Cyhoeddi enwau enillwyr Ysgoloriaeth Isabel Ann Robertson
![O’r chwith i’r dde: Charles Robertson (mab Ann Robertson), Yr Athro Jon Timmis (Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth), David Skelton (enillydd ysgoloriaeth), Ellen Ziu (enillydd ysgoloriaeth), Trenten Roberts (enillydd ysgoloriaeth), Maggie Robertson (merch Ann Robertson), Fiona Robertson (wyres Ann Robertson) a Michael Robertson (ŵyr Ann Robertson)](/cy/news/archive/2025/02/Ann-Robertson-scholarship,-Aberystwyth-University.jpg)
O’r chwith i’r dde: Charles Robertson (mab Ann Robertson), Yr Athro Jon Timmis (Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth), David Skelton (enillydd ysgoloriaeth), Ellen Ziu (enillydd ysgoloriaeth), Trenten Roberts (enillydd ysgoloriaeth), Maggie Robertson (merch Ann Robertson), Fiona Robertson (wyres Ann Robertson) a Michael Robertson (ŵyr Ann Robertson)
13 Chwefror 2025
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi enwau enillwyr ysgoloriaeth bwysig newydd i hyrwyddo astudiaethau ôl-raddedig mewn mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg.
Wedi'u hariannu trwy haelioni'r diweddar Isabel Ann Robertson, a astudiodd Ffiseg yn Aberystwyth ac a fu'n gweithio fel tiwtor yn yr Adran Gyfrifiadureg, mae tair ysgoloriaeth PhD amser llawn ar gael bob blwyddyn, i gyfrannu tuag at ffioedd dysgu ac i ddarparu lwfans cynhaliaeth blynyddol.
Y myfyrwyr cyntaf i ennill yr ysgoloriaeth oedd David Skelton o'r Adran Ffiseg a Trenten Roberts ac Ellen Ziu, ill dau o'r Adran Gyfrifiadureg. Cyflwynodd y tri eu gwaith i aelodau o deulu Ann Robertson a chydweithwyr mewn digwyddiad a lywyddwyd gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Jon Timmis.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
"Braint oedd cael croesawu teulu Ann yn ôl i Aberystwyth i goffáu ei chyfraniad i'n Prifysgol ac i gydnabod ei chymynrodd hael sy’n helpu i ffurfio dyfodol gyrfaoedd academaidd ein myfyrwyr PhD a’u rhoi ar drywydd cadarnhaol am weddill eu hoes.
"Fel myfyriwr graddedig Cyfrifiadureg fy hun, rwy'n hynod ddiolchgar i Ann a'i chydweithwyr am greu amgylchedd dysgu mor gadarnhaol, am wthio ffiniau cyfrifiadureg a rhoi pobl fel fi ar drywydd sydd wedi dod â mi yn ôl i Aber rai blynyddoedd yn ddiweddarach."
Dywedodd Maggie Robertson, merch ieuengaf Ann Robertson, a chyn-aelod o staff yn yr Adran Gyfrifiadureg:
"Mae'n hyfryd gweld tri pherson ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd academaidd. Rwy'n credu y byddai mam wedi teimlo'n freintiedig iawn o allu eu cynorthwyo wrth iddynt ddechrau ar eu taith, p'un a fyddant yn mynd ymlaen i wneud ymchwil neu fynd â'r wybodaeth a'r sgiliau hynny i yrfa wahanol.
"Roedd hi wrth ei bodd yn gweithio i'r Brifysgol, yn un peth oherwydd mai Aberystwyth ydoedd, a bod cysylltiad hir rhwng ei theulu â'r sefydliad, ond hefyd oherwydd y cyfleoedd a roddodd iddi. Roedd mynd i'r brifysgol yn beth anarferol pan oedd hi'n ifanc, ac roedd mynd yn ôl i weithio yn y Brifysgol ar ôl iddi briodi a chael plant yn rhoi bywyd cymdeithasol cyfoethog iddi, yn cadw ei hymennydd yn effro, yn rhywbeth yr oedd yn ei chael yn hynod ddiddorol a gwerth chweil, ac yn her gyson a roddai foddhad mawr iddi. Iddi hi, roedd ei gwaith yno yn fwy o ddiddordeb na swydd mewn gwirionedd.”
