Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth

Enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2024

Enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2024

06 Rhagfyr 2024

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad i’r Gymraeg. 

Mewn seremoni wobrwyo ddydd Mercher 4 Rhagfyr, cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2024 wedi iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol.  

Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, gwobrwywyd yr enillwyr ar gyfer y gwobrau canlynol: 

 

  • Dysgwr Disglair (Staff) – Vicki Jones
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Dr Hanna Binks a Dr Lloyd Roderick
  • Astudio trwy’r Gymraeg (Myfyriwr) – Ellie Norris
  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Celyn Bennett
  • Cefnogi’r Gymraeg yn y Gweithle – Tîm Swyddfa Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

 

Dyfarnwyd Gwobr Arbennig y Panel i Elain Gwynedd, Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA am ei holl waith yn hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn y Brifysgol.

 

Derbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan naill ai’r Athro Mererid Hopwood, Dr Eurig Salisbury (Darlithydd Ysgrifennu Creadigol o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd), neu Dr Hywel Griffiths, (Darllenydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol).

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Dr Gwawr Taylor, Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg: “Dathlwn heddiw gyfraniad arbennig unigolion i ddysgu a hybu’r Gymraeg yn y Brifysgol. Mae eu hymroddiad a’u brwdfrydedd yn ysgogi ac yn ysbrydoli staff a myfyrwyr ar draws cymuned y Brifysgol.  Diolch i chi gyd am eich gwaith diflino a’ch ymrwymiad i’r Gymraeg.”  

Yr Enillwyr  

Vicki Jones (Dysgwr Disglair): Wedi ei geni yn Neston, yr Wirral, symudodd Vicki i Gymru i bentref Coedpoeth, Wrecsam pan yn 10 oed gan glywed y Gymraeg am y tro cyntaf yn cael ei siarad yn y gymuned yno. Yn dilyn gweithio mewn nifer o leoliadau gwaith yn ardal Wrecsam, cyfarfu â Gareth, ei gŵrgan symud i Geredigion ac ymgartrefu yno gan ddechrau gweithio i Brifysgol Aberystwyth. Chwe blynedd yn ôl gyda’i gŵr a’i meibion yn siaradwyr Cymraeg, dechreuodd ddysgu Cymraeg o ddifri gan fynychu dosbarthiadau cymunedol a chyrsiau Cymraeg Gwaith. Yn ogystal â bod yn gymorth yn y gwaith, mae’r Gymraeg wedi bod o fudd mawr i Vicki yn y gymuned. Mae hi bellach yn cynorthwyo mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys yr Eisteddfod yng Nghwm Ystwyth. Vicki hefyd sy’n gyfrifol am lunio posteri dwyieithog ar gyfer digwyddiadau ac mae’n gyswllt ardal i Bapur Bro y Ddolen. Ymddeolodd yn yr haf, wedi bron 30 mlynedd yn gweithio i’r Brifysgol.    

 

Dr Hanna Binks (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Yn enedigol o Aberystwyth, dychwelodd Hanna i’r ardal yn 2017 yn dilyn cael ei phenodi yn Ddarlithydd Cyswllt yn  Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth. Penodwyd yn ddarlithydd gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn yr Adran yn 2019 ac mae wedi gweithio yn ddiflino i ddatblygu cyfleoedd astudio a hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr Adran. Mae Hanna yn angerddol dros y Gymraeg ac yn teimlo fod Seicoleg yn faes pwysig yn gymdeithasol. Mae hi’n awyddus i ddatblygu’r ddarpariaeth ymhellach gan gynnwys prosiectau a chynlluniau ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Dr Lloyd Roderick (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Wedi ei fagu ar aelwyd ddi-gymraeg ac yn hanu’n wreiddiol o Lanelli gyda chefndir ym maes Celf a Llyfrgellyddiaeth, symudodd Lloyd yn wreiddiol i Aberystwyth i gwblhau gwaith ymchwil ar un o gasgliadau Celf y Llyfrgell Genedlaethol. Yn 2015, penodwyd ef yn Llyfrgellydd Pwnc yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth gan weithio yn benodol gydag Adrannau’r Gyfraith, y Gymraeg, Hanes a Chelf gan gefnogi myfyrwyr a staff gyda chasgliadau, ymchwil ac adnoddau. Mae’r Gymraeg yn holl bwysig i Lloyd ac mae’n awyddus i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’i waith yn y Brifysgol. Mae’n gweld y Gymraeg yn rhan rwydwaith ieithoedd byd eang a thrwy ei waith a’i gyflwyniadau mae’n ei hyrwyddo ac yn annog ei defnydd ymhlith staff a myfyrwyr. 

