Myfyrwyr nyrsio yn dysgu am gŵn anwes yn gwella cleifion

Gwirfoddolwyr a chŵn, Cŵn Cymorth Cariad gyda myfyrwyr nyrsio Prifysgol Aberystwyth
23 Ionawr 2025
Mae myfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dysgu am sut mae cŵn anwes yn gallu helpu gwella cleifion.
Gan gydweithio gydag arbenigwyr Cŵn Cymorth Cariad, mae’r myfyrwyr yn dysgu am sut mae therapi gyda chŵn yn gallu helpu’r rheiny sy’n derbyn triniaeth mewn gofal, ysbyty neu gartref i reoli a gwella o gyflyrau penodol.
Mae’n hysbys bod anifeiliaid anwes, megis cŵn yn gallu gwella iechyd a lles emosiynol a meddwl cleifion.
Dywedodd Amanda Jones, Pennaeth Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n wych i’n myfyrwyr gael dysgu am sut y gall yr anifeiliaid gynorthwyo cleifion. Rwy’n gwybod fod rhai o’n myfyrwyr wedi gweld y cŵn therapi hyn yn cynnig cymorth mewn ysbytai tra ar leoliad. Mae’n dda o beth ein bod ni’n gallu dangos y gwaith pwysig yma i’r genhedlaeth nesaf o nyrsys.”
“Rwy’ hefyd wedi gweld y buddion i’n myfyrwyr ein hunain a ddaw o’n gwaith gyda Cŵn Cymorth Cariad – mae’r ymdeimlad o lonyddwch o fod o gwmpas yr anifeiliaid yn eu helpu i ymdopi gyda’r straen naturiol sy’n dod o ddysgu ar y lefel hon.”
Mae gan Cŵn Cymorth Cariad dros 100 o wirfoddolwyr sy’n cynnig ymweliadau therapi cŵn i ofal iechyd, cyflogwyr a lleoliadau addysg yng Nghymru.
Ychwanegodd Robert Thomas o Cŵn Cymorth Cariad:
“Rydym ni’n falch o hyfforddi’r myfyrwyr nyrsio ac yn teimlo bod y cwrs yn cynnig ffordd o gefnogi profiad cleifion a staff yn y gwasanaeth iechyd. Rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar les yr anifeiliaid er mwyn sicrhau bod profiad syniol ac emosiynol y cŵn yn cael ei gydnabod a’i fodloni.”
Dywedodd Bob Adams, myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl yn ei ail flwyddyn:
“Roedd Cŵn Cymorth Cariad yn dod i’n gweld yn brofiad gwych. Nid yn unig eu bod nhw yn helpu i ddangos pa mor amrywiol y gall dulliau therapiwtig fod, ond roedd hi hefyd yn wych clywed gan rai o'r bobl a oedd wedi elwa ohono. Fe gawson ni i gyd fudd o anwesu'r cŵn hefyd, nid darlith prifysgol arferol mohoni!”
Fel rhan o’r cydweithio ehangach rhwng y Brifysgol a Cŵn Cymorth Cariad, mae hefyd sesiynau i fyfyrwyr eraill sy’n wynebu gorbryder neu straen yn ystod asesiadau.