Ysgol Filfeddygol yn troi’n las i amlygu her ymwrthedd gwrthficrobaidd
Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth wedi’i goleuo’n las ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd
19 Tachwedd 2024
Mae Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth wedi’i goleuo’n las i dynnu sylw at her ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn digwydd pan fo bacteria, firysau, fwngi a pharasitiaid yn newid dros amser ac nad ydynt yn ymateb i feddyginiaeth bellach, gan wneud heintiau yn anos i’w trin a chynyddu perygl lledaenu clefydau a salwch.
Mae’r ymwrthedd hwn i gyffuriau yn golygu bod gwrthfiotigau yn dod yn aneffeithiol ac felly heintiau yn gynyddol anodd neu amhosibl i’w trin.
Cynhelir gan Sefydliad Iechyd y Byd, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd yn ymgyrch fyd-eang i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ac i annog yr arferion gorau i fynd i’r afael ag e.
Yn ystod yr wythnos, mae staff yn yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, y gyntaf a’r unig un yng Nghymru, wedi troi’r goleuadau’n las er mwyn cefnogi’r fenter.
Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:
“Rwy’n falch ein bod ni fel Ysgol yn gallu helpu tynnu sylw at y pwnc pwysig hwn. Mae’r ffaith bod gan Sefydliad Iechyd y Byd fenter o’r fath yn tanlinellu cymaint sydd angen ei wneud ym maes ymwrthedd gwrthficrobaidd. Yn aml iawn, mae arferion gweddol syml sy’n gallu helpu i atal afiechyd a lleihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau. Mae llawer o waith gennym ni fel sector i wneud i godi ymwybyddiaeth o’r broblem a rhoi gwybod i amaethwyr ac eraill yn y gymuned am yr atebion.”
Mae gan Brifysgol Aberystwyth arbenigedd sylweddol yn y maes. Yn gynharach eleni, amlygwyd prosiect un academydd fel enghraifft o’r arfer gorau gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Y llynedd, enillodd Dr Gwen Rees Wobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig, sy’n cael eu rhoi i’r rheiny sydd wedi dangos llwyddiannau yn y maes, am ei rôl arweiniol yn y prosiect Arwain DGC a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae hi wedi cyflwyno ei gwaith ar Bencampwyr Rhagnodi Milfeddygol yn rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys yn Seland Newydd, Awstria ac Iwerddon.
Mae Dr Rees wedi dechrau cynnal cyfres o weithdai Iechyd Cyfunol yn Aberystwyth, sy’n dod â milfeddygon a meddygon teulu dan hyfforddiant yng Ngheredigion i rannu profiadau stiwardiaeth a thrafod yr heriau cyffredin.
Ychwanegodd Dr Gwen Rees o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae gwaith yn y maes hwn yn hanfodol bwysig, ac rwy’n ddiolchgar i allu chwarae fy rhan yn yr ymdrechion. Mae ein prosiectau eisoes wedi arwain at ddealltwriaeth well o ddatblygiad a lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd, ac mae’r Rhwydwaith Pencampwyr Rhagnodi Milfeddygol wedi datblygu cymuned arloesol o filfeddygon sydd wedi’u hyfforddi’n dda sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i sut mae gwrthbiotigau yn cael eu defnyddio yma yng Nghymru.”