Arbenigwyr yn galw am ddulliau newydd o gasglu data am y Gymraeg

Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles gyda Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg Osian Llywelyn (canol)

Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles gyda Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg Osian Llywelyn (canol)

08 Tachwedd 2024

Mae angen datblygu dulliau newydd o gasglu data os am gael darlun cynhwysfawr o gyflwr yr iaith Gymraeg a’r defnydd ohoni, yn ôl arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mewn adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi, dywed ymchwilwyr o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru bod nifer o fylchau yn yr ystadegau presennol am y Gymraeg a bod angen cryfhau’r seiliau data sydd ar gael, yn enwedig gan fod  newidiadau i drefniadau’r cyfrifiad dan ystyriaeth.

Maen nhw’n argymell bod data o ansawdd ar ddefnydd iaith a’i hyfywedd yn cael ei gasglu’n fwy rheolaidd ac mewn ffordd fwy systematig nag sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Byddai hyn yn cefnogi ymdrechion i adfywio’r iaith ac yn rhoi sail cadarnach ar gyfer cynllunio ieithyddol ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Mae eu canfyddiadau’n deillio o brosiect ymchwil a ariannwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn archwilio ffyrdd o ddatblygu dulliau amgenach o ddeall hyfywedd ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol fel y Gymraeg.

Dywedodd aelod o’r tîm ymchwil Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol:

"Er mwyn cael sail gadarn ar gyfer cynllunio polisïau i hybu’r Gymraeg, mae angen dealltwriaeth mwy trylwyr o sefyllfa’r Gymraeg a chryfhau’r pwyslais ar gasglu data ar ddefnydd iaith.

"Ar hyn o bryd, y cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell ar ddata ieithyddol o ran nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg neu sydd â sgiliau Cymraeg eraill neu mewn ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol eraill y Deyrnas Gyfunol. Ond mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried newidiadau i’r trefniadau ac mae awgrym na fydd y cyfrifiad yn cael ei gynnal yn y dyfodol. Mae hyn yn gyfle amserol felly i werthuso pa ddata sy’n allweddol er mwyn deall sefyllfa’r Gymraeg ac mae’n hollbwysig nad yw unrhyw newid yn gwanhau ein dealltwriaeth am sefyllfa’r Gymraeg."

Meddai aelod arall o’r tîm ymchwil, Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol:

"Er fod y cyfrifiad yn ffynhonnell bwysig o ran darparu ystadegau am y nifer sy’n medru siarad Cymraeg, mae angen cofio mai unwaith pob degawd y caiff ei gynnal ac nad yw’r data yn dweud dim wrthym ynglŷn â ble a pha mor aml mae pobl yn defnyddio’r iaith o dydd i ddydd.

"Mae angen sicrhau felly bod data yn cael ei gasglu’n fwy rheolaidd mewn perthynas â’r Gymraeg a rhoi llawer mwy o bwyslais ar geisio mesur y defnydd o’r iaith er mwyn datblygu darlun mwy crwn o’i hyfywedd, fydd yn helpu i roi polisïau ac ymatebion priodol yn eu lle. Dylid hefyd sicrhau bod y data yn cael ei rannu ac ar gael yn gyhoeddus i wahanol bartneriaid."

Ychwanegodd yr Athro Rhys Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, oedd hefyd yn rhan o’r astudiaeth:

"Yn sgil ein hymchwil ac fel rhan o’n hargymhellion, rydyn ni’n annog llunwyr polisi yng Nghymru i ddilyn esiampl Gwlad y Basg a Chatalwnia. Maen nhw’n defnyddio System Dangosyddion Ieithyddol cynhwysfawr fel rhan o’u hymdrechion i adfywio’u hieithoedd.

"Yng Nghatalwnia er enghraifft, mae’r system wedi tynnu sylw at brinder meddygon sy’n siarad Catalaneg gan arwain at ymdrechion i gefnogi doctoriaid i ddysgu’r Gatalaneg. Mae hefyd wedi amlygu sefyllfa pobl ifanc a’u defnydd iaith ar y cyfryngau amlblatffform gan arwain at ddatblygu sianel ar gyfer rhai yn eu harddegau. Byddai system o’r fath yn gaffaeliaid mawr i gynllunio ieithyddol yng Nghymru. Mae eu defnydd o ddulliau fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i fapio hyfywedd ieithoedd lleiafrifol hefyd yn arwyddocaol."

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn:

"Roeddem yn falch iawn o’r cyfle i gefnogi’r adroddiad pwysig hwn. Mae deall sefyllfa’r Gymraeg a sut, ble a phryd mae’n cael ei defnyddio yn greiddiol i bob ymdrech i’w hybu a’i hyrwyddo. Mae’r gwaith hwn yn arbennig o amserol wrth i’r Senedd graffu ar Fil y Gymraeg ac Addysg ac wrth i waith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg fynd rhagddo.

"Dylai’r datblygiadau polisi a deddfwriaethol yma esgor ar drafodaeth newydd ynghylch sut mae mesur cynnydd yn erbyn targedau am nifer y siaradwyr a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg. Dyma gyfle i feddwl o’r newydd am ba ddata sydd ei angen arnom ni a sut mae manteisio ar botensial technoleg i roi data amserol, awdurdodol ac arloesol i ni am y Gymraeg a’i siaradwyr."