Penodi barnwr blaengar yn Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth

Y Foneddiges Ustus Nicola Davies DBE. Llun: Liz Isles Photography
14 Ionawr 2025
Mae’r barnwr blaengar y Foneddiges Ustus Nicola Davies DBE wedi’i phenodi yn Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth.
Ganwyd a magwyd y Fonesig Nicola Davies yng Nghymru a chafodd ei magu yn Llanelli a Phen-y-bont ar Ogwr. Mynychodd Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr i Ferched a hi oedd y cyntaf o'i theulu i fynd i'r brifysgol.
Bu'n gweithio yn Llundain fel dadansoddwr buddsoddi cyn cael ei galw i'r Bar ym 1976. Arbenigodd mewn cyfraith feddygol, gan gynnwys esgeulustod clinigol, troseddau, gwaith rheoleiddio ac ymchwiliadau, gan weithredu mewn nifer o achosion nodedig gan gynnwys Sidway v Bwrdd Llywodraethwyr Ysbyty Bethlem, Ymchwiliad i Gam-drin Plant Cleveland ac Ymchwiliad Llawfeddygon y Galon Bryste yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Penodwyd y Foneddiges Ustus Nicola Davies i Gyngor y Frenhines ym 1992, fel dirprwy farnwr yr Uchel Lys yn 2003 a Barnwr yr Uchel Lys (Cangen Mainc y Frenhines) yn 2010. Rhwng 2014 a 2017, bu'n Farnwr Gweinyddol Cylchdaith Cymru ac yn 2018, fe’i penodwyd i’r Llys Apêl.
Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i fod yn ddeiliad yr holl swyddi hyn, y fenyw gyntaf o Gymru i'w phenodi'n Foneddiges Ustus Apeliadau a hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Bu’n Gydgynullydd Cynghrair Lletai’r Llysoedd dros Fenywod am y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn Drysorydd Gray’s Inn yn 2023.
Mae rôl Canghellor Prifysgol Aberystwyth yn un seremonïol a llysgenhadol o bwys gan gynnwys cynrychioli’r sefydliad mewn digwyddiadau mawr megis graddio.
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd y Gwir Anrhydeddus y Foneddiges Ustus Nicola Davies DBE:
“Mae’n anrhydedd enfawr cael fy mhenodi i’r rôl hon. Yn ganolog i genhadaeth Prifysgol Aberystwyth mae ymrwymiad i ddarparu addysg ac ymchwil o safon fyd-eang sy’n cryfhau Cymru a’r byd ehangach. O fewn y Brifysgol mae cymuned hynod ymroddedig a chefnogol o staff a myfyrwyr, sy'n cael ei gwerthfawrogi gymaint.
“Mae fy ymrwymiad i addysg yn arbennig o bwysig gan ei fod yn rhan ffurfiannol o fy nghefndir. Y blynyddoedd yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr a'm gosododd ar y llwybr i lwyddiant proffesiynol. Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynychu’r brifysgol, ac nid fy nghefndir i oedd yr un “confensiynol” i berson oedd yn ceisio mynediad i’r Bar.
“Rwy’n gweld y rôl hon fel cyfle i roi rhywbeth yn ôl i addysg uwch ac i Gymru – mae’r ddau wedi bod ac yn dal i fod yn ganolog i fy mywyd a fy nghymeriad. Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle.”
Ychwanegodd Meri Huws, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth:
“Pleser o’r mwyaf yw croesawu barnwr o fri o statws a pharch y Foneddiges Ustus Nicola Davies i’n cymuned yma yn Aberystwyth. Mae ganddi’r dyfnder o brofiad a’r doniau a fydd o gymorth mawr i ni wrth edrych ymlaen at y dyfodol.
“Yn ogystal, hoffwn i ddiolch o waelod calon i’w rhagflaenydd yn y rôl, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, am ei holl waith dyfal dros y sefydliad a’n llwyddiannau diweddar.”
Ychwanegodd yr Athro Jonathan Timmis Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae penodiad y Foneddiges Ustus Nicola Davies yn newyddion ardderchog i ni. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda hi wrth i ni barhau i drawsnewid ein sefydliad a gwneud cyfraniad o bwys wrth i ni gwrdd â’r heriau sy’n ein hwynebu fel cenedl ac fel byd ehangach.”