Prifysgol Aberystwyth yn lansio cyrsiau ar-lein newydd

Yr Athro Anwen Jones

Yr Athro Anwen Jones

04 Ebrill 2025

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio cyrsiau ar-lein newydd mewn Cyfrifiadureg ac Astudiaethau Busnes.

Mae'r rhaglenni lefel Meistr wedi'u cynllunio i ddarparu dysgu hyblyg sy'n diwallu'r galw cynyddol am opsiynau addysg sydd yn gweddu i fywydau prysur.

Gyda chefnogaeth darlithwyr a gwasanaethau cymorth myfyrwyr ar-lein, maen nhw’n ceisio cynnig dull dysgu cynhwysfawr ac addas ar gyfer anghenion myfyrwyr modern.

Mae'r cyrsiau'n cynnwys darpariaeth wedi'i gynllunio gan arbenigwyr yn eu meysydd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr addysg ddiweddaraf a mwyaf perthnasol.

Mae pob rhaglen astudio yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau arbenigol i fyfyrwyr ymgysylltu â nhw yn unigol ac ar y cyd, gan ddysgu o enghreifftiau bywyd go iawn sut i gymhwyso eu gwybodaeth yn y proffesiwn o’u dewis.

Mae’r addysg newydd yn gyfan gwbl ar-lein, ond bydd y rhai sy’n cymryd rhan hefyd yn elwa o gymorth cofleidiol. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gymorth gyrfaol ac arbenigol, cefnogaeth cyfoedion i gyfoedion, a chael eu gwahodd i seremoni raddio i nodi eu cyflawniadau academaidd.

Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae'n bleser mawr gennym lansio’r cynnig newydd ar-lein, sy’n gam naturiol ymlaen i’r Brifysgol. Fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, rydym yn gwthio ffiniau arloesi a gwybodaeth - gan feithrin a rhannu’r syniadau a’r arbenigedd sydd o fudd i bobl, y blaned a chyfoeth bywyd diwylliannol.

“Mae’r rhaglenni dysgu ar-lein newydd hyn, yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg ac o ansawdd uchel i fyfyrwyr o bob cefndir. Ein nod yw sicrhau bod addysg o'r radd flaenaf yn hygyrch i bawb, waeth ble maen nhw'n byw neu pa mor brysur yw eu bywydau.

“Bydd y ddarpariaeth ar-lein ychwanegol hon yn sicrhau ein bod yn parhau i ateb anghenion cymdeithas gan feithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd yn ehangach”

Ychwanegodd Thomas Brownrigg, Rheolwr Gyfarwyddwr, Higher Ed Partners UK:

“Rydym ni’n hynod falch o fod yn bartner gyda Phrifysgol Aberystwyth – un o sefydliadau gorau’r Deyrnas Gyfunol a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ddwywaith yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’r cydweithio hwn yn gam cyffrous i HEP wrth i ni gydweithio i ddarparu graddau ar-lein hyblyg o ansawdd uchel drwy lansio AberArlein.”

Gellir darllen rhagor am y cyrsiau ar-lein drwy fynd i online.aber.ac.uk.