Rhwydwaith ymchwil newydd yn anelu at leihau ôl troed carbon ffermio llaeth

Gwartheg godro ar fferm ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn Nhrawsgoed.

Gwartheg godro ar fferm ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn Nhrawsgoed.

04 Ebrill 2025

Mae strategaethau arloesol i leihau lefelau uchel o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol yn y diwydiant llaeth yn cael eu treialu mewn prosiect ymchwil newydd.

Bydd y prosiect arloesol yn profi ac yn asesu effeithiolrwydd ystod o atebion sy’n seiliedig ar wyddoniaeth gyda'r nod o wneud ffermio llaeth yn fwy cynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Mae rhwydwaith o 56 o ffermydd llaeth yn cael ei sefydlu ar draws pedwar rhanbarth llaeth mawr yn y DU, gan gynnwys Gorllewin Cymru a De/De Orllewin Lloegr; Gogledd Iwerddon; Cumbria a De Orllewin yr Alban, a Gogledd Orllewin Lloegr.

Bydd y rhwydwaith yn darparu cyfres o ganolfannau arddangos lle gall ffermwyr, diwydiant, gwyddonwyr a llunwyr polisi gydweithio i roi’r mesurau newydd ar waith a gwerthuso’u heffaith.

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith deg  sefydliad ymchwil blaenllaw sy’n cyfrannu at brosiect Rhwydwaith Carbon Llaeth y DU, sy’n cael ei arwain gan Athrofa Bwyd-Amaeth a Biowyddorau yr AFBI.

Bydd y prosiect yn datblygu pecyn cymorth o fesurau ymarferol y gall ffermwyr llaeth ddewis eu mabwysiadu mewn ymgais i leihau ôl troed carbon eu buches.

Gallai’r opsiynau gynnwys:

  • gwella ansawdd porthiant trwy wyddoniaeth a ddatblygwyd gan raglenni bridio planhigion yn Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth
  • dilyn yr ymchwil diweddaraf ar arfer gorau ar gyfer gwneud silwair
  • lleihau cynnwys protein porthiant gwartheg godro i wella effeithlonrwydd defnyddio nitrogen.

Dywedodd yr Athro Jon Moorby, Cadeirydd Gwyddor Da Byw ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae gwartheg godro yn cyfrannu’n sylweddol at economi wledig Cymru ac yn cynhyrchu bwyd o safon uchel i bobl o laswellt a phorthiant arall.  Fodd bynnag, mae gwartheg, fel anifeiliaid cnoi cil eraill, yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr megis methan yn sgil-gynnyrch o droi glaswellt yn llaeth. 

“Mae llawer o ffermwyr llaeth eisoes yn cymryd camau i helpu i leihau cynhyrchiant nwyon tŷ gwydr gan eu gwartheg a nod y prosiect hwn yw dangos ymhellach yr hyn y gellir ei gyflawni ar draws pob math o ffermydd llaeth i helpu i wella eu cynaliadwyedd. Mae hon yn fenter ar y cyd ac rydyn ni am weithio’n agos gyda ffermwyr yn ogystal â’r diwydiant ehangach a llunwyr polisi.”

Dywedodd yr Athro Steven Morrison, Pennaeth Systemau Da Byw Cynaliadwy AFBI: “Ein nod gyda’r prosiect yma yw esgor ar newid ystyrlon yn y sector llaeth trwy gymhwyso ymchwil yn uniongyrchol i amodau ffermio’r byd go iawn a mesur yr effaith.

“Trwy weithio’n agos gyda ffermwyr a defnyddio technegau mesur a modelu uwch, ein nod yw mesur ac adrodd am ostyngiadau sylweddol yn yr allyriadau carbon o ffermio llaeth yn y DU. Yn ystod ffurfio’r prosiect, bu’r diddordeb ar draws y sector amaethyddol yn aruthrol, gyda dros 50 o sefydliadau’n cynnig cymorth ac yn dangos parodrwydd i gymryd rhan yn y prosiect unwaith roedd wedi’i gomisiynu.”

Ariennir Prosiect Rhwydwaith Carbon Llaeth y DG gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DG. Dan arweiniad AFBI, mae’r consortiwm o sefydliadau ar draws y DG hefyd yn cynnwys y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth; AgriSearch; Canolfan Agritech y DG; ADAS; Prifysgol Aberystwyth; Prifysgol y Frenhines Belfast; Prifysgol Harper Adams; Prifysgol Reading; Prifysgol Newcastle a Choleg Gwledig yr Alban.