Addewid y Rhuban Gwyn: Lansio ymgyrch i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched
Chwith i’r dde: Elize Freeman, Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyd-Arweinydd Dewis Choice, yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Bayanda Vundamina, Llywydd Undeb Aber a Jess Jackson, Cydlynydd Gwrth-aflonyddu a Thrais yng Ngwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
21 Tachwedd 2024
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Llun 25 Tachwedd fel rhan o’i hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Mae staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol yn cael eu hannog i lofnodi addewid “i beidio byth ag ymddwyn yn dreisgar tuag at fenywod na merched, nac esgusodi ymddygiad o’r fath, nac yn cadw yn dawel amdano” fel rhan o ymgyrch sy’n cael ei harwain gan brosiect Dewis Choice y Brifysgol.
Bydd yr addewid, ar ffurf poster mawr, ar gael i’w lofnodi yn Undeb y Myfyrwyr tan 10 Rhagfyr ac mae eisoes yn cynnwys llofnodion yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor a Bayanda Vundamina a Llwydd Undeb Aber.
Dewis Choice yw gwasanaeth pwrpasol cyntaf y DU ar gyfer dynion hŷn, menywod a phobl anneuaidd sydd wedi profi cam-drin domestig, ac mae’n rhan o’r Ganolfan ar gyfer Cyfiawnder Oed, Rhyw a Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg.
Yn ôl Rebecca Zerk, Cyfarwyddwr a Chyd-Arweinydd Dewis Choice, mae un o bob pedair menyw yn profi cam-drin domestig yn ystod eu hoes, mae 41% o ferched y DU rhwng 14 a 17 oed mewn perthynas agos wedi profi rhyw fath o drais rhywiol gan eu partner, ac 86% o bobl 18 i 24 oed wedi profi aflonyddu rhywiol.
Dywedodd Rebecca: “Nid yw trais yn erbyn menywod a merched yn anochel; mae'n ddewis sy’n cael ei wneud gan y rhai sy'n niweidio. Drwy sefyll gyda’n gilydd i herio a gwrthod ymddygiad camdriniol, gallwn greu diwylliant o ddiogelwch, urddas, a pharch at bawb. Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn ein hatgoffa bod cadw’n dawel yn gyfystyr â chymeradwyo, a’i bod yn anghenrheidiol gweithredu. Rydym yn annog staff a myfyrwyr i lofnodi’r addewid i ddangos ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.”
Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae ymgyrch Rhuban Gwyn y Brifysgol wedi cyd-daro â chyflwyno Gwasanaeth Cymorth o ran Trais Rhywiol, Aflonyddu a Chamymddwyn a gwasanaeth Adroddiad a Chymorth cyfrinachol ar-lein gan dîm Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn gonglfaen i’n hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn menywod a merched, ac mae iddo le hollbwysig yn ein calendr prifysgol. Mae’r diwrnod hwn yn ein cymell nid yn unig i oedi a myfyrio, ond i addo’n frwd ein penderfyniad i feithrin campws sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn gefnogol i bawb. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn ddiwyro yn ein hymroddiad i frwydro yn erbyn trais o bob math, gan sefyll mewn undod â goroeswyr, a sicrhau bod y gwasanaethau a’r adnoddau hanfodol sydd eu hangen arnynt ar gael yn ddirwystr.”
Bydd yr ymgyrch eleni hefyd yn tynnu sylw at linell gymorth 24 awr Cymru gyfan Llywodraeth Cymru Byw Heb Ofn y mae modd cysylltu â hi ar 0808 8010 800 ac sy’n darparu cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd yr ymgyrch yn cael ei rhannu ar 60 sgrin ar draws campws y Brifysgol.
Mi fydd hefyd yn tynnu sylw at elusen Respect sy’n canolbwyntio ar y rhai sy’n cam-drin, gan weithio gyda phobl ifanc sy'n achosi niwed ac yn cynnig cyfleoedd i newid.
Bydd yr ymgyrch yn rhedeg dros yr 16 niwrnod, sef ‘16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais ar Sail Rhyw’, sy’n dechrau ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ac yn dod i ben ar 10 Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol.
Dywedodd Bayanda Vundamina, Llywydd Undeb Aber: “Rydym yn falch iawn o gefnogi ymgyrch Rhuban Gwyn y Brifysgol unwaith eto eleni a hoffem annog cyd-fyfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol i alw i mewn i adeilad Undeb y Myfyrwyr yr wythnos hon i lofnodi’r addewid a dangos eu cefnogaeth i ymgyrch mor bwysig. Edrychaf ymlaen hefyd at barhau i weithio gyda’r Brifysgol tuag at greu byd heb drais, lle mae pob merch yn byw heb ofn ac yn cael ei chefnogi a’i hannog i lwyddo a chyflawni ei photensial.”