol ar draws y byd, gyda bioamrywiaeth ynysoedd cefnforol anghysbell fel Tristan da Cunha mewn perygl arbennig. Yn aml, gall dulliau traddodiadol o fonitro ac asesu – fel sgwba-blymio neu ollwng camera i ddŵr dwfn – fod yn gostus ac yn llafurus o ran amser. Mae eDNA yn cynnig ateb mwy diogel, haws a fforddiadwy i’r angen i fonitro bioamrywiaeth yr ynysoedd ar adeg pan fo cyfraddau difodiant byd-eang yn frawychus o uchel.”

“Roedd Adran Pysgodfeydd Tristan da Cunha yn allweddol wrth greu’r prosiect yma, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol wrth gynorthwyo ymchwilwyr yn y gwaith o gasglu samplau dŵr môr. Ein gobaith yw y bydd ein hymchwil yn helpu i gryfhau ymdrechion trawsnewid o amgylch yr ynysoedd hyn, sy’n darparu cynefin hanfodol ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau o bwysigrwydd masnachol ac ecolegol.”

Dywedodd James Glass, cyfarwyddwr Adran Pysgodfeydd Tristan Da Cunha, a goruchwyliwr y prosiect: “Mae pwysigrwydd deall bioamrywiaeth unigryw Tristan, a sut y gallai technegau eDNA wella’r ddealltwriaeth hon yn hanfodol, nid yn unig oherwydd y fioamrywiaeth anhygoel y mae Tristan yn ei chadw a’i hamddiffyn, ond oherwydd ein bod ar y rheng flaen o ran effeithiau newid hinsawdd”.

Cyhoeddwyd canfyddiadau’r astudiaeth mewn papur academaidd yn Environmental DNA, cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid: https://doi.org/10.1002/edn3.70081.