Y Brifysgol yn cynnal Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli

Eurig Salisbury. Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli ym Mhrifysgol Aberystwyth, 6 Tachwedd 2024.

Eurig Salisbury. Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli ym Mhrifysgol Aberystwyth, 6 Tachwedd 2024.

06 Tachwedd 2024

Ymwelodd disgyblion ysgol o bob rhan o'r canolbarth â Phrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Mercher 6 Tachwedd) yn rhan o ddigwyddiad Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli 2024.

Mwynhaodd y disgyblion, rhwng 11 a 14 oed, ddiwrnod o weithdai creadigol a rhyngweithiol yn dathlu'r iaith Gymraeg gydag awduron, beirdd a pherfformwyr blaenllaw o Gymru oll dan arweiniad yr awdur, bardd a sgriptwraig, Anni Llŷn.

Cyflwynodd Siôn Tomos Owen, cyflwynydd, gwawdluniwr, awdur a darlunydd dwyieithog, weithdy yn ystyried y bydoedd y gallwn eu hadeiladu a’r straeon y gallwn eu creu ar gyfer pobl rydym yn eu gweld bob dydd.

Gwnaeth Leila Navabi, ysgrifennwr, cynhyrchydd a digrifwr, wahodd y disgyblion i rannu beth sy'n gwneud iddynt chwerthin a chynhaliodd weithdy yn edrych ar sut i ysgrifennu sgets o ansawdd teledu o’r dechrau i'r diwedd.

Cynhaliodd Eurig Salisbury, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth sesiwn ysgrifennu creadigol.  Dywedodd:

“Roedd yn hyfryd annog y disgyblion i feddwl o’r newydd am y byd o’u hamgylch, gan ddysgu am grefft gwrando ac edrych ac am grefft craffu ar sain geiriau er mwyn creu lluniau mewn llinellau. Mae deall ble ry’n ni’n byw yn y byd yn bwysicach nag erioed, ac fe ddangosodd y bobl ifanc fod ganddyn nhw’r ddawn i wneud hynny mewn ffordd ddychmygus, greadigol.”

Nod y Sgriblwyr Cymraeg a'r Daith Scribblers cyfrwng Saesneg a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn yw ennyn diddordeb ac annog y genhedlaeth nesaf i adrodd straeon a sgwrsio, gan ysbrydoli empathi a chreadigrwydd.

Bellach yn eu trydedd flwyddyn ar ddeg, mae'r teithiau'n rhoi cyfle i ddisgyblion ymgysylltu â'u prifysgolion agosaf a phrofi bywyd ar y campws hefyd.

Dywedodd Prif Weithredwr Gŵyl y Gelli, Julie Finch: 

"Rydym yn credu bod diwylliant yn perthyn i bawb. Trwy fynd ag awduron yn uniongyrchol at ddisgyblion ledled Cymru mewn gweithdai creadigol, am ddim, nod Sgriblwyr Cymraeg yw ehangu mynediad at ysbrydoliaeth yr Ŵyl wrth ysgogi cariad at lenyddiaeth o oedran ifanc. Drwy gymryd rhan yn ein digwyddiadau, bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ystyried eu creadigrwydd, cymryd rhan mewn sgyrsiau newydd, a darganfod ffyrdd newydd o fynegi eu hunain ac ysbrydoli eu hunaniaethau creadigol."

Cynhelir Sgriblwyr Cymraeg Addysg Gŵyl y Gelli 2024 rhwng 4 ac 8 Tachwedd, gyda gweithdai yn cael eu cynnal ym mhrifysgolion Abertawe, Caerdydd, Bangor a Wrecsam yn ogystal ag Aberystwyth.