Adnodd newydd i gefnogi disgyblion cyfrwng Cymraeg

O'r chwith i'r dde: Susan Ferguson (Swyddog Effaith Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth), Prysor Davies (Pennaeth Dros Dro yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth), Dr Rhodri Evans (Darlithydd Addysg, Prifysgol Aberystwyth), Rhiannon Salisbury (athrawes), Alwyn Ward (Cyngor Sir Ceredigion)

O'r chwith i'r dde: Susan Ferguson (Swyddog Effaith Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth), Prysor Davies (Pennaeth Dros Dro yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth), Dr Rhodri Evans (Darlithydd Addysg, Prifysgol Aberystwyth), Rhiannon Salisbury (athrawes), Alwyn Ward (Cyngor Sir Ceredigion)

16 Ionawr 2025

Mae ymchwilwyr addysg wedi cyhoeddi llyfryn arbennig i gefnogi disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n dod o gartrefi lle nad yw’r iaith yn cael ei siarad.

Cafodd y llyfryn Cysylltu, Cefnogi a Chynnig Cyfleoedd ei gyd-greu mewn gweithdai dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth gyda phartneriaid addysg yng Ngheredigion a Phowys, a mewnbwn gan rieni a disgyblion.

Mae’n adeiladu ar gyfres o astudiaethau gan yr Ysgol Addysg a ddechreuodd yn ystod cyfnodau clo Covid-19 yn 2020 ac a fu’n edrych ar effaith y pandemig ar ddisgyblion ynghyd â’r heriau ychwanegol yn wynebu ysgolion cyfrwng Cymraeg wrth estyn cefnogaeth i blant o gartrefi di-Gymraeg.

Dywedodd Dr Siân Lloyd-Williams Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth:

“Ar sail yr astudiaethau a wnaed rhwng 2020 a 2024, roedd yn glir bod angen parhau â’r gwaith er mwyn i ni allu cloriannu, cydnabod a chofnodi effaith ein hargymhellion ar gefnogi teuluoedd di-Gymraeg.

“Aethom ati i drefnu cyfres o weithdai, gan ddwyn ynghyd cynrychiolwyr o’r awdurdodau addysg lleol, athrawon, rhieni ac eraill i glywed eu profiadau nhw a chasglu tystiolaeth. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cyd-greu llyfryn arbennig y gall athrawon ei defnyddio i gefnogi disgyblion o gartrefi di-Gymraeg sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.”

Dywedodd aelod arall o dîm ymchwil Ysgol Addysg Aberystwyth, Dr Rhodri Aled Evans:

“Dyma enghraifft o gydweithio effeithiol a phwrpasol rhwng academyddion ac ymarferwyr ar lawr gwlad. Ein gobaith yw y bydd y llyfryn yma, ynghyd ag argymhellion ein hastudiaethau blaenorol, yn adnodd gwerthfawr i’r sector addysg ac o fudd i athrawon, disgyblion a theuluoedd fel ei gilydd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Ceredigion, Elen James:

“Mae wedi bod yn hynod werthfawr cydweithio gydag ymchwilwyr y Brifysgol i greu adnoddau pwrpasol sy’n cynnig cymorth ymarferol ar sut mae gwella ymhellach brofiadau disgyblion o gartrefi di-Gymraeg. Mae’r gwaith hwn yn gyfoethog ac yn fan cychwyn gwych ar gyfer cydweithio pellach. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r project yn y dyfodol.”

Lansiwyd y llyfryn Cysylltu, Cefnogi a Chynnig Cyfleoedd yn ystod digwyddiad hyfforddiant i athrawon ar gampws y Brifysgol ym mis Ionawr 2025 ac mae modd lawrlwytho copi PDF o wefan y Brifysgol neu holi am gopi caled.