Arbenigwyr bwyd a bioleg newydd i hyfforddi yn Aberystwyth
Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth
15 Tachwedd 2024
Bydd y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr bioleg a bwyd yn gallu hyfforddi ym Mhrifysgol Aberystwyth, diolch i gyllid ar gyfer canolfannau hyfforddi doethurol newydd.
Daw’r lleoedd PhD newydd yn y Brifysgol yn dilyn buddsoddiad o £500 miliwn mewn lleoedd ôl-raddedig newydd mewn prifysgolion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Bydd tair adran academaidd yn Aberystwyth – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ynghyd â’r adrannau Gwyddorau Bywyd a Chyfrifiadureg – yn chwarae rhan fawr ym mhartneriaeth hyfforddiant doethurol newydd y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol.
Nod y bartneriaeth yw datblygu biowyddonwyr sydd ag arbenigedd mewn systemau bwyd a phrosesau biolegol ar draws y system bwyd-amaeth, i drawsnewid y gadwyn gwerth bwyd a mynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd.
Yn ogystal â Phrifysgol Aberystwyth, mae’r bartneriaeth a arweinir gan Brifysgol Reading yn cynnwys Prifysgol Cranfield, Prifysgol Queens Belfast, Prifysgol Surrey, Prifysgol Brunel Llundain a Phrifysgol Lincoln.
Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn newyddion gwych. Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes yn ganolfan ymchwil a hyfforddiant o bwys sy’n mynd i’r afael â’r heriau bwyd, amaethyddol ac amgylcheddol sy’n ein hwynebu heddiw ac yfory.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant doethurol a fydd yn darparu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr dawnus a all helpu i ddatblygu atebion i rai o heriau pwysicaf y byd.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg, y Gwir Anrhydeddus Peter Kyle AS:
“Mae cefnogi’r genhedlaeth nesaf o feddyliau gwyddonol mawr i gyflawni eu potensial yn hanfodol er mwyn gwneud y darganfyddiadau hynny sy’n mynd i wella ein bywydau ac yn sicrhau bod ein heconomi yn tyfu dros y tymor hir gyda swyddi sgil uchel.
“Bydd y buddsoddiad hwn o £500 miliwn yn cefnogi ein sector addysg uwch sy’n hollbwysig. Bydd hefyd yn cefnogi mwy o fyfyrwyr disglair i wneud y gorau o’u doniau a fydd, yn eu tro, yn dyfeisio’r cyffuriau a fydd yn achub bywydau a’r ynni glân amgen sydd eu hangen i’r dyfodol, ac a fydd o fudd i’n bywydau ni i gyd.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Fonesig Ottoline Leyser:
“Mae buddsoddiadau UKRI mewn Hyfforddiant Doethurol yn hollbwysig i amcanion ymchwil ac arloesi’r Deyrnas Gyfunol.
“Mae’r gwobrau’n darparu cyllid i brifysgolion ledled y Deyrnas Gyfunol i feithrin grŵp o bobl greadigol, dalentog i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, i adeiladu partneriaethau a rhwydweithiau, ac i fynd ar drywydd y darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid yfory, gyda llawer o fuddion i gymdeithas ynghyd â thwf economaidd.”