Byrgyr madarch Mwng Llew cyntaf ar werth wedi prosiect ymchwil

Byrgyr Madarchen Mwng Llew

Byrgyr Madarchen Mwng Llew

01 Tachwedd 2024

Mae byrgyr Mwng Llew cyntaf y Deyrnas Gyfunol wedi mynd ar werth mewn bwyty yng Nghymru gyda chymorth ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.

Gan ddefnyddio madarch ffres a dyfwyd yn Sir Gaerfyrddin, mae Madarch Tŷ Cynan yn cyflenwi’r cynhwysyn allweddol i’r bwyd arloesol hwn ar gyfer caffi ym Mrynmill, Abertawe.

Mae’r Mwng Llew yn cael eu cyflenwi gan Tetrim Teas fel rhan o brosiect ymchwil cydweithredol a ariennir gan Innovate UK ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, Llaeth y Llan, Phytoquest ac Afallen.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu cynhyrchion bwyd gweithredol sy’n cynnwys cynhwysion fel Mwng Llew a all gynnig buddion iechyd ychwanegol.

Dywedir bod gan y madarch fuddion iechyd gwybyddol gan gynnwys helpu i wella gallu unigolyn i ganolbwyntio, mynd i’r afael ag effeithiau meddwl pŵl a gwella lles.

Dywedodd Dr Pilar Martinez Martin o Brifysgol Aberystwyth:

“Roedden ni’n ddiolchgar i gyfrannu ein harbenigedd at y prosiect hwn. Mae'n cyd-fynd â ffocws llawer o'n gwaith - rhoi mwy o ddewisiadau bwyd iach a chynaliadwy i bobl. Mae hefyd yn ffordd o hybu’r economi leol a rhoi mwy o gynnyrch lleol ar ein platiau.”

Caiff y Mwng Llew eu cynaeafu yn Nhrimsaran, Sir Gaerfyrddin, a’u cludo i Ground Plant Based Coffee ym Mrynmill, caffi bach yn gweini cludfwyd a choffi arbenigol a agorodd yn 2021.

Dywedodd Helen Wilson o’r caffi:

“Dechreuon ni werthu madarch meddyginiaethol mewn coffi yn gynnar yn 2023 ac rydyn ni wedi gweld poblogrwydd a diddordeb yn y Mwng Llew yn tyfu.

“Bues i’n chwilio am gyflenwr Mwng Llew ffres o Gymru ers sbel. Pan wnes i ddarganfod ei fod yn cael ei dyfu yn Sir Gaerfyrddin, o’n i’n methu aros i arbrofi ag ef a gweld a ellid ei wneud yn fyrgyr.

“Ers hynny rydyn ni wedi parhau i wthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl gyda bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion. Ein cymhelliad yw cynhyrchu bwyd a diod sydd nid yn unig yn dda i iechyd pobl ond sydd hefyd yn well i’r amgylchedd a chynaliadwyedd, a dyna’n union yw Byrgyr Mwng Llew a gynhyrchir yng Nghymru gennym ni.”

Ychwanegodd Joseph Kidd, o gwmni ymgynghori busnes cynaliadwy Afallen:

“Er bod y Mwng Llew wedi bod yn creu bwrlwm ers tro bellach, y cam mawr nesaf yw ei ymgorffori mewn bwydydd fel ei fod ar gael yn ehangach. Mae llefydd fel Ground ar flaen y gad yn hyn o beth gyda datblygiad eu byrgyr, sy’n cyfuno blas gwych gyda buddion iechyd gwerthfawr.”