Dywedodd Ellen Ziu, un o’r tri myfyriwr cyntaf i ennill ysgoloriaeth Isabel Ann Robertson:
"Fel myfyriwr PhD yn yr Adran Gyfrifiadureg, mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ofal iechyd rhagfynegol trwy system gefell digidol sy’n dysgu ei hunan. Mae'r gwaith hwn yn edrych ar sut y gellid ei ddefnyddio i roi diagnosis cynnar ac atal Diabetes Math 2, yn ogystal â system bersonol i ddod o hyd i ganser y prostad.
"Ar ôl cwblhau fy holl raddau yn Aberystwyth, rwy'n teimlo'n hynod falch o fod yn gyd gyn-fyfyriwr i Ann a'r teulu Robertson, ac o barhau â'm taith academaidd yma. Mae'r cyfle i gwblhau fy ngyrfa academaidd yng nghymuned Aberystwyth yn wirioneddol arbennig, ac rwy'n ddiolchgar am y cysylltiadau a'r gefnogaeth y mae'n eu cynnig.
"Roedd cael cwrdd â theulu Robertson a rhannu atgofion am Ann yn brofiad teimladwy ac ysbrydoledig. Roedd yn hyfryd clywed am ei gwaddol ryfeddol, ac rwy’n gobeithio bod fy ngwaith yn adlewyrchu'r gwerthoedd a'r effaith y byddai hi wedi dymuno eu gweld. Rwy'n hynod ddiolchgar am y wobr hon, a fydd yn gymorth mawr o ran fy ymchwil a’m cyfraniadau i ofal iechyd yn y dyfodol."
Ann Robertson gyda'i gŵr David
Ganwyd Isabel Ann Robertson (nee Davies) yn Llundain yn 1932, ac roedd ei chysylltiadau ag Aberystwyth a'r Brifysgol yn ymestyn dros sawl cenhedlaeth.
Cafodd ei mam, Enid Sayers, radd mewn Saesneg o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1920au ac yn ddiweddarach (fel Enid Davies) bu’n Is-lywydd ar Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr.
Roedd ei thad, C W Davies, hefyd wedi graddio o Aberystwyth ac yn ddiweddarach bu’n Athro Cemeg ac yn Bennaeth ar yr Adran Gemeg.
Genhedlaeth ynghynt, bu ei thaid yn helpu i adeiladu'r Llyfrgell Genedlaethol.
Bu Ann ei hun yn astudio Ffiseg pan oedd yr adran yn dal i fod yn yr Hen Goleg, gan raddio gyda BSc ym 1954 ac MSc drwy ymchwil ym 1957.
Roedd hi hefyd yn athletwraig yn y Coleg ac yn aelod o’r Clwb Hwylio, lle cyfarfu â’i gwr, David Robertson.
Trwy waith David gyda’r Comisiwn Coedwigaeth, bu’r ddau yn byw mewn sawl rhan o’r DU, gan gynnwys Glasgow, lle cwblhaodd Ann MSc mewn Cyfrifiadureg.
Dychwelodd y ddau i Aberystwyth yn yr 1980au a byddai Ann yn mynd ymlaen i weithio fel tiwtor yn yr Adran Gyfrifiadureg am 25 mlynedd, tan 2009.
Bu eu merch, Sara Robertson, hefyd yn astudio yn Aberystwyth rhwng 1978 a 1981 yn ogystal â'u hwyres, Fiona Robertson, rhwng 2011 a 2015.
Am ragor o fanylion am Ysgoloriaeth Isabel Ann Robertson a sut i wneud cais, gweler https://www.aber.ac.uk/cy/grad-school/cyfleoeddariannu