Ysgolhaig yn ennill gwobr ymchwil er cof am ymgyrchydd dros hawliau menywod
Elize Freeman
07 Tachwedd 2024
Mae ysgolhaig o Aberystwyth wedi derbyn gwobr fawreddog a gyflwynir er cof am Gymraes a ymgyrchodd dros hawliau menywod ledled y byd.
Mae Elize Freeman, Cyd-Arweinydd Menter Dewis Choice, wedi cael ei dewis i dderbyn Gwobr Audrey Jones gan Gynulliad Merched Cymru.
Bellach yn eu nawfed flwyddyn, cyflwynir y gwobrau i dri unigolyn y flwyddyn, i gydnabod ysgolheictod ôl-raddedig sy'n canolbwyntio ar brofiadau menywod a merched yng Nghymru.
Mae Dewis Choice, sydd wedi’i leoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn brosiect ymchwil a datblygu sy'n canolbwyntio ar 'brofiadau byw' pobl hŷn sydd wedi goroesi cam-drin domestig wrth iddynt lywio eu ffordd drwy wasanaethau cymorth a systemau cyfiawnder troseddol a sifil. Mae'r fenter hefyd yn cynnig gwasanaeth i bobl hŷn yn rhanbarth Sir Gaerfyrddin sydd wedi dioddef cam-drin domestig.
Mae Elize Freeman, a ymunodd â Dewis Choice yn 2015, yn Ymarferydd Lles profiadol, yn Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig a Rhywiol, ac yn Hyrwyddwr materion yn ymwneud â Dementia. Mae’n gyd-awdur y cyhoeddiad ‘Transforming the response to domestic abuse in later life: Dewis Choice practitioner guidance’.
Meddai Elize:
"Hoffwn ddiolch i Gynulliad Merched Cymru am fy newis ar gyfer Gwobr Audrey Jones a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig i godi proffil menywod hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig yng Nghymru ymhellach. Mae menywod hŷn yn aml ar goll o’r drafodaeth am gam-drin domestig, ac rwy'n teimlo'n freintiedig fy mod wedi cael cwrdd â chymaint o fenywod hŷn ysbrydoledig sydd wedi rhannu eu straeon â nghydweithwyr a minnau yn Dewis Choice, i lywio'r gwaith o ddatblygu ymatebion i ddioddefwyr hŷn."
Roedd Audrey Jones (1924-2014), un o sylfaenwyr Cynulliad Merched Cymru, yn arloeswraig ffeministaidd a ymgyrchodd dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac roedd ganddi ddiddordeb brwd mewn tystiolaeth o ymchwil ffeministaidd i hyrwyddo, amlygu a datblygu cyfleoedd i fenywod.
Nod y wobr er cof amdani yw cynorthwyo ysgolheigion sy’n fenywod i rannu eu hymchwil a'u syniadau a allai lywio penderfyniadau’n ymwneud â lobïo ac ymgyrchu.
Dywedodd Dr Ola Olusanya, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Llongyfarchiadau mawr i Elize ar gael ei dewis i dderbyn y wobr hon. Yn berthnasol iawn, roedd Audrey Jones yn credu’n gryf y dylai ymchwil fwydo i mewn i bolisïau a'u siapio, yn hytrach nag eistedd ar silff. Felly mae llwyddiant Elize yn gydnabyddiaeth o'i holl ymroddiad a'i hymrwymiad i ymchwil sy’n cael effaith."
Cyflwynir y wobr yn swyddogol yng Nghynhadledd Flynyddol Cynulliad Merched Cymru a gynhelir yng Nghaerdydd ar 16 Tachwedd, lle bydd Elize Freeman yn rhoi cyflwyniad am ei hymchwil.