Ellie Norris (Astudio trwy’r Gymraeg): Mae Ellie yn fyfyrwraig yn Adran y Gyfraith a Throsedd yn astudio gradd mewn Troseddeg.  Yn enedigol o Aberdâr, magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg a dysgodd y Gymraeg yn yr ysgol gynradd. Penderfynodd fynychu Prifysgol Aberystwyth am ei bod am astudio mewn ardal ble mae’r Gymraeg i’w chlywed yn cael ei siarad yn y gymuned. Mae’n llysgennad i rwydwaith Cymru sy’n ystyriol o drawma ac yn awyddus i wella’r systemau cyfathrebu yn y Gymraeg. Mae hefyd yn dymuno bod yn llysgennad ar gyfer Adran y Gyfraith a Throseddeg er mwyn hybu a hyrwyddo astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn dilyn cwblhau ei chwrs gradd, mae Ellie yn awyddus i fod yn dditectif neu yn seicolegydd fforensig. 

  

Celyn Bennett (Pencampwr y Gymraeg): Mae Celyn yn astudio Gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol o ardal Bryste, fe’i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg a chlywodd yr iaith gyntaf pan yn pum mlwydd oed. Symudodd i Drefynwy pan yn 11 oed gan fynychu Ysgol Gyfun Trefynwy, a chwblhau TGAU a Lefel A Cymraeg ail iaith. Mae’r Gymraeg yn hollbwysig i Celyn ac mae’n weithgar iawn yn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi myfyrwyr eraill sy’n ei dysgu. Ar hyn o bryd mae’n Llywydd Myfyrwyr Llafur Aberystwyth ac yn ymdrechu i sicrhau bod pob dim yn ddwyieithog gyda’r gymdeithas. Wedi iddi raddio, mae Celyn yn awyddus i ddilyn gyrfa ym maes cynllunio Cymraeg.

Tîm Swyddfa Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (Cefnogi’r Gymraeg yn y gweithle): Mae Tîm staff Swyddfa Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnal a chefnogi’r Gymraeg yn y Gyfadran. Mae’r staff yn darparu arweiniad, cefnogaeth weinyddol a rheolaethol ar lefel Adran, Ysgol a Chyfadran trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer staff ac aelodau’r Gyfadran. Mae’r holl dîm yn ymroddedig i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob sefyllfa gan annog ei defnydd a datblygu cyfleoedd yn ffurfiol ac anffurfiol.

 

Elain Gwynedd (Gwobr Arbennig y Panel): Wedi ei magu yn ardal Porthaethwy, Ynys Môn, mynychodd Ysgol Gynradd Llanfair Pwll ac yna Ysgol Syr David Hughes. Yn 2020, daeth Elain i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg gan raddio yn 2023. Trwy gydol ei chyfnod yn y Brifysgol, mae wedi bod yn weithgar iawn dros y Gymraeg yn trefnu digwyddiadau, a chefnogi a hybu’r iaith. Bu’n Swyddog Cyhoeddiadau Cymdeithasol UMCA a thrysorydd Aelwyd Pantycelyn 2021-22; yn Llywydd y Geltaidd ac Is-Lywydd UMCA yn 2022-23. Cafodd ei hethol yn Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn 2023 ac yn 2024 cafodd ei hethol eto i’r swydd hon am ail flwyddyn. Mae’n angerddol dros y Gymraeg ac yn ystod ei chyfnod fel Llywydd UMCA, llwyddodd myfyrwyr Aberystwyth i ennill yr Eisteddfod Rhyngolegol am y tro cyntaf ers 9 mlynedd, dathlwyd hanner can ‘mlwyddiant UMCA, ac yn ystod haf 2024 cymeradwywyd cynnig Elain i newid enw’r Undeb o Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Students’ Union i Undeb Aberystwyth. Mae’r Gymraeg yn ganolbwynt yn ei bywyd a’i nod yw sicrhau bod yr iaith yn llewyrchu ar gyfer y genhedlaeth nesaf. 

 

Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig

Yn ogystal â dyfarnu’r gwobrau uchod, cyflwynwyd Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig gan y panel i’r myfyrwyr James Fennell, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Cai Phillips, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac i’r aelodau staff Philip Bowling, Cofrestrfa Academaidd a Sharon King, Ysgol Gwyddor Filfeddygol am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.