Arddangosfa yn ymdrin â hunaniaeth a pherthyn

Llun gan Rolant Dafis

Llun gan Rolant Dafis

03 Ebrill 2025

MaeLluosogrwydd, arddangosfa rymus sy'n rhoi llwyfan i waith wyth artist eithriadol o’r gymuned mwyafrif byd-eang, yn cael ei harddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gweithiau gan artistiaid o liw sy’n arfer eu crefft yng nghanolbarth a gorllewin Cymru: Molara Adesigbin, Munise Emetullah Akhtar, Dela Anderson, Abid Hussain, Déa Neile-Hopton, Simangaliso Sibanda, Elena Tayo, a Jasmine Violet.

Wedi'i chreu gan yr artist Jasmine Violet a'i churadu gan Ffion Rhys, mae Lluosogrwydd yn deillio o raglen fentora chwe mis a rymusodd yr artistiaid hyn i ehangu eu hymarfer creadigol.

Trwy ddosbarthiadau meistr a chydweithio ym meysydd portreadu, ffotograffiaeth, cerameg, gwneud printiau, a pherfformio dan arweiniad artistiaid enwog, bu’r grŵp hwn yn ymdrin â themâu croestoriadedd, lluosogrwydd a hunaniaeth.

Siwmper Diogelwch,Gwau llaw o acrylig, cotwm, viscose, lliain a sidan, Déa Neile-Hopton. © Rolant Dafis.

 

Meddai Ffion Rhys:

"Mae wir yn fraint cael cynnal Lluosogrwyddyma yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Mae’r arddangosfa’n rhoi llwyfan i waith wyth artist eithriadol, ac mae’n ddathliad o'r cymunedau amrywiol sy'n ffurfio Cymru, gan dynnu sylw at straeon sydd heb eu hadrodd a chyfraniadau dwys pobl o’r gymuned mwyafrif byd-eang i ddiwylliant Cymru—ddoe a heddiw."

Mae Jasmine Violet, a gafodd y syniad am yr arddangosfa, yn artist rhyngddisgyblaethol sy'n astudio am ddoethuriaeth yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.  Meddai:

"Ni fyddai’r freuddwyd o greu Lluosogrwydd wedi’i gwireddu heb gefnogaeth, angerdd a chydweithrediad diwyro fy nghyd-artistiaid, mentoriaid, Ffion Rhys a Thîm Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Eu hegni a'u hymroddiad yw curiad calon y prosiect hwn, ac rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfle i rannu'r dathliad hwn o gelf a hunaniaeth."

"Fe’ch gwahoddwn i ymgolli’ch hun yn Lluosogrwydd - lle mae celf, hunaniaeth a threftadaeth yn cydgyfarfod - ac i weld sut mae rhywbeth gwirioneddol eithriadol yn cael ei greu pan fo lleisiau amrywiol yn dod at ei gilydd.”

Lluosogrwydd,Un Allan o Un a Llawer, Dywedwch fy new, Molara Adesigbin. © Rolant Dafis.

 

Ochr yn ochr â'r arddangosfa, bydd rhaglen gyhoeddus o sgyrsiau a gweithdai yn cynnig cyfleoedd pellach i ymdrin â themâu Lluosogrwydd - mae rhagor o fanylion ar wefan Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

MaeLluosogrwydd yn rhan o Safbwynt(iau), prosiect ehangach ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Nod y fenter hon yw ailddiffinio sut mae sectorau’r celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig, gan herio naratifau sy’n bodoli eisoes trwy lens gwrth-hiliaeth a dad-drefedigaethol.

ByddLluosogrwydd i’w gweld yn Oriel 2 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth tan 25 Mai. Mynediad am ddim.