Prifysgolion yn cydweithio i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i addysgwyr  

12 Chwefror 2025

Mae academyddion o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth yn cynllunio i gydweithio i gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol newydd ar gyfer y gweithlu addysg.

Bydd y bartneriaeth newydd yn dod ag arbenigedd ynghyd mewn meysydd megis cynllunio’r cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol.

Gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, mae’r ddwy brifysgol yn bwriadu darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol dwyieithog seiliedig ar ymchwil ar gyfer y gweithlu addysg presennol o hydref eleni ymlaen.

Meddai Dr Jeremy Smith, Deon yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn falch iawn o  gyhoeddi’r bartneriaeth gydweithredol newydd hon ym maes Addysg. Mae hwn yn faes lle mae gennym lawer iawn o arbenigedd cyflenwol eisoes.  Rydym ni, a phrifysgolion eraill yng Nghymru, wedi bod yn gweithio’n fwyfwy agos dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig mewn Addysg, a hynny i raddau helaeth oherwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fentrau ymchwil ar y cyd yn y maes hwn. Rydym yn awr eisiau ymestyn y dull partneriaeth hwnnw ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag eraill gan gynnwys awdurdodau lleol dros y misoedd nesaf wrth i ni gynllunio manylion ein gwaith gyda’n gilydd.”

Meddai Dr Patrick Finney, Dirprwy Is-Ganghellor Dros Dro Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddarparu ar yr agenda hon, er budd ein gweithlu addysgol.  Trwy ein partneriaeth gydweithredol newydd, byddwn yn gallu darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol arloesol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion ledled Cymru, gan hyrwyddo datblygiad parhaus gweithlu ysgol medrus sy’n gallu addasu i ofynion newidiol addysg fodern.”