Pennod newydd i gylchgrawn llenyddol

Y golygyddion hen a newydd – Dr Cynfael Lake, Dr Gruffudd Antur, Dr Eurig Salisbury a Dr Bleddyn Huws
06 Chwefror 2025
Mae cylchgrawn academaidd sy’n trafod hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol yn cychwyn ar gyfnod newydd.
Ddeng mlynedd ar hugain ers ei gyhoeddi gyntaf, mae Dwned yn symud o fod yn gylchgrawn print i fod yn gylchgrawn digidol gyda’i wefan ei hun.
Mewn tro arall ar fyd, bydd y ddau olygydd sydd wedi arwain y cylchgrawn ers 1995 yn trosglwyddo’r awenau i ddau olygydd newydd.
Sefydlwyd Dwned gan Dr A. Cynfael Lake a Dr Bleddyn Huws yn 1995 pan oedden nhw’n gyd-weithwyr yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Er i Dr Lake symud i Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe yn ddiweddarach, parhaodd y ddau i gydolygu’r cylchgrawn.
Wrth y llyw o hyn ymlaen fydd Dr Eurig Salisbury – bardd, llenor a darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth - a Dr Gruffudd Antur, bardd a chymrawd ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth.
Dros y blynyddoedd, ymddangosodd 167 o eitemau rhwng cloriau Dwned yn cynnwys erthyglau, adolygiadau a nodiadau, gyda chyfraniadau gan 67 o awduron gwahanol - rhai ohonyn nhw’n enwau amlwg yn y maes ac eraill yn ysgolheigion ifanc yn cael cyfle i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil am y tro cyntaf.
Wrth baratoi i drosglwyddo’r awenau golygyddol, dywedodd Dr Bleddyn Huws o Brifysgol Aberystwyth:
“Fel cydolygyddion am bron i ddeng mlynedd ar hugain, testun balchder i Cynfael a minnau yw fod pobl yn cydnabod bod Dwned yn gylchgrawn sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i ysgolheictod ym maes barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol diweddar.
“Ymddangosodd nifer o erthyglau treiddgar a blaengar rhwng ei gloriau, a charem ddiolch i’r cyfranwyr ac i’r tanysgrifwyr am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd. Daeth yn bryd i ni fel golygyddion drosglwyddo’r awenau i ofal cenhedlaeth iau o ysgolheigion ac rydyn ni’n ffyddiog y bydd cyhoeddi’r cylchgrawn ar y we yn denu to newydd o ddarllenwyr.
“Ar wahân i dderbyn nawdd cychwynnol gan Bwyllgor David Hughes Parry Prifysgol Aberystwyth a Chronfa Goffa Henry Lewis Prifysgol Abertawe i'w sefydlu, ni dderbyniodd y cylchgrawn yr un geiniog o nawdd cyhoeddus. Llwyddodd pob rhifyn i dalu amdano ei hun, a hynny drwy gefnogaeth a ffyddlondeb ein tanysgrifwyr.”
Dywedodd Dr Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth: “Mae Dwned wedi bod yn drysor o gylchgrawn i unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes a llên Cymru’r Canol Oesoedd a braint o’r mwyaf i Gruffudd Antur a minnau yw cael cydarwain y cylchgrawn ar ddechrau pennod newydd cyffrous yn ei hanes.”
Cynhaliwyd derbyniad yn Adeilad Parry-Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Fercher 5 Chwefror i ddathlu cyhoeddi rhifyn print olaf Dwned a chroesawu’r cylchgrawn ar ei newydd wedd. Caiff gwefan dwned.cymru ei lansio’n llawn yn hwyrach eleni.