Cyfnewid diwylliannol Llydewig yn Aberystwyth
17 Ionawr 2025
Bydd myfyrwyr yn Aberystwyth yn dysgu am iaith a diwylliant Llydaw pan fydd academyddion o ddinas Rennes, Llydaw yn ymweld â'r dref yng Nghymru’r wythnos nesaf.
Gan barhau’r berthynas gydweithredol hirdymor sydd rhwng y ddau sefydliad, bydd grŵp o academyddion o Université Rennes 2 (Skol-veur Roazhon 2) yn teithio i Brifysgol Aberystwyth i gynnig rhaglen addysgol wythnos o hyd.
Bydd myfyrwyr o Adrannau'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Ieithoedd Modern a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cael cynnig cyfle i ddysgu am yr iaith Lydaweg a'r diwylliant Llydewig; ynghyd ag aelodau o Gymdeithas Cymru Llydaw.
Bydd academyddion gwadd o'r Adran Lydaweg ac Astudiaethau Celtaidd yn Université Rennes 2 yn cynnig gwersi Llydaweg i ddechreuwyr ac i'r rhai sydd eisoes yn gyfarwydd â'r iaith. Byddant hefyd yn cyflwyno gwersi ar ddiwylliant a hanes Llydaw.
Bydd Cédric Choplin yn cyflwyno sesiwn ar hanes Llydaw; bydd Dr Tristan Loarer yn dysgu am ddatblygiad yr iaith, o’r Frythoneg i Lydaweg modern; bydd Riwanon Callac yn traddodi darlith yn y Gymraeg ar hanes llenyddiaeth Lydaweg; a bydd Myriam Guillevic yn cyflwyno sgwrs ar ferched mewn caneuon Llydaweg poblogaidd.
Dywedodd y Dr Rhianedd Jewell, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Rydym yn falch iawn o groesawu cydweithwyr o'r Adran Lydaweg ac Astudiaethau Celtaidd yn Université Rennes 2 i Aberystwyth. Rydym ni yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn falch iawn o'n cysylltiadau â chenhedloedd Celtaidd eraill, a bydd yr ymweliad hwn yn sicr o gryfhau hyn ymhellach.
"Prifysgol Aberystwyth yw'r unig le yn y byd lle gallwch astudio'r iaith Lydaweg drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y cwrs a gynigir gan gydweithwyr o Rennes 2 yn galluogi'r myfyrwyr hyn i ddyfnhau eu dealltwriaeth o iaith a diwylliant Llydaw, yn ogystal â chynnig cyfle ehangach i fyfyrwyr eraill a'r rhai yng nghymuned Aberystwyth sy'n gwbl newydd i'r pwnc."
Mae'r darlithydd, Gwenole Cornec, yn dysgu Llydaweg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Meddai:
"Mae hanes hir o gyfnewid rhwng Prifysgol Aberystwyth a Rennes 2, ac mae eu parhad er gwaethaf yr anawsterau a achoswyd gan Cofid a Brexit yn dangos eu cryfder. Gallaf dystio'n bersonol i'r cryn gyfoeth a geir trwy gydweithio fel hyn, ar ôl cael cyfle i ddarganfod Aberystwyth a dysgu Cymraeg fel myfyriwr yn rhan o raglen gyfnewid ryngwladol rhwng ein dwy brifysgol. Mae'r cysylltiad rhwng ein hieithoedd, y Llydaweg a’r Gymraeg, yn fyw iawn, ac mae'r hyn sy'n digwydd yn Aberystwyth yn enghraifft dda o hynny."
Mae'r Gymraeg a'r Llydaweg yn rhannu gwreiddiau ieithyddol sy'n dyddio'n ôl i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, pan ddaeth pobl o dde-orllewin Prydain, a siaradai’r iaith Frythoneg, ac ymsefydlu yn yr ardal a adnabyddwn heddiw fel gogledd-orllewin Ffrainc, a enwyd yn ddiweddarach yn Llydaw.