Diwrnod Cofio’r Holocost 2025: Arddangosfa am bobl coll yr Holocost yn dod i Aberystwyth

Arddangosfa Fate Unknown. Credyd – Llyfrgell Holocost Wiener

Arddangosfa Fate Unknown. Credyd – Llyfrgell Holocost Wiener

15 Ionawr 2025

Bydd digwyddiad a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost yn rhoi sylw i’r ymdrechion dirdynnol a wnaed i chwilio am bobl oedd ar goll ar ôl yr Holocost.

Mae'r arddangosfa 'Fate Unknown' yn adrodd y stori ryfeddol, sydd heb gael llawer o sylw hyd yma, am yr ymdrechion i geisio dod o hyd i bobl oedd ar goll ac aduno teuluoedd yn y cyfnod wedi’r Holocost.

Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn gan y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â Royal Holloway, Prifysgol Llundain a Llyfrgell Holocost Wiener, sy'n gartref i Archif Ddigidol Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol y DU sy'n dal miliynau o ddogfennau sy'n gysylltiedig â chyfnod yr Holocost a'r Natsïaid.

Bydd yn cynnwys sgyrsiau gan yr academyddion o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Andrea Hammel a Dr Morris Brodie, ar 'Adnoddau Holocost Cymru', sef prosiect i ddatblygu adnoddau addysgol dwyieithog ag elfen leol ar yr Holocost,  i'w defnyddio mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru; a phrosiect newydd, 'Unsettled Lives: War and Displacement in Wales’.  Bydd yn cynnwys lansio podlediad newydd ‘The Holocaust and Wales’. (www.youtube.com/watch?v=irYe_m_g_VM)

Yn ogystal â hyn, bydd sgwrs gan gyd-guraduron yr arddangosfa, yr Athro Dan Stone o Sefydliad Ymchwil yr Holocost yn Royal Holloway a Dr Christine Schmidt o Lyfrgell Holocost Wiener; a sgwrs gan Elise Bath, Rheolwr Tîm Archif Digidol y Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol yn Llyfrgell Holocost Wiener.

Dywedodd Andrea Hammel, Athro Almaeneg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl:

"Rydym yn falch o ymuno mewn partneriaeth â Royal Holloway a Llyfrgell Holocost Wiener i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost gyda'r arddangosfa hynod ddiddorol a theimladwy hon, sy'n ystyried gwaddol y chwiliad poenus ar gyfer y rheiny a gafodd eu heffeithio gan yr Holocost. Rydym ni’n croesawu unrhyw un i ymuno â ni sydd â diddordeb yn y pwnc hwn."

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 29 Ionawr, o 1.30pm tan 5pm, ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais ac mae'n agored i'r cyhoedd.  I gadw lle neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://wienerholocaustlibrary.org/event/fate-unknown-the-search-for-the-missing-after-the-holocaust-programme-and-exhibition-at-aberystwyth